Cwestiynu penderfyniad i roi arian cyhoeddus i Glwb Pêl-droed Wrecsam

Y Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y grantiau eu rhoi i'r clwb er mwyn helpu i ariannu eisteddle newydd yn y Cae Ras

  • Cyhoeddwyd

Mae arbenigwr cyllid pêl-droed wedi cwestiynu pam fod cymaint o arian cyhoeddus, ar ffurf grantiau nad oes rhaid ad-dalu, wedi cael eu rhoi i Glwb Pêl-droed Wrecsam.

Cafodd y grantiau eu rhoi er mwyn helpu i ariannu eisteddle newydd yn y Cae Ras.

Mae Cyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i ddarparu £18m tuag at gost gwelliannau'r Cae Ras a'r cyffiniau.

Ond mae Stefan Borson, sy'n bennaeth chwaraeon mewn cwmni cyfreithiol yn Llundain, yn dweud ei fod yn "anarferol" i'r llywodraeth helpu i ariannu buddsoddiad o'r fath yn y modd yma, oni bai ei bod hi'n amhosib i brosiect lwyddo yn fasnachol.

"Yn amlwg nid ydy hynny'n wir yn y sefyllfa yma," meddai.

Y Kop posibFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad digidol o sut allai'r Kop newydd edrych ar ôl ei ddatblygu

Dywedodd Mr Borson fod adroddiad strategol y clwb, o haf 2024, yn cydnabod pwysigrwydd datblygu'r Cae Ras.

"Bydd [yr eisteddle] yn ffordd y gallen nhw gynhyrchu mwy o refeniw, gwerthu mwy o seddi, cael mwy o gefnogwyr a datblygu'r busnes.

"Mae'n anarferol iawn, ar y cyfan, y byddai'r llywodraeth yn gweld hi'n briodol, mewn amgylchedd economaidd sydd o dan straen mawr, i flaenoriaethu cyllid clwb pêl-droed preifat - sy'n eiddo i bobl fusnes o'r UDA - sydd, rhyngddynt, yn llythrennol â biliynau o bunnoedd mewn asedau."

Aeth ymlaen i ddweud y byddai'n "debygol iawn, fyddwn i'n dweud, y byddai'r perchnogion wedi talu amdano eu hunain. Mae'n hanfodol i'r clwb pêl-droed".

"Mae gan bob clwb yn y wlad bedwar eisteddle - byddai pob clwb sydd âg unrhyw uchelgais o gyrraedd yr Uwch Gynghrair hefo pedwar eisteddle.

"Mae'n debygol iawn y bydd yr holl fudd, dros amser, yn cronni i'r grŵp yma o berchnogion," meddai Mr Borson.

'Ffracsiwn o gapasiti Stadiwm Dinas Caerdydd'

Ychwanegodd, er bod cynnydd y clwb wedi denu cyhoeddusrwydd byd-eang ac wedi creu "effaith halo", ei bod hi'n llawer anoddach mesur y budd economaidd uniongyrchol i ardal Wrecsam.

Cwestiynodd faint o gemau rhyngwladol fydd yn cael eu chwarae yn Wrecsam ar ôl cwblhau'r eisteddle newydd - un o'r rhesymau a gafodd eu rhoi dros ddefnyddio arian cyhoeddus ar eisteddle newydd y Kop.

"Byddwn i'n awgrymu na fydden nhw'n chwarae mwy nag un gêm y tymor yn Wrecsam ar gyfer pêl-droed rhyngwladol – os hynny – oherwydd mae capasiti'r stadiwm yn amlwg yn ffracsiwn o gapasiti Caerdydd."

Y Kop posibFfynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Wrecsam nad ydy'r grantiau yn ad-daladwy, ond bod amodau ynghlwm â'r cyllid.

"Yn absenoldeb cyllid grant, roedd y clwb yn bwriadu ailddatblygu eisteddle'r Kop i safon addas ar gyfer y gynghrair yr oedden nhw'n chwarae ynddi.

"Ond, ni fyddai hynny wedi bod o safon addas ar gyfer cynnal gemau rhyngwladol yn Wrecsam.

"Gan ddefnyddio cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyngor wedi darparu cyllid i'r clwb pêl-droed i alluogi i'r cynlluniau ailddatblygu gael eu gwella i safon fydd yn galluogi cynnal gemau rhyngwladol yn Wrecsam unwaith eto [Categori 4 UEFA]."

Ychwanegodd y cyngor y bydd "buddsoddi yn ffabrig y tir rŵan, yn sicrhau y bydd yr arian sydd wedi'i fuddsoddi o fudd i genedlaethau'r dyfodol - nid yn unig yn ariannol o ran buddsoddiadau yn y dyfodol a gwariant ymwelwyr, ond yn bwysicach fyth bydd yn cadw ein diwylliant a'n treftadaeth unigryw ar gyfer cenedlaethau i ddod".

'Catalydd ar gyfer creu swyddi lleol'

Mae'r clwb wedi cyhoeddi datganiad hefyd, gan ddweud bod y grant gan Lywodraeth Cymru "wedi cael ei ddyfarnu i Glwb Pêl-droed Wrecsam trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae'n rhan o Brosiect Porth Wrecsam ehangach a chynllun adfywio ar gyfer yr ardal".

"Mae'n cynnwys defnyddio arian ar gyfer gwelliannau cyffredinol i gyfleusterau'r Cae Ras a datblygu eisteddle Kop newydd.

"Mae'r gwelliannau yma yn cynnwys uwchraddio'r goleuadau, y cae a seilwaith y stadiwm i ddod â'r cyfleusterau at y safonau gofynnol i gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol.

"Bydd effaith y gwelliannau hyn a'r gallu i gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol yng ngogledd Cymru, yn gatalydd ar gyfer creu swyddi lleol ac yn darparu hwb economaidd cyffredinol i'r rhanbarth."

Ychwanegodd y clwb mai'r rheswm am hynny ydy'r "nifer cynyddol o ymwelwyr sy'n cael eu denu i'r digwyddiadau a'u gweithgarwch economaidd tra y bydden nhw yn yr ardal".

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wrth ein boddau bod cynlluniau ar gyfer eisteddle newydd yn y STōK Cae Ras yn dod yn realiti, gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam a'i berchnogion yn darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid i ddarparu strwythur trawiadol a fydd yn trawsnewid y stadiwm".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.