Wrecsam yn trechu Forest ar giciau o'r smotyn yng Nghwpan yr FA

Ollie RathboneFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Rathbone sgoriodd ail gôl Wrecsam yn y 90 munud cyntaf nos Wener a 4-3 oedd sgôr y ciciau o'r smotyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Wrecsam wedi ennill gêm bêl-droed yn erbyn tîm o Uwch Gynghrair Lloegr nos Wener yng Nghwpan yr FA ar giciau o'r smotyn.

Hon oedd trydedd rownd y gwpan a 3-3 oedd y sgôr ar ôl 90 munud ar y Cae Ras, gyda Liberato Cacace, Oliver Rathbone a Dominic Hyam yn hawlio'r goliau i Wrecsam.

Aeth y gêm i amser ychwanegol yn erbyn Nottingham Forest, ond gyda'r ddau dîm yn methu sgorio - aeth hi i giciau o'r smotyn, gyda Wrecsam yn ennill yn y diwedd.

Enillodd y Dreigiau bedair gêm yn olynol dros y 'Dolig ac maent yn nawfed yn y Bencampwriaeth - un pwynt i ffwrdd o'r gemau ail gyfle.

Mae'r 'Tricky Trees' yn cael amser caled yn yr Uwch Gynghrair, ond nhw oedd y ffefrynnau cyn yr ornest.

Bydd y clybiau sydd i wynebu ei gilydd ym mhedwaredd rownd y gystadleuaeth yn cael eu tynnu allan o'r het ar 12 Ionawr am 18:30.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.