Carcharu dyn am oes am lofruddio ymladdwr MMA

Bydd yn rhaid i Kai Pennell, 35, dreulio o leiaf 22 mlynedd dan glo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a drywanodd ymladdwr MMA (crefft ymladd) yn Nhorfaen y llynedd wedi cael dedfryd o garchar am oes.
Bydd yn rhaid i Kai Pennell, 35, dreulio o leiaf 22 mlynedd dan glo am lofruddio Duane Keen ym mis Hydref wrth i Mr Keen geisio amddiffyn ei bartner.
Mewn datganiad emosiynol yn y llys, dywedodd mab Mr Keen, Joshua Keen, wrth Pennell nad oedd wedi dangos edifeirwch o gwbl.
Wrth ddedfrydu Pennell, dywedodd Mrs Ustus Stacey fod yr achos yn un "torcalonnus" a bod gan Duane Keen, a oedd yn 47 oed, "rinweddau rhagorol ac ymrwymiad i'w deulu".

Cafodd Duane Keen ei lofruddio ym mis Hydref 2025 ym Mlaenafon
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Duane Keen yn byw gyferbyn â'r bloc o fflatiau lle'r oedd Kai Pennell yn byw a bod y ddau wedi bod mewn perthynas yn flaenorol gyda Rebecca Phillips a oedd hefyd yn byw yn y fflatiau.
Daeth perthynas Ms Phillips â Mr Keen i ben ym mis Mai 2025 cyn iddi ddechrau ei pherthynas â Pennell a ddaeth i ben ym mis Medi.
Dywedodd yr erlynydd Christopher Rees KC fod negeseuon a galwadau ffôn rhwng Pennell a Rebecca Phillips yn "feichus".
Ar 17 Hydref 2025, noson yr ymosodiad, clywodd y llys fod Rebecca Phillips wedi gofyn i Duane Keen i ddod i'w fflat ar ôl derbyn galwadau a negeseuon gan Pennell trwy gydol y dydd yn ei chyhuddo o weld dynion eraill.
Roedd lluniau CCTV yn dangos Pennell yn dewis cyllell cegin yn fuan cyn yr ymosodiad.
Dywedodd yr erlynydd mai dyma pryd wnaeth Pennell wneud y "penderfyniad i ladd" a bod yr ymosodiad "wedi'i ysgogi gan genfigen rywiol".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Rodfa Glan yr Afon ym Mlaenafon yn ystod oriau mân y bore ar 17 Hydref, 2025
Clywodd y llys fod Pennell wedi gadael y lleoliad cyn cael ei ddarganfod gan hofrenyddion yr heddlu mewn ardal goediog ger y fflatiau ychydig o oriau yn ddiweddarach.
Nododd yr archwiliad post mortem nifer o glwyfau trywanu i gorff Mr Keen yn ogystal ag anafiadau i'w fraich ar ôl iddo geisio amddiffyn ei hun.
Fe wnaeth adroddiadau tocsicoleg ddangos bod heroin, cocên a methadon yng nghorff Pennell ond clywodd y llys ei fod yn "amhosib" dweud pa effaith gafodd hyn ar Pennell a oedd yn ddefnyddiwr cyffuriau hirdymor.
Clywodd y llys fod Duane Keen yn "adnabyddus yn y gymuned crefft ymladd cymysg (mixed martial arts) fel ymladdwr ac am hyfforddi pobl ifanc.
Wrth ddarllen datganiad effaith dioddefwr, dywedodd Joshua Keen y dylai Pennell "dreulio gweddill ei fywyd yn y carchar".
Pennell wedi 'colli rheolaeth'
Wrth amddiffyn, dywedodd David Elias KC fod Pennell wedi cael diagnosis ADHD yn 10 oed ac wedi profi problemau iechyd meddwl, gan gynnwys cael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn 2023.
Wrth ddedfrydu Pennell i o leiaf 22 mlynedd a 238 diwrnod yn y carchar, dywedodd Mrs Ustus Stacey ei fod wedi "colli rheolaeth".
Dywedodd ei fod wedi lladd Duane Keen ac yn ei "ffordd gamarweiniol a hunan-druenus" wedi ceisio gwneud i'w gyn-bartner, Rebecca Phillips, gredu mai hi oedd ar fai.
Dywedodd nad oedd yn "ddim o'ch busnes chi pwy ddewisodd hi ei weld a phryd" a bod Mr Keen yn y fflat oherwydd ei fod eisiau amddiffyn Rebecca Phillips.
Dywedodd y byddai cyhuddiadau eraill yn ymwneud â bygythiadau i ladd Ms Phillips yn aros ar ffeil a gosododd orchymyn atal amhenodol yn gwahardd Pennell rhag cysylltu â'i gyn-bartner.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.