AS Reform Laura Anne Jones yn wynebu gwaharddiad am bythefnos

Cafodd Ms Jones ei chlirio o gwynion yn ymwneud â hawlio treuliau ffug a diswyddo annheg
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys iaith hiliol gref a rhegi
Mae'r unig aelod o blaid Reform yn y Senedd yn wynebu gwaharddiad am bythefnos am sylwadau sarhaus a wnaeth mewn sgwrs WhatsApp.
Ym mis Awst 2023, defnyddiodd Laura Anne Jones sarhad hiliol i ddisgrifio pobl Tsieineaidd. Mae hi wedi ymddiheuro ers hynny.
Wrth argymell y gosb, dywedodd pwyllgor safonau'r Senedd "nad oes lle i sylwadau amhriodol a sarhaus yn ein Senedd nac yn ein cymdeithas yn ehangach".
Cafodd Ms Jones ei chlirio o gwynion yn ymwneud â hawlio treuliau ffug a diswyddo annheg.
Ymddiheurodd Ms Jones "eto" am "sylwadau anffodus" mewn "neges breifat" ond croesawodd gael ei "chlirio o unrhyw gamwedd mewn perthynas â'r cyhuddiad maleisus o weithgarwch twyllodrus".
AS Ceidwadol ar y pryd
Mae pwyllgor safonau'r Senedd wedi argymell gwaharddiad o 14 diwrnod yn dilyn ymchwiliad hir gan gomisiynydd safonau'r Senedd, Douglas Bain, dolen allanol.
Gofynnwyd iddo ystyried tair cwyn yn erbyn Laura Anne Jones, gan gynnwys cwyn ei bod wedi gwneud sylwadau hiliol a methu â mynd i'r afael ag ymddygiad anffafriol gan eraill.
Roedd Ms Jones, sy'n cynrychioli de ddwyrain Cymru, yn AS Ceidwadol pan wnaed yr honiadau.
Pan ymunodd â Phlaid Reform ym mis Gorffennaf, dywedodd arweinydd y blaid, Nigel Farage, na fyddai Ms Jones wedi cael ei derbyn gan y blaid "os nad oeddem ni'n hyderus y byddai [yr honiadau] i gyd yn diflannu".
Dywedodd adroddiad Mr Bain fod Laura Anne Jones yn Awst 2023, wedi dweud "No chinky spies for me!" mewn grŵp WhatsApp lle'r oedd hi a'r achwynydd yn aelodau.

Cafodd llun o'r neges dan sylw mewn sgwrs WhatsApp ei rannu gyda BBC Cymru y llynedd
Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod y sylw wedi'i wneud mewn ymateb i drafodaeth am TikTok ar adeg pan roedd pryder cyhoeddus bod Llywodraeth Tsieina yn gallu defnyddio'r ap i gasglu gwybodaeth.
Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud bod Ms Jones "wedi derbyn bod ei phost yn 'hollol amhriodol ac annerbyniol' ac wedi ymddiheuro amdano".
Yn ôl adroddiad Mr Bain hefyd, fe alwodd Ms Jones cyn-weithiwr yn "wanker" ac yn "bitter, twisted, useless person", mewn sgwrs WhatsApp gydag aelod arall o staff.
Yn y neges fe ysgrifennodd "Fe drïais i ddeall".
"Fe wnes i hyd yn oed gofyn a oedd ganddo ADHD neu rywbeth, ac os oedd angen cefnogaeth ychwanegol arno... achos mae 'na rywbeth sydd ddim yn iawn efo fo!?"
Fe gafodd yr unigolyn ei alw yn "Grade A prick", gan yr aelod arall o staff oedd yn rhan o'r sgwrs.
Mewn neges ar 13 Tachwedd 2023, dywedodd yr aelod o staff uchod mewn neges WhatsApp: "Roedd Suella [Braverman, y cyn-ysgrifennydd cartref] yn gywir yn yr hyn a ddywedodd hefyd. Mae yna ddwy haen i blismona. Roedd yn amlwg dros y penwythnos os ydych chi'n wyn a dosbarth gweithiol rydych chi'n cael eich curo, os ydych chi'n Islamist mae popeth yn iawn, chwydwch yr holl gasineb yr ydych chi ei eisiau."
Dywedodd y pwyllgor safonau fod Ms Jones wedi derbyn bod y sylwadau yn "annerbyniol" ond ei bod hi wedi methu â herio sylwadau gan ei staff.
Ar ôl ystyried canfyddiadau'r comisiynydd, dywedodd y pwyllgor fod Ms Jones wedi torri sawl rheol o'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd a dywedodd bod ei hymddygiad "ymhell islaw'r safonau disgwyliedig".
"Mae'n awgrymu diwylliant o fewn ei swyddfa ble nad oedd llawer o barch tuag at eraill nac unrhyw ystyriaeth o'r hyn a allai gael ei ystyried yn sarhaus gan eraill."
AS Reform 'wedi torri rheolau gyda sylw hiliol, ond nid ei threuliau'
- Cyhoeddwyd10 Medi 2025
AS Reform yn gwadu ceisio gwneud y mwyaf o'i threuliau
- Cyhoeddwyd6 Medi 2025
'Dim tystiolaeth o dwyll' gan Aelod Ceidwadol o'r Senedd
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
Bydd y Senedd yn pleidleisio ar yr argymhelliad i wahardd yr aelod am 14 diwrnod ddydd Mercher nesaf.
Roedd Mr Bain hefyd wedi ymchwilio i honiad bod Ms Jones wedi dweud wrth aelod o staff i wneud ceisiadau treuliau ffug am filltiroedd nad oedd wedi'i chyflawni.
Fe gafodd y cwynion eu cyfeirio at yr heddlu, ddaeth i'r canlyniad nad oedd unrhyw dystiolaeth o dwyll.
Dywedodd y gwleidydd ei bod wedi "dweud wrth yr achwynydd i ddefnyddio'r holl gofnodion sydd ar gael, er mwyn sicrhau ei bod hi'n cynnwys yr holl deithiau y gellid gwneud cais priodol amdano".
Mae'r pwyllgor yn nodi "ar y cyfan [roedd Mr Bain] yn fodlon bod fersiwn yr aelod o'r digwyddiadau yn fwy tebygol na pheidio o fod yr un cywir'" ac felly nad oedd wedi canfod fod Ms Jones wedi hawlio treuliau ffug.
Yn ôl yr adroddiad, mae Ms Jones wedi ad-dalu'r arian a hawliwyd am deithiau nad oedd hi wedi'i gwneud.
Roedd canfyddiadau Mr Bain, gafodd eu rhyddhau i BBC Cymru ym mis Medi, wedi cael eu beirniadu gan yr achwynydd.
Mae'n dweud iddi wneud cwyn allan o "ddial" ar ôl iddi gael ei diswyddo gan Laura Anne Jones ac yn beirniadu ei "hymddygiad" pan gafodd ei chyfweld.
Gwrthodwyd hynny gan yr achwynydd sydd yn dadlau bod Mr Bain wedi "gwadu proses deg a rhesymol i mi".
Mae adroddiad y pwyllgor Safonau yn dweud ei fod wedi nodi "sylwadau'r achwynydd am ffordd y comisiynydd o ymdrin â niwroamrywiaeth".
Ychwanegodd y pwyllgor ei fod wedi codi'r pryderon hyn gyda'r comisiynydd.
Mae llefarydd ar ran Reform yn dweud na fydden nhw'n gwneud sylw tan fod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol.
'Effaith niweidiol arnaf fi a fy nheulu ifanc'
Dywedodd Laura Anne Jones fore Mercher: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy nghlirio o'r diwedd o unrhyw gamwedd mewn perthynas â'r cyhuddiad maleisus o weithgarwch twyllodrus.
"Rwyf bellach yn edrych ymlaen at dynnu llinell o dan hyn ar ôl bron i ddwy flynedd o gael fy erlid amdano, a'r effaith niweidiol y mae'n ei gael arnaf fi a fy nheulu ifanc.
"Rwyf wedi ymddiheuro, ac rwy'n ymddiheuro eto, am y sylwadau anffodus a wnes i mewn neges breifat. Doeddwn i erioed wedi bwriadu achosi tramgwydd i unrhyw un.
"Hoffwn ddiolch i'r heddlu a'r Comisiynydd Safonau am eu hymchwiliad trylwyr, ac rwy'n derbyn eu casgliadau."
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: "Rydym yn diolch i'r Comisiynydd Safonau annibynnol a'r heddlu am eu hymchwiliad trylwyr ac am ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw weithgarwch twyllodrus wedi digwydd.
"Mae Laura wedi ymddiheuro'n briodol am ei sylwadau, a wnaed mewn WhatsApp preifat, ac wedi gwneud ymdrech glir i wneud yn iawn am y sylwadau hyn.
"Fodd bynnag, mae'n eithaf amlwg bod problem ddifrifol gyda phlismona dwy haen yn y wlad hon, ac ni ddylid gwahardd unrhyw wleidydd o'n senedd genedlaethol am drafod hyn.
"Mae'n drueni mawr, oherwydd pwyllgor sy'n cynnwys gwleidyddion Llafur, Plaid a Cheidwadwyr yn unig, na fydd llais Reform yn y Senedd nawr am bythefnos."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Roedd yr iaith a ddefnyddiwyd yn ffiaidd ac yn gwbl annerbyniol, ac ni ddylai neb byth ei defnyddio - yn enwedig y rhai a etholwyd i gynrychioli ein cymunedau yn ein Senedd genedlaethol.
"Mae'n deg bod yr aelod yn wynebu canlyniadau ei gweithredoedd.
"Mae'r ffaith bod Reform wedi derbyn yr aelod ar ôl i'r wybodaeth hon ddod i'r amlwg yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y blaid, y mae ei rhethreg raniadol ond yn gosod ein cymunedau yn erbyn ei gilydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae'n ymddangos bod yr adroddiad hwn yn cadarnhau'r honiadau yn erbyn Laura Anne Jones.
"Mae ei dewis o iaith yn annerbyniol. Nid oes lle i'r math hwn o rethreg rhaniadol yng Nghymru ac mae'n groes i werthoedd y cyhoedd yng Nghymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.