2026 yn flwyddyn o newid 'unwaith mewn canrif' i Senedd Cymru

Bydd nifer aelodau Senedd Cymru yn cynyddu o 60 i 96 ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau'r flwyddyn newydd mae'r Senedd yn paratoi ar gyfer newid "unwaith mewn canrif" yn ôl y Llywydd.
Daeth sylwadau Elin Jones bum mis cyn yr etholiad nesaf i Fae Caerdydd pan fydd nifer yr Aelodau o Senedd Cymru (ASau) yn cynyddu o 60 i 96. Bydd newidiadau i'r drefn bleidleisio hefyd.
Gyda'r arolygon barn yn awgrymu bod Llafur o dan fwy o bwysau nag erioed dywedodd y Llywydd bod yr etholiad yr argoeli i fod yn "ddiddorol".
Rhybuddiodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol taw'r "her" nawr fydd sicrhau bod etholwyr yn ymwybodol o'r newidiadau.

Gweithwyr yn addasu siambr y Senedd yn barod ar gyfer yr aelodau newydd ym mis Mai
Yn y cyfamser mae gwaith yn parhau i baratoi ystâd y Senedd ar gyfer yr ASau ychwanegol.
Mae siambr y Senedd ei hun yn cael ei adnewyddu ar gost o £4.2m i gynnwys 36 yn rhagor o ddesgiau a'r dechnoleg ddiweddaraf.
Roedd ehangu'r Senedd yn bolisi gan Lafur a Phlaid Cymru, gyda'r nod o gryfhau democratiaeth drwy sicrhau bod y sefydliad yn fwy parod i ddefnyddio'r pwerau ychwanegol sydd wedi eu datganoli ar hyd y blynyddoedd.
Ond mae gwrthwynebwyr, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu bod cynyddu nifer y gwleidyddion yn wastraff arian.
Bydd nifer yr etholaethau'n cael eu cwtogi i 16 ym mis Mai hefyd, gyda phob etholaeth yn cael ei cynrychioli gan chwe aelod i gyd wedi eu hethol drwy drefn bleidleisio gyfrannol.

Dywedodd y Llywydd Elin Jones bod 'cyfrifoldeb ar wleidyddion ac ar y Senedd i sicrhau bod etholwyr yn deall y newidiadau'
Rhain fydd y diwygiadau mwyaf i'r Senedd ers dechrau datganoli yn 1999.
"Mae'n newid unwaith mewn canrif, i ddweud y gwir," meddai Elin Jones, wrth i sŵn y gwaith adeiladu atseinio o'i chwmpas.
"Y flwyddyn yma byddwn ni'n ethol Senedd o'r maint cywir i fod yn cyflawni'r gwaith mae pobl Cymru'n gofyn ohonom ni."
Fel y person sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus, byddai'n ddealladwy pe bai Elin Jones yn teimlo rhyw faint o nerfusrwydd.
"Dwi'm yn teimlo dim nerfusrwydd - dwi ond yn teimlo cyffro," meddai'n bendant, gan ychwanegu y bydd cyflwyno'r newidiadau'n "gamp fawr" y bydd hi'n "falch ohono'n bersonol".
Yn ôl Elin Jones mae "cyfrifoldeb" ar wleidyddion ac ar y Senedd ei hun nawr i sicrhau bod etholwyr yn deall y newidiadau.
'Cofrestrwch i bleidleisio'
Rhybuddiodd Jess Blair o Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru y byddai'n "her fawr i gyfathrebu'r newidiadau".
"Mae llawer o newid yn dod. Mae'n ddigon anodd cyfathrebu un newid... heb sôn am yr holl newidiadau yma, ond dwi'n credu taw'r neges i etholwyr ydy: cofrestrwch i bleidleisio a bwrwch eich pleidlais ar Fai y seithfed."

Jess Blair o Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn annog etholwyr i gofrestru i bleidleisio
'Mae'n mynd dros fy mhen i'
Yng Nghaernarfon, cymysg oedd ymwybyddiaeth pleidleiswyr o'r newidiadau.
"Mae'n mynd dros fy mhen i," meddai Karen Vaughan.
"Dwi wedi dilyn gwleidyddiaeth ar hyd fy oes," meddai Megan Tudur, ond doedd hithau'n gwybod "dim byd" am y diwygiadau.
Roedd Gareth Williams ar y llaw arall yn gwybod am y newidiadau ac yn croesawu'r cynnydd i nifer yr aelodau.
Ond ychwanegodd bod "pobl ifanc isio mwy o addysg" i'w paratoi nhw ar gyfer pleidleisio.
"Mae'n bwysig dros ben eu bod nhw'n gwybod be maen nhw ei wneud," meddai.

Bydd Gareth Williams yn falch o weld mwy o aelodau yn y Senedd
Bydd yr etholiad ei hun yn penderfynu pwy fydd yn llywodraethu Cymru.
Llafur sydd wedi arwain Llywodraeth Cymru ers yr etholiad cyntaf i Fae Caerdydd ond gyda'r blaid y tu ôl i Blaid Cymru a Reform yn yr arolygon diweddaraf, mae Elin Jones yn dweud bydd yr etholiad nesaf yn "ddiddorol".
"Rwy'n gobeithio bydd hynny'n gwneud pobl Cymru'n frwdfrydig i ymwneud â'r etholiad a defnyddio'u pleidlais."
Elin Jones i roi'r gorau i'w rôl fel Llywydd y Senedd
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2025
Angen £19m arall ar gyllideb y Senedd yn sgil cynyddu'r aelodau
- Cyhoeddwyd25 Medi 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.