Rhoi £18m i'r Cae Ras yn 'allweddol i Wrecsam' - gweinidog

Dyma gynllun rhithiol o'r cynllun ar gyfer y Kop, eisteddle newydd y Stok Cae Ras. Mae'n adeilad mawr gyda 5 panel a'r ddraig goch i'w gweld ar ochr chwith y stadiwm. Mae cefnogwyr yn chwifio baneri y tu allan i'r stadiwm newydd.Ffynhonnell y llun, Wrexham AFC
Disgrifiad o’r llun,

Bydd £18m o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar y Kop - eisteddle newydd ar gyfer 5,500 o gefnogwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gweinidog yn Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am chwaraeon wedi amddiffyn y penderfyniad i roi £18 miliwn o arian cyhoeddus i Glwb Pêl-droed Wrecsam er mwyn gwella'r stadiwm.

Wrth geisio cyfiawnhau'r penderfyniad, dywedodd Jack Sargeant fod y "buddsoddiad yn rhan o brosiect ehangach o adfywio'r ardal ac yn allweddol i ddatblygiad y ddinas".

Mae Wrecsam AFC yn dadlau y bydd hyn yn "creu swyddi ac yn dod â manteision economaidd i'r ardal".

Mae rhai yn feirniadol, gydag un arbenigwr cyllid pêl-droed yn dweud ei bod hi'n "anarferol rhoi arian cyhoeddus tuag at gynllun masnachol".

'Creu swyddi a hwb i economi'r ardal'

Mae'r clwb yn dweud bod y cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r cyngor lleol yn rhan o Brosiect Porth Wrecsam, gyda'r gwelliannau'n cynnwys uwchraddio goleuadau, y cae a seilwaith arall er mwyn cwrdd â safonau digwyddiadau rhyngwladol.

"Bydd hyn yn creu swyddi ac yn dod â manteision economaidd i'r ardal ac yn denu ymwelwyr i'r digwyddiadau yno."

Fodd bynnag, mae rhai wedi beirniadu'r penderfyniad, gan gynnwys yr arbenigwr cyllid pêl-droed Stefan Borson.

Dywedodd ei fod yn anarferol defnyddio arian cyhoeddus ar brosiect masnachol hyfyw.

Ar raglen Politics Wales ddydd Sul, ceisiodd Jack Sargeant gyfiawnhau'r grant, er bod gan y clwb siawns o ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair, y gynghrair gyfoethocaf yn y byd, ac mai'r actorion o Hollywood Ryan Reynolds a Rob Mac [McElhenney gynt] yw perchnogion y clwb.

Llun o Jack Sargeant yn gwisgo siwt ddu, crys gwyn a thei glas. Mae'r gwisgo sbectol ac yn gwenu ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jack Sargeant, y gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon, bydd yr arian yn trawsnewid dinas Wrecsam

Yn ogystal, mynegodd Mr Sargeant ei hyder yn Undeb Rygbi Cymru [URC], sydd wrthi'n gwneud newidiadau dadleuol, gan gynnwys lleihau nifer y timau proffesiynol i dri erbyn 2027.

Bydd y tri thîm yn cael yr un faint o gyllid, £6.4m y flwyddyn gan gynyddu i £7.8m gydag un tîm wedi ei leoli yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd a'r llall yn y gorllewin.

Os na all y timau presennol - Caerdydd, y Gweilch, y Scarlets a'r Dreigiau - gytuno ar drefniant, bydd yr undeb yn agor proses dendro ar gyfer y trwyddedau.

Dywedodd Mr Sargeant fod rhaid i URC wrando ar gefnogwyr ac ar gymunedau ledled Cymru, gan obeithio y bydd y newidiadau'n helpu i adfer llwyddiant rygbi Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.