Rhybudd bod deddf celwydd gwleidyddion yn cyfyngu ar ryddid barn

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru am ei gwneud hi'n anghyfreithlon i ddweud celwydd yn ystod ymgyrchoedd etholiadol y Senedd, os caiff deddfwriaeth newydd ei phasio.

Ond mae 'na rybudd bod y bil yn cynnwys grymoedd "anhygoel" i gyfyngu ar ryddid barn, ac y bydd yn methu cael ei basio heb newidiadau sylweddol.

Byddai'r ddeddfwriaeth yn galluogi'r llywodraeth nesaf i greu trosedd cyfreithiol o "wneud neu gyhoeddi datganiadau ffug neu gamarweiniol" i helpu ymgeisydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y bil yn deillio o "gonsensws trawsbleidiol".

Ddydd Mawrth fe basiodd y bil y cam cyntaf yn y Senedd ond fe ddywedodd ASau, gan gynnwys rhai o'r Blaid Lafur, y gallai beidio â chael cefnogaeth ddigonol heb newidiadau arwyddocaol - fel diffinio beth yw datganiad "ffug neu gamarweiniol".

Yn y cyfamser, mae pôl gyntaf 2026, gan ITV Cymru, yn dangos bod Plaid Cymru wedi symud ymlaen o Reform UK fel y blaid fwyaf a ragwelir wedi etholiad y Senedd ym mis Mai.

Cynyddodd Plaid Cymru ei chyfran o'r bleidlais o 30% i 37% ers eu pôl ddiwethaf ym mis Medi 2025, gyda Reform UK yn gostwng o 29% i 23%.

Am y tro cyntaf erioed, mae'r Blaid Werdd yn drydydd yn yr arolwg barn ar 13%, gyda Llafur yn bedwerydd - ei phwynt isaf erioed - ar 10% ochr yn ochr â'r Ceidwadwyr.

'Rhwystro trafodaeth ddemocrataidd lawn'

Roedd gweinidogion wedi addo delio gyda gwleidyddion sy'n dweud celwydd ar ôl i'r llywodraeth wynebu'r posibilrwydd o gael eu gorfodi i wneud hynny'r llynedd.

Mae rhai sy'n gefnogol o'r cynllun yn dadlau y gallai helpu i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn sefydliadau gwleidyddol.

Ni fyddai'r gyfraith yn dod i rym tan etholiad 2030 ar y cynharaf, er mae gweinidog wedi awgrymu efallai na fydd hyd yn oed hynny'n bosib.

Mae cynlluniau i ganiatáu i bleidleiswyr gael gwared ag aelodau sy'n camymddwyn trwy bleidlais adalw hefyd yn rhan o'r gyfraith.

Ond mae'r ddeddfwriaeth, fydd yn wynebu pleidlais gyntaf ddydd Mawrth, wedi cael ei beirniadu'n hallt gan ddau bwyllgor trawsbleidiol yn y Senedd.

Yn ôl adroddiad y pwyllgor deddfwriaeth mae'r bil wedi'i ysgrifennu mewn ffordd allai ganiatáu i lywodraeth yn y dyfodol "rwystro trafodaeth ddemocrataidd lawn a phriodol yn ystod ymgyrch etholiadol".

Mae'n feirniadol o'r ffaith nad yw'r bil yn diffinio'n union beth yw datganiad "ffug neu gamarweiniol", i bwy y byddai'n berthnasol na sut.

Yn hytrach mae'n ei gwneud yn ofynnol i weinidogion greu trosedd ar ôl i'r bil gael ei basio, trwy ddeddfwriaeth eilradd - sydd ddim yn wynebu'r un lefel o sgriwtini.

Mae 'na rybudd gan y pwyllgor fu'n craffu ar y bil ei bod yn bosib na fydd gan y llywodraeth ddigon o gefnogaeth i basio'r mesur, os nad ydynt yn cyflwyno newidiadau sylweddol.

Dan arweiniad yr aelod Llafur o'r Senedd, David Rees, mae'r pwyllgor yn dweud bod angen rhoi manylion y drosedd yn y bil, ymgynghori gyda'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder", yn ogystal â chynnal asesiad hawliau dynol.

Er bod yr aelod Plaid Cymru, Sioned Williams yn credu y gellir diwygio'r ddeddf, roedd mwyafrif y pwyllgor, sy'n cynnwys tri aelod Llafur, yn credu y dylid tynnu'r adran ar ddatganiadau ffug o'r gyfraith os nad oedd y newidiadau yn bosib erbyn y cam nesaf.

Dywedodd Mr Rees: "Mae cryfhau'r ffyrdd rydyn ni'n dwyn aelodau i gyfrif yn hanfodol ar gyfer ymddiriedaeth y cyhoedd, a dylai'r Senedd wneud hyn yn iawn.

"Er bod y pwyllgor yn cefnogi'r syniadau y tu ôl i'r bil, mae'n amlwg i ni y bydd angen diwygio sylweddol arno, a gwelliant gwirioneddol, os yw am fod yn gyfraith dda a fydd yn cyflawni ei nodau i bobl Cymru."

'Ceisio adeiladu sylfeini cryfach'

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Julie James ei bod yn "hanfodol bod asesiadau llawn o'r effeithiau ar y system gyfiawnder... yn cael eu cynnal".

Dywedodd y byddai'n ystyried pa mor ymarferol fyddai gwneud hynny "mewn pryd i osod trosedd i fewn i'r bil" mewn gwelliant.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y ddeddfwriaeth "yn ceisio adeiladu sylfeini cryfach ar gyfer democratiaeth Cymru".

"Mae'r bil yn deillio o gonsensws trawsbleidiol ac yn dilyn argymhellion o ymchwiliad y pwyllgor safonau ymddygiad i atebolrwydd aelodau unigol."

Ni fyddai'r ddeddf yn gwahardd gwleidyddion rhag dweud celwydd yn fwy cyffredinol, ac mae eisoes yn anghyfreithlon i wneud datganiad ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd yn ystod etholiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.