Achosion o'r cyflwr enseffalitis yn uwch yn sgil Covid
- Cyhoeddwyd

Dywed Ava Easton o'r Gymdeithas Enseffalitis ei bod yn bwysig cael brechlyn Covid er mwyn atal heintiau eraill
Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn yr achosion o'r cyflwr enseffalitis yn sgil Covid, medd elusen.
Llid yr ymennydd yw enseffalitis sy'n cael ei achosi gan haint firol neu gan system imiwnedd y corff.
Yn ôl un sydd wedi ei oroesi mae'n "laddwr cudd nad oes neb yn siarad amdano".
Mae'r Gymdeithas Enseffalitis, dolen allanol am godi ymwybyddiaeth am y cyflwr ac yn annog pobl i gael brechlyn Covid.
Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Ava Easton: "Y tebygrwydd yw bod pobl yn fwy cyfarwydd â llid yr ymennydd, sef llid ar leinin yr ymennydd ond mae enseffalitis yn effeithio ar yr ymennydd ei hun.
"Be 'dan ni'n ei weld yw achosion sy'n cael eu cysylltu â Covid-19. Mae data cynnar yn awgrymu y bydd 13 o bob cant o bobl sydd wedi cael Covid ac sydd â chymhlethdodau niwrolegol yn cael cyflwr llidus ar yr ymennydd - yn eu plith y cyflwr enseffalitis.
"Mae'n gwaith wedi cynyddu yn ddirfawr yn ystod y misoedd diwethaf."
Ychwanegodd bod yr elusen yn ceisio codi ymwybyddiaeth am y cyflwr er mwyn sicrhau bod pobl yn cael brechlyn Covid.
"Yn anffodus dyw'r brechlyn ddim yn atal pob achos o enseffalitis ond mae brechu yn gallu atal ambell achos ohono," meddai.
"Ry'n ni'n annog pobl i gymryd y brechlyn, nid yn unig i stopio Covid ond hefyd i atal cyflyrau niwrolegol cysylltiedig."
Mae enseffalitis yn effeithio ar dros hanner miliwn o bobl ar draws y byd - un person y funud - ac mae 6,000 achos yn DU, medd yr elusen.
Ond dyw wyth o bob 10 person ddim wedi clywed am y cyflwr ac y mae'r elusen am godi ymwybyddiaeth pobl am enseffalitis, sepsis a llid yr ymennydd.
'Roedd Wills yn fachgen iach'

Bu farw Wills Flitt o'r cyflwr enseffalitis pan yn 11 oed
Bu farw Wills Flitt, ŵyr Malcolm Flitt o Lanwrtyd ym Mhowys o gyflwr enseffalitis dair blynedd yn ôl.
"Doedd ganddo ddim problemau iechyd - roedd e'n fachgen 11 oed a oedd yn mwynhau pêl-droed a chriced ac roedd e'n eithriadol o glyfar," meddai.
Un noson ychydig cyn ei ben-blwydd yn 11 oed fe gafodd Wills ffit nad oedd yn stopio. Cafodd ei ruthro i'r ysbyty ac yna ei drosglwyddo i uned arbenigol yn Southampton. Fe ddarganfuwyd ei fod yn dioddef o fath o enseffalitis a oedd wedi niweidio ei ymennydd.
"Cafodd ei ryddhau o'r ysbyty ond doedd e ddim yr un bachgen," meddai Mr Flitt.
"Yn dilyn hynny roedd e'n cael mwy o ffitiau a mewn ac allan o'r ysbyty yn gyson. Bu'n byw gyda ni - a fy ngwraig, ei fam-gu, oedd ei ofalwraig am ddwy neu dair blynedd.
"Roedd y cyfan wedi cael effaith ar ansawdd ei fywyd a doedd e fyth yr un fath eto. Roedd y cyfan yn dorcalonnus."
'Lladdwr cudd'

Fe ddatblygodd Lewis Tandy y cyflwr enseffalitis pan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe
Ddeufis wedi iddo ddechrau ar ei radd meistr ym Mhrifysgol Abertawe, fe gafodd Lewis Tandy glwy'r pennau a arweiniodd at gyfres o sgil effeithiau.
"Bythefnos neu dair wedi hynny roeddwn i'n gwybod nad oedd pethau'n iawn," meddai Lewis, sy'n 24 oed ac o Luton.
Wedi iddo ddisgyn yn ei gartref, aeth at ei feddyg teulu a doedd e ddim yn gallu siarad yn iawn.
"Wedi i fy rhieni gyrraedd yr ysbyty lle roeddwn i, doeddwn i ddim yn eu hadnabod ac yna fe ges i ffit a'n rhoi ar beiriant anadlu," meddai.
Ddeufis wedi ei ben-blwydd dywedwyd wrth ei rieni na fyddai o bosib yn goroesi ac yna fe ddangosodd profion bod clwy'r pennau wedi datblygu yn llid ar yr ymennydd. Bu mewn uned gofal dwys am bythefnos.
O un feirws i bandemig
Yn ffodus fe wnaeth Lewis oroesi, a dywed nad oedd ganddo syniad beth oedd yn digwydd yn y byd pan adawodd yr ysbyty.
"Fe ddes i allan o'r ysbyty ym mis Chwefror 2020 a fis wedyn dyma Covid yn dechrau. Felly o gael gwared o un feirws rhaid oedd ymdopi gyda bodolaeth un arall. Mae wedi bod yn 12 mis rhyfedd iawn."
Wedi cyfnod hir o ddod yn well dywed Lewis ei fod yn awyddus i rannu ei brofiadau a'i fod am i bobl wybod pa mor gloi y gall salwch waethygu.
"Doeddwn i erioed wedi clywed am enseffalitis - lladdwr cudd yw e lle mae'ch ymennydd chi'ch hun yn eich dal yn garcharor," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019

- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2018
