AS Reform a gafodd ei gwahardd o'r Senedd yn gwadu ei bod yn hiliol

Laura Ann JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Ann Jones wedi ymddiheuro am ddefnyddio sarhad hiliol i ddisgrifio pobl Tsieineaidd mewn sgwrs WhatsApp yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae'r unig aelod o blaid Reform yn y Senedd - a gafodd ei gwahardd am wneud sylwadau sarhaus mewn sgwrs WhatsApp - wedi gwadu ei bod yn hiliol.

Cafodd Laura Ann Jones ei gwahardd am bythefnos y llynedd yn dilyn ymchwiliad gan gomisiynydd safonau'r Senedd, dolen allanol, Douglas Bain.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd Ms Jones ei bod "wir yn edifar" am ddefnyddio sarhad hiliol i ddisgrifio pobl Tsieineaidd ym mis Awst 2023 a'i bod wedi derbyn hyfforddiant ers hynny.

Dywedodd y cyn-Aelod Ceidwadol na fyddai hi fyth yn gwneud y fath beth eto.

Yn ei chyfweliad cyntaf gyda BBC Cymru ers cael ei gwahardd, fe wnaeth yr AS dros Dde Ddwyrain Caerdydd gydnabod "na ddylwn i fod wedi defnyddio'r geiriau hynny".

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham ei bod wedi defnyddio'r fath eiriau, dywedodd: "Pan o'n i'n ifanc, oedd yn bell yn ôl rŵan, dwi'n 46, roedd iaith yn wahanol iawn ac roedd y term yna'n cael ei ddefnyddio ar gyfer bwyd tecawê.

"Dydw i ddim am eistedd yma a gwneud esgusodion achos dwi wir yn edifar am hynny.

"Rydw i a fy staff wedi derbyn hyfforddiant a ni fydd hyn byth yn digwydd eto.

"Dwi am fod yn ofalus iawn gyda'r iaith dwi'n ei ddefnyddio. Doeddwn i erioed yn ceisio brifo unrhyw un, nid dyna oedd y bwriad.

'Wastad yn gefnogol o bawb yn y wlad hon'

Ychwanegodd ei bod wedi "gwneud tipyn gyda'r gymuned Tsieineaidd yn y gorffennol ac ers hyn yng Nghasnewydd, ac mae gen i berthynas dda gyda nhw".

"Byddaf wastad yn gefnogol o bawb yn y wlad hon, dydw i ddim yn hiliol."

Y llynedd dywedodd y Chinese in Wales Association eu bod yn croesawu'r camau disgyblu cafodd eu cymryd gan y Senedd.

Dywedon nhw ar y pryd fod ystyr y term a ddefnyddiwyd gan Ms Jones "yn hiliol ac yn gallu achosi loes" a'u bod yn "siomedig gweld aelod etholedig yn defnyddio'r fath iaith".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig