Pasio cyllideb £27bn Llywodraeth Cymru mewn pleidlais Senedd

Roedd yn rhaid i Lafur Cymru gael cefnogaeth pleidiau eraill i gymeradwyo'r gyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wedi cael eu cymeradwyo yn y Senedd.
Mae cytundeb Plaid Cymru gyda'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn golygu bod cyllideb £27.5bn y llywodraeth wedi pasio, gyda 25 o blaid, 14 wedi ymatal ac 13 yn erbyn.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd pob adran - o lywodraeth leol i iechyd a gofal cymdeithasol - yn derbyn cyllid ychwanegol er mwyn ymateb i chwyddiant a chodiadau cyflog.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford fod y gyllideb yn "rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus".
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur yn "fargen gwael i Gymru".
Dywedodd Plaid Cymru bod eu cytundeb yn "amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus ac yn atal codiadau treth gyngor anfforddiadwy".
I ble mae'r arian yn mynd?
Ar ôl colli sedd Caerffili yn yr isetholiad fis Hydref, does gan y llywodraeth Lafur ddim digon o aelodau o'r Senedd i basio'r gyllideb heb gefnogaeth o leiaf dau aelod arall o'r Senedd.
Heb gytundeb, dim ond gwerth 75% o gyllideb eleni y byddai gan y llywodraeth i'w wario, ac roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan wedi rhybuddio y byddai hynny'n arwain at doriadau mawr a cholli swyddi.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol gynnal trafodaethau gyda gweinidogion Llafur, ond yn y pendraw Plaid Cymru ddaeth i gytundeb gyda'r llywodraeth.
Mae'r cytundeb yn rhoi £113m yn ychwanegol i awdurdodau lleol, gan gynyddu cyllidebau cynghorau o 4.5% y flwyddyn nesaf, gyda'r addewid na fydd unrhyw gyngor unigol yn cael cynnydd o lai na 4%.
Bydd £180m ychwanegol hefyd ar gyfer y gwasanaeth iechyd sy'n golygu bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer 2026-27 yn cynyddu o 3.6% i £12.6bn, mwy na 55% o gyllideb Llywodraeth Cymru, ar gyfer gwariant dydd i ddydd.
Yn ogystal, mae £120m o gyllid cyfalaf wedi cael ei neilltuo i'r llywodraeth nesaf ei wario ar brosiectau mawr, fel adeiladu ysbytai neu ffyrdd newydd.
Arian i wersylloedd yr Urdd a'r Eisteddfod yng nghyllideb y llywodraeth
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Plaid Cymru yn dod i gytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru gyda Llafur
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2025
Gallai'r gyllideb nesaf gael effaith 'trychinebus' ar wasanaethau
- Cyhoeddwyd21 Medi 2025
Yn y gyllideb derfynol yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Mark Drakeford hefyd ddarparu arian ychwanegol ar gyfer "blaenoriaethau allweddol", gan gynnwys yr iaith Gymraeg, gwasanaethau bysiau, prentisiaethau, addysg bellach, atal llifogydd ac ysgolion.
Mae £3.1m yn ychwanegol i'r iaith Gymraeg, o gymharu gyda'r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd fis Tachwedd, gyda'r rhan fwyaf o'r arian yma yn talu am welliannau i wersylloedd yr Urdd yn Llangrannog, Glan Llyn a Phentre Ifan.
Dywedodd Andrew Morgan, pennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ei fod yn croesawu'r arian sy'n "cryfhau'r sefyllfa ymhellach".
Ond dywedodd arweinydd grŵp annibynnol Llywodraeth Leol Cymru, Mark Pritchard, ei fod yn dal "yn brin o'r hyn sydd ei angen i roi llywodraeth leol ar sail gynaliadwy" ac nad yw'n datrys yr "heriau ariannol difrifol y mae cynghorau yn eu hwynebu".
Yn ôl David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS), mae'r cynnydd o 3.6% i iechyd (1.4% os ydych chi'n ystyried chwyddiant) "ymhell islaw'r hyn oedd ei angen yn ddiweddar".
'Cyllideb Llafur yw hwn'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion cyllid, Sam Rowlands: "Mae cynllun Plaid a Llafur ar gyfer y gyllideb yn gytundeb drwg i Gymru.
"Mae'n gyllideb sy'n cynnwys cyllid ar gyfer mwy o fiwrocratiaeth, cymorth i wledydd tramor, swyddfeydd tramor, cynllun Cenedl Noddfa, ehangu'r Senedd a chynyddu nifer y gwleidyddion - ac sydd ddim yn mynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl."
Nododd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan: "Byddai cyllideb ddrafft Llafur wedi cael effaith drychinebus ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a chynghorau lleol - a fyddai wedi arwain yn y pendraw at gynyddu trethi a cholli miloedd o swyddi yn ein cymunedau.
"Cyllideb Llafur yw hwn, ond ni allwn sefyll a gwylio bywydau pobl Cymru yn cael eu gwneud yn anoddach heb wneud dim i helpu.
"Dyna pam rydyn ni wedi cytuno i ymatal ein pleidlais nos Fawrth ar ôl sicrhau cynnydd sylweddol mewn cyllid i'n gwasanaethau cyhoeddus."
Yn ôl llefarydd ar ran Reform fe fydden nhw'n "gwrthwynebu'r gyllideb derfynol hon gan ei bod yn methu ag ail-adeiladu ein gwasanaeth iechyd, yn anwybyddu cefn gwlad Cymru, ac yn gwthio cynghorau a theuluoedd i wneud dewisiadau amhosibl".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd13 Ionawr
