Enseffalitis: 'Angen gw'bod mwy wedi i Dad farw o'r cyflwr'

Mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Aled Davies yn cefnogi ymgyrch newydd F.L.A.M.E.S i godi ymwybyddiaeth o enseffalitis ar ôl colli ei dad, Huw
- Cyhoeddwyd
Mae enseffalitis yn gyflwr sy'n effeithio ar dri o bobl bob munud ledled y byd, ond mae ymgyrchwyr yn rhybuddio bod ymwybyddiaeth y cyhoedd ohono yn "beryglus o isel".
Un sy'n cefnogi ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth yw'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Aled Davies - fe gafodd ei dad ddiagnosis o'r cyflwr pan oedd Aled yn 14 oed.
Mae'r cyflwr yn achosi llid neu chwydd bygythiol ar yr ymennydd a gall arwain at ffitiau, cyfnodau o ddryswch a cholli'r gallu i gerdded neu siarad.
Er bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi enseffalitis fel pryder iechyd byd-eang cynyddol dywed elusen Encephalitis International ei fod yn gyflwr sy'n parhau i gael ei anwybyddu neu ei gamddeall yn aml.
Wrth nodi Diwrnod Enseffalitis y Byd ar 22 Chwefror mae Aled ac eraill yn annog pobl i adnabod yr arwyddion yn gynt er mwyn ceisio atal canlyniadau sy'n newid bywyd.
Dywed Llywodraeth Cymru mai'r byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ar gyfer cleifion "yn unol â safonau a chanllawiau clinigol perthnasol".

Dywedodd Aled Davies bod chwarae rygbi wedi bod o gymorth mawr iddo yn ystod salwch ei dad
Mae Aled Davies yn cofio sut y dechreuodd ei dad, Huw, deimlo'n sâl yn 2006 gyda symptomau tebyg i ffliw.
O fewn dyddiau roedd yn cael ffitiau ac yn ddryslyd a bu'n rhaid galw ambiwlans ar frys.
Er iddo gael ei anfon adref i ddechrau fe waethygodd ei gyflwr ac fe gafodd ddiagnosis o enseffalitis.
"O'dd hen dŷ ffarm gyda ni ac o'dd ffenest lan lofft yn y toiled - roedd e'n meddwl taw drws oedd e, ac roedd e bron â chwympo mas o hwnna," meddai Aled Davies.
"Ac wedyn fe gaeth e ffit eto, aeth e i'r ysbyty ond yna daeth e ma's eto.
"Nôl yn 2006 doedd enseffalitis ddim yn rhywbeth roedd pobl yn adnabod, felly nawr mae'n bwysig i ni drio gwthio pethau a gw'bod be' i edrych mas amdano."
'Fi'n edrych ar ôl Dad, dim Dad yn edrych ar ôl fi'
Wrth i dad Aled dreulio misoedd yn yr ysbyty tan ei farwolaeth yn 2014 fe newidiodd bywyd y teulu yn llwyr.
"Dda'th e fyth nôl i ffermio a phan o'dd e adref roedd yn rhaid iddo ddefnyddio dyddiadur i gofnodi pethau bob dydd gan fod cofio pethe yn y tymor byr yn broblem.
"Roedd un amser yn y dechrau lle doedd e ddim yn gw'bod mai fi oedd yno.
"O'n i'n edrych ar ôl Dad, dim Dad yn edrych ar ôl fi. Felly, o'dd hwnna'n anodd, ond fel teulu ni'n glos iawn – teulu bach, ond teulu clos," meddai.
Dywedodd hefyd fod y cyfnod wedi ei wneud yn gryfach yn feddyliol ac ychwanegodd fod chwarae rygbi wedi rhoi ffocws iddo ar adeg anodd iawn yn ei fywyd.
"Ro'dd yn grêt i fi ffocysu ar rywbeth arall ac mae hynny wedi fy ngwneud yn fwy cryf yn feddyliol fel chwaraewr rygbi ac mewn bywyd."

Mae Aled yn annog teuluoedd i adnabod y symptomau'n gynnar er mwyn osgoi canlyniadau difrifol
Mae Aled bellach yn cefnogi ymgyrch newydd F.L.A.M.E.S gan Encephalitis International, dolen allanol, sy'n ceisio helpu pobl i ddod i wybod am symptomau'r cyflwr yn gynt.
Mae'r acronym yn cynrychioli'r symptomau - sef symptomau tebyg i ffliw, colli ymwybyddiaeth, cur pen difrifol, problemau cof, newidiadau emosiynol neu ymddygiad a ffitiau.
Dywedodd Aled ei bod yn hanfodol bod teuluoedd a meddygon yn gwybod beth i chwilio amdano gan y gall unrhyw oedi wrth geisio cael cymorth arwain at ganlyniadau difrifol a hirdymor.
Ychwanegodd y byddai'n annog unrhyw deulu sy'n mynd drwy brofiad tebyg i "edrych ar ôl eich gilydd" a sicrhau fod pawb yn siarad yn agored am eu teimladau.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i wasanaethau i bobl sydd ag anhwylderau fel enseffalitis "gael eu datblygu a'u darparu gan fyrddau iechyd yng Nghymru yn unol â safonau a chanllawiau clinigol perthnasol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2025

- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
