Byddai dileu polisi Cenedl Noddfa yn 'drychinebus' medd elusen

Andrea Cleaver
Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd Andrea Cleaver y byddai dileu'r polisi yn "drychinebus"

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Byddai cael gwared â pholisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru yn cael effaith "drychinebus", mae pennaeth elusen ffoaduriaid wedi rhybuddio.

Nod y cynllun yw helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi'u lleoli yng Nghymru gan Lywodraeth y DU i integreiddio a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus.

Ond mae'r Ceidwadwyr a Reform wedi addo ei ddileu, gan nodi pryderon ynghylch y gost a'r neges y mae'n ei hanfon.

Rhwng 2019-2025 gwariodd Llywodraeth Cymru 0.05% o'i chyllideb ar y polisi Cenedl Noddfa.

Mae'r holl brif bleidiau eraill wedi ailadrodd eu cefnogaeth i'r polisi.

Beth yw polisi Cenedl Noddfa?

Mae cynllun Cenedl Noddfa wedi dod yn destun dadl wleidyddol cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, ac mae rhai o'n darllenwyr wedi gofyn i BBC Cymru fwrw golwg arno.

Roedd Gary Nickson, rheolwr caffael wedi ymddeol yng ngogledd Cymru, ymhlith y rhai a gysylltodd â phrosiect Dy Lais i godi pryderon am y polisi.

"Alla i ddim cofio gweld arolwg na chael y cyfle i bleidleisio arno erioed," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud "ar ein rhan" ar adeg pan mae Cymru, yn ei farn ef, yn cael trafferth gyda'i heriau domestig ei hun.

Dy Lais
Disgrifiad o’r llun,

Dy Lais yw eich cyfle chi i ofyn i BBC Cymru fwrw golwg ar bwnc cyn etholiad y Senedd

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad, dolen allanol agored am dri mis ar eu cynigion yn 2018, wnaeth ganfod "cefnogaeth sylweddol" i'w cynigion.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai Cymru yn dod yn "Genedl Noddfa gyntaf y byd".

Fe wnaeth gweinidogion addo helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at wasanaethau fel gofal iechyd ac addysg.

Maen nhw hefyd yn nodi ffyrdd o helpu pobl sydd wedi'u lleoli yng Nghymru i integreiddio drwy ddarparu cyfleoedd i ddysgu Saesneg a Chymraeg, ac i ddysgu am gymdeithas Cymru.

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Nid oes gan y polisi unrhyw effaith ar reolau mewnfudo na nifer y ceiswyr lloches sy'n cael eu lleoli yng Nghymru.

Mae'r penderfyniadau hynny yn nwylo Llywodraeth y DU yn San Steffan.

Faint mae'r polisi wedi costio?

Rhwng 2019 a 2025 gwariodd Llywodraeth Cymru £63.87m ar y polisi Cenedl Noddfa - sy'n cyfateb i 0.05% o'i chyllideb ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Cafodd rhan fwyaf yr arian hwnnw - £58.22m - ei wario ar gefnogi pobl o Wcráin a ddaeth i Gymru ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn eu mamwlad.

Yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref, ar 30 Medi 2025 roedd 12,687 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cefnogi gan bolisi Cenedl Noddfa yng Nghymru, gan gynnwys 8,328 o Wcráin a 1,028 o Afghanistan a gefnogodd ymdrechion y DU yno.

O'r 3,331 sy'n weddill, roedd 99 o bobl yn cael eu lletya yn yr hyn sy'n cael eu galw'n westai lloches yng Nghaerdydd, gyda Llywodraeth y DU yn talu am hynny.

'Erioed wedi cael cefnogaeth mor garedig'

Fe wnaeth Larysa Martseva gyrraedd Caerdydd gyda'i dau blentyn yn eu harddegau ym mis Ebrill 2022 ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae hi'n parhau i fod yn ddiolchgar am y croeso.

"Dydw i erioed wedi cael cefnogaeth mor garedig yn fy mywyd," meddai.

"Roedd yn fynegiant o garedigrwydd, yn fynegiant o barch.

"Ro'n i'n teimlo mor gyfforddus nes i mi ddechrau crïo bob tro rwy'n cofio'r cyfnod."

Mae Larysa bellach yn gweithio mewn canolfan gymunedol yng Nghaerdydd, ac yn dweud bod polisi Cenedl Noddfa wedi caniatáu iddi hi ac eraill yn yr un sefyllfa i ddod yn "rhan o gymdeithas".

Larysa Martseva
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Larysa Martseva i Gaerdydd ym mis Ebrill 2022 ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn un o'r sefydliadau sy'n derbyn cyllid drwy'r cynllun.

Dywedodd eu prif weithredwr Andrea Cleaver ei bod yn deall y pryder sydd gan rai pobl ynghylch y polisi, o ystyried yr argyfwng costau byw.

Ond rhybuddiodd y byddai dileu'r polisi yn "drychinebus", gan ddweud y byddai'r canlyniadau yn cynnwys cynnydd mewn digartrefedd.

"Bydden ni hefyd yn gweld pobl yn rhoi'r gorau i ddysgu Saesneg, bydden ni'n gweld dirywiad mewn gwirfoddoli a bydden ni'n gweld llai o bobl sy'n cyfrannu at yr economi ac yn cael swyddi."

Mae Ms Cleaver yn credu, er mwyn i'r polisi gyflawni ei amcanion yn llawn, fod yn rhaid gwario mwy o arian arno.

Dywedodd ei bod yn "syndod" gweld sut yr oedd y polisi wedi dod yn "bêl-droed wleidyddol".

Awgrymodd hefyd efallai y byddai pobl yn deall pwrpas y polisi'n well pe bai'n cael ei ail-alw'n "gynllun integreiddio" neu "baratoi".

Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?

Dywedodd Llafur eu bod wedi "ymrwymo i wneud Cymru yn Genedl Noddfa", a dywedodd Plaid Cymru fod y polisi yn "ymrwymiad i urddas ac integreiddio".

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eu bod yn "cefnogi'r polisi yn llwyr" a dywedodd y Gwyrddion y byddent yn pwyso i'w gwneud hi'n "haws ymgartrefu" yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr a Reform wedi addo ei ddileu.

Y mis diwethaf dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd, Darren Millar, wrth y Senedd: "Mae Cymru bob amser wedi bod, fel y Deyrnas Unedig, yn fan lle mae pobl wedi ceisio lloches.

"Ond nid oes angen inni wastraffu degau o filiynau o bunnoedd ar gynllun cenedl noddfa pan nad ydym yn gyfrifol yng Nghymru am fewnfudo ac nad ydym yn gyfrifol am y materion hynny. Nid ydynt yn faterion datganoledig."

Dywedodd Aelod o'r Senedd Reform UK, Laura Anne Jones, wrth y Senedd ym mis Ionawr fod y "polisi cenedl noddfa hunangyfiawn yn dal arwydd neon uwchben Cymru sy'n dweud, 'dewch i mewn'."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.