Achos taro a ffoi: Mam yn cyfaddef iddi ddweud celwydd

Cafodd Arlo Buckley anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae mam plentyn yn ei arddegau a darodd fachgen pump oed a'i anafu'n ddifrifol gyda'i feic modur wedi cyfaddef ei bod wedi dweud celwydd wrth yr heddlu.
Bu'n rhaid i Arlo Buckley gael ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl y gwrthdrawiad ar Central Drive yn Shotton, Sir y Fflint, ar 11 Medi 2024.
Mae Kaylem Longhurst, sy'n 18 o Nantwich yn Sir Gaer, eisoes wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus.
Ond mae Mr Longhurst, ynghyd â thri arall gan gynnwys ei fam Terry Follows, 42, yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Yn wreiddiol fe ddywedodd Terry Follows wrth yr heddlu nad oedd wedi gweld Kaylem ers y diwrnod cyn y digwyddiad, ond mewn gwirionedd roedd hi gydag ef ychydig oriau yn gynharach.
Dywedodd ei bod wedi dweud celwydd gan nad oedd hi'n credu bod y sefyllfa mor ddifrifol â hynny.

Cafodd Arlo, sydd ym mreichiau ei dad Danny, ei adael ar ochr ffordd mewn achos o daro a ffoi, clywodd llys
Mae'n honni pan ffoniodd ei ffrind hi a dweud bod Kaylem wedi taro rhywun ei bod hi'n credu ei fod wedi bod "mewn ffeit gyda rhywun - rhywbeth oedd yn digwydd yn eithaf rheolaidd".
Roedd Ms Follows yn cael ei chwestiynu yn Llys y Goron Amwythig a'i chroesholi gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Ember Wong.
Dywedodd Ms Follows ei bod wedi gweld ei mab Kaylem yn fuan wedi'r digwyddiad gan ei fod wedi reidio beic i'w thŷ.
Pan gafodd ei holi a oedd Kaylem i weld yn ymddwyn yn wahanol i'r arfer dywedodd ei fod yn "boeth a chwyslyd".
Ar ôl i Ms Follows ofyn iddo pam ei fod yn boeth dywedodd: "Dw i newydd reidio ar fy meic mewn cot fawr ac mae'n dwym."
Dyn wedi ffoi ar ôl taro bachgen, 5, oherwydd 'ofn' - achos
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Gadael bachgen 5 oed ag anafiadau difrifol ar ochr ffordd - achos llys
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
Aeth Ms Follows ymlaen i ddisgrifio mynd i'r gwaith mewn siop tecawê leol y prynhawn hwnnw a dywedodd ei bod wedi cael gwybod yn ystod galwad gyda'i mab arall, Dane, sy'n 19 oed, fod yr heddlu yn ei thŷ - a nad oedd hi'n gwybod pam.
Mae'n honni ei bod ond wedi sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa yn ystod ei chyfweliad hi â'r heddlu ar ôl iddi gael ei harestio.
Mae'r erlyniad yn honni iddi hi ynghyd â'i meibion, ei merch, Cara Haran - sydd eisoes wedi cyfaddef cymryd rhan mewn cynllwyn - a'i phartner ar y pryd Shane Hunt, 39, gynllwynio i yrru Kaylem i Gaerefrog a cheisio cuddio ei ran yn y digwyddiad.
Dywedodd Ms Follows ei bod hi'n credu bod Cara yn mynd â Kaylem i gael bwyd gyda Mr Hunt a gwadodd ei bod yn gwybod am y cynlluniau i fynd ag ef i Gaerefrog.

Cafodd Arlo Buckley ei daro gan feic modur yn Central Drive yn ardal Shotton, Sir y Fflint
Fe ofynnodd Ember Wong beth ddywedodd Kaylem wrthi mewn sgwrs ffôn yn fuan ar ôl taro'r plentyn. Yn ôl Ms Follows: "Dywedodd 'dw i wedi diflasu'."
Gofynnodd Ms Wong: "Ydych chi'n dweud bod eich mab 16 oed oedd yn meddwl ei fod newydd ladd rhywun yn dweud wrthych ei fod wedi diflasu?"
"Ydw," meddai.
Honnodd hefyd nad oedd ganddi unrhyw wybodaeth am ran Kaylem yn y gwrthdrawiad er i'w phlant ddweud mewn cyfweliadau heddlu eu bod wedi dweud wrthi.
Mewn ymateb i hynny dywedodd fod yn rhaid bod ei phlant yn dweud celwydd.
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.