Llafur wedi gwario ddwywaith yn fwy na Phlaid Cymru yn is-etholiad Caerffili

Richard Tunnicliffe oedd yr ymgeisydd Llafur yng Nghaerffili
- Cyhoeddwyd
Fe wariodd y blaid Lafur ddwywaith yn fwy na Phlaid Cymru tra'n ymgyrchu yn is-etholiad Caerffili fis Hydref diwethaf, yn ôl dogfennau mae BBC Cymru wedi eu gweld.
Gwariodd plaid Eluned Morgan £98,447 wrth frwydro i gadw gafael ar sedd yr oedden nhw wedi'i dal ers dros ganrif, ond daeth eu hymgeisydd Richard Tunnicliffe yn drydydd.
Mae derbynebau hefyd yn dangos bod Llafur wedi archebu llety Airbnb gwerth mwy na £25,000 ar gyfer 22 o westeion yn ystod yr ymgyrch.
Lindsay Whittle o Blaid Cymru oedd yn fuddugol, gyda'r blaid yn gwario £46,933.
Yn ôl y dogfennau roedd Reform UK, a ddaeth yn ail, wedi gwario £96,125. Y terfyn gwariant oedd £100,000.
Dywedodd Llafur Cymru: "Mae'r holl ddatganiadau angenrheidiol wedi'u gwneud yn dryloyw ac yn unol yn llwyr â'r rheolau."

Cafodd Lindsay Whittle ei ethol gyda mwyafrif o bron i 4,000
Fe gafodd yr is-etholiad ei gynnal ar 23 Hydref yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Hefin David.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni y gall y cyhoedd eu gweld, sy'n cofnodi'r hyn maen nhw'n ei wario yn ystod ymgyrch.
Mae ffurflenni Llafur yn awgrymu eu bod wedi gwario £26.51 am bob un o'u pleidleisiau, gyda 3,713 yn cefnogi'r blaid.
Mae'n nodi eu bod wedi gwario £40,470 ar hysbysebu a £45,840 ar ddeunyddiau fel taflenni gafodd eu dosbarthu i etholwyr. Roedd y blaid hefyd wedi prynu hysbysebion ar Meta a Google gwerth £31,294.
Roedd Llafur wedi cynnwys derbynebau ar gyfer chwe llety Airbnb ar gyfer 22 o bobl, gwerth £25,315, rhwng mis Medi a mis Hydref y llynedd.
Roedd y tai wedi eu lleoli yn Nhrefforest, Blaenau Gwent, Caerdydd a Hirwaun, yn ogystal â dau yng Nghasnewydd.
Ond roedd Llafur wedi datgan ar y ffurflen eu bod wedi gwario £3,321 ar gyfer "llety staff".
Llafur wedi 'methu cyfleu'r neges' yn isetholiad Caerffili
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2025
Y Blaid Lafur ddim yn gweld chwalfa isetholiad fel 'blip' - Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2025
Pan ofynnodd BBC Cymru i'r blaid Lafur i esbonio'r gwahaniaeth, fe ddywedon nhw ei fod yn arfer cyffredin i ymgeiswyr a phleidiau i rannu gwariant pan fo rhai elfennau o anfoneb yn wariant rheoleiddiedig ac eraill ddim.
Yn ôl y ffurflenni Reform fe wnaethon nhw wario £16,003 ar hysbysebu, £55,239.51 ar ddeunyddiau i etholwyr, £1,637 ar gyfer cludiant, £16,500 ar staffio a llety a chostau gweinyddu o £6,744.
Cafodd £4,794 ei wario gan Reform ar Facebook.
Gwariodd Plaid Cymru £46,933 yn ystod yr ymgyrch yn ôl eu ffurflen nhw, gan gynnwys £12,794 ar hysbysebu, £21,649 ar ddeunyddiau i etholwyr, £6,710 ar gostau asiantau a staff a £5,208 ar lety a gweinyddiaeth.
Yn ôl y ffigyrau hyn fe wariodd Plaid Cymru £2.94 am bob pleidlais, tra bod Reform wedi gwario £7.93 am bob un plediais enillodd eu hymgeisydd Llyr Powell.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn "falch o'r ymgyrch gadarnhaol, wedi ei bweru gan bobl, gafodd ei gynnal gennym, gyda gwirfoddolwyr yn curo drysau ac yn dosbarthu taflenni ym mhob cornel o Gaerffili".
Mae plaid Reform wedi cael cais i wneud sylw.