Diswyddo'r Ceidwadwr James Evans AS am ystyried ymuno â Reform

James Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd James Evans wedi beirniadu arweinydd y Blaid Geidwadol yn y DU, Kemi Badenoch

  • Cyhoeddwyd

Mae'r AS Ceidwadol James Evans wedi cael ei daflu allan o grŵp ei blaid yn y Senedd wedi honiad iddo ddweud wrth arweinydd ei blaid yno ei fod yn ystyried ymuno â Reform.

Mae Darren Millar wedi tynnu Evans o'i gabinet cysgodol ac wedi tynnu'r chwip yn ôl, gan ei wneud yn AS annibynnol.

Dywedodd Millar fod Evans wedi "parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr Reform ynghylch y posibilrwydd o adael y blaid".

Dywedodd Evans: "Byddaf yn cymryd peth amser yn yr wythnosau nesaf i ystyried fy nyfodol gwleidyddol."

Ddydd Sul, roedd Evans wedi beirniadu arweinydd plaid Geidwadol y DU, Kemi Badenoch ac wedi galw am newid ac nid oedd yn barod i ateb cwestiynau ynglŷn â'r posibilrwydd y byddai'n dilyn ei "ffrind egwyddorol" Robert Jenrick - wnaeth adael y blaid i ymuno â Reform yr wythnos ddiwethaf.

'Dim ymrwymiad'

Dywedodd Darren Millar: "Y bore yma, penderfynais dynnu James Evans o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig a thynnu chwip y Ceidwadwyr oddi arno.

"Gwneuthum hynny ar ôl cael gwybod gan James ei fod yn parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr Reform ynghylch y posibilrwydd o adael y blaid, er gwaethaf ei sicrwydd personol ddydd Gwener ei fod wedi gwrthod cysylltiad a wnaed gan y blaid honno'r wythnos diwethaf.

"Yn ddealladwy, rwy'n disgwyl i bob AS a phob ymgeisydd Ceidwadol Cymreig fod yn 100% ymrwymedig i'n plaid a'n cynllun i drwsio Cymru.

"Yn anffodus, nid oedd James yn gallu rhoi'r ymrwymiad hwnnw i mi."

Ymatebodd James Evans: "Rwyf wedi bod yn bryderus ers peth amser ynghylch cyfeiriad y Blaid Geidwadol ar lefel y DU ac rwy'n teimlo nad yw bellach yn cynrychioli fy ngwerthoedd a'm credoau ceidwadol.

"Dylai gwleidyddiaeth fod yn eglwys eang o safbwyntiau a barn, ac mae'n ddiwrnod trist pan nad yw'r blaid yn caniatáu rhyddid barn na beirniadaeth.

"Rwy'n parchu fy nghydweithwyr yng Ngheidwadwyr Cymru, yn enwedig Darren Millar AS fel arweinydd a Paul Davies AS, ond rwy'n teimlo nad yw Plaid Geidwadol y DU bellach yn cynrychioli fy marn a'm gwerthoedd.

"Mae fy ffocws yn parhau i fod 100% ar gynrychioli pobl Brycheiniog a Maesyfed hyd eithaf fy ngallu.

"Byddaf yn cymryd peth amser yn yr wythnosau nesaf i ystyried fy nyfodol gwleidyddol."

Dywedodd Paul Davies AS fod Darren Millar "wedi 'neud y peth iawn oherwydd nath James yn eithaf clir bod e'n methu ymrwymo i'r Ceidwadwyr Cymreig yma yn y Senedd a felly doedd dim dewis gyda Darren ond diswyddo James o'r grŵp Ceidwadol".

"Mae'n siomedig fod pobl yn mynd i Reform, dwi ddim yn deall pam ma pobl yn ymuno gyda Reform oherwydd ar ddiwedd y dydd, dwi yn credu bod Reform yn blaid sosialaidd.

"Does dim arweinydd 'da nhw yng Nghymru, does dim ymgeiswyr dan nhw yng Nghymru, does dim polïsau gyda nhw yng Nghymru a 'yn ni'n hollol wahanol fel Ceidwadwyr Cymreig - ma' gyda ni gynllun credadwy i gynnig i bobl Cymru dyna beth byddwn ni yn cynnig nawr yn yr etholiadau dros y misoedd nesa," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Y penwythnos hwn, roedd James Evans yn siarad am 'ei ffrind' Robert Jenrick ac mae'n edrych fel ei fod ef yn neidio o'r llong hefyd.

"Mae Cymru'n falch o'i record ailgylchu, ond mae Reform yn profi eu hunain i fod yr ailgylchwr mwyaf o Dorïaid.

"Heb arweinydd Cymreig, a dim polisïau Cymreig, mae angen i bobl Cymru ofyn i'w hunain, a yw Reform yn werth y risg?"

Dywedodd AS y Democratiaid Rhyddfrydol, David Chadwick, bod y Torïaid mewn "anhrefn llwyr".

Mae BBC Cymru yn deall bod proses ar y gweill i ddiddymu aelodaeth James Evans o'r Ceidwadwyr.

Yr unig AS dros Reform yn y Senedd ar hyn o bryd yw cyn AS y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones, a ymunodd yr haf diwethaf.