Babi wedi marw ar ôl i staff Ysbyty Gwynedd fethu ag arsylwi ei fam

Sonny TaylorFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Sonny Taylor ar 3 Hydref 2022

  • Cyhoeddwyd

Bu farw babi newydd-anedig ar ôl i staff Ysbyty Gwynedd fethu â deffro ei fam ar gyfer "arsylwadau a allai wedi achub ei fywyd" cyn iddo gael ei eni, yn ôl ymchwiliad.

Cafodd Sonny Taylor ei adael "mewn gofid am gyfnod sylweddol" cyn toriad Cesaraidd brys yn yr ysbyty ym Mangor, a bu farw dridiau'n ddiweddarach o anaf difrifol i'r ymennydd a gafodd ei achosi gan sepsis a diffyg ocsigen.

Dywedodd ei rieni Eve a Thomas fod eu mab wedi cael ei "fethu pan roedd angen help fwyaf".

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi derbyn canfyddiadau'r adroddiad ac wedi ymddiheuro "yn ddiamod" am y methiannau.

Sonny TaylorFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Es i gysgu cyn fy nhoriad Cesaraidd brys heb wybod a fyddwn i'n deffro neu a fyddai fy mabi yn goroesi," meddai Eve

Roedd mam Sonny, Eve, 29, wedi mynd i'r ysbyty ar ôl i'w dŵr dorri ar ôl 36 wythnos.

Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw cafodd ei symud i'r ward famolaeth ar ôl i arwyddion o haint posibl gael eu nodi.

Am 18:00 cafodd ei harsylwi, ac roedd Eve a churiad calon Sonny yn iawn.

Tra roedd Eve yn cysgu am 22:00, ni wnaeth staff bydwreigiaeth ei deffro i gynnal arsylwadau pellach na gwrando ar guriad calon Sonny, er bod hyn yn ofynnol, yn ôl adroddiad ymchwiliad mewnol.

"Pan nes i ddeffro, doedd Sonny ddim yn symud cymaint ac ro'n i'n gwybod ar unwaith fod rhywbeth o'i le," meddai.

"Roedd be ddilynodd yn wyllt, yn anhrefnus ac yn frawychus."

Fe wnaeth cofrestrydd gadarnhau fod curiad calon y ffetws yn afreolaidd, ond cafodd Eve ei throsglwyddo ar gam i'r ward esgor, gan achosi oedi pellach cyn i Sonny gael ei eni trwy doriad Cesaraidd brys am 02:03.

"Es i gysgu cyn fy nhoriad Cesaraidd brys heb wybod a fyddwn i'n deffro neu a fyddai fy mabi yn goroesi," meddai Eve.

Dangosodd profion yn ddiweddarach fod Sonny "wedi bod mewn gofid am gyfnod sylweddol o amser" ac y dylai fod wedi cael ei eni'n gynharach, meddai'r adroddiad.

Cafodd ei drosglwyddo i uned gofal dwys arbenigol i fabanod newydd-anedig, ond ar ôl trafodaethau gyda chlinigwyr, cytunodd Eve a Thomas i'w symud i ofal lliniarol.

Bu farw ychydig ar ôl 19:00 ar 3 Hydref 2022, gydag achos ei farwolaeth wedi'i chofnodi fel anaf i'r ymennydd a gafodd ei achosi gan ddiffyg ocsigen a sepsis.

Dywedodd ymchwilwyr, pe bai curiad calon Sonny wedi cael ei nodi'n anarferol yn gynharach, "byddai hyn yn debygol o fod wedi newid y canlyniad".

'Trysori'r eiliadau gwerthfawr am byth'

Dywedodd Eve: "Byddwn ni wastad yn trysori'r eiliadau gwerthfawr a gawson ni gyda Sonny, ond roedd gorfod ffarwelio ag ef yn torri ein calonnau.

"Yn anffodus, nid digwyddiad ynysig oedd yr hyn a ddigwyddodd i ni.

"Y lleiaf y mae teuluoedd yn ei haeddu yw cael eu lleisiau wedi'u clywed fel bod gofal yn gwella i eraill."

Dywedodd Thomas: "Dydw i ddim yn meddwl y byddwn ni byth yn goresgyn gadael yr ysbyty heb fynd â Sonny gyda ni i ddechrau pennod newydd ein teulu gyda'n gilydd.

"Bydd Sonny yn rhan o'n teulu am byth.

"Byddwn ni wastad yn credu ei fod wedi cael ei fethu pan oedd angen help fwyaf."

'Penderfynol o ddysgu o'r achos'

Mae'r teulu wedi derbyn setliad anhysbys gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Sara Burns o gwmni cyfreithiol Irwin Mitchell, sy'n cynrychioli'r teulu, "na all unrhyw swm o iawndal fyth ddechrau gwneud yn iawn am yr hyn y mae'r teulu wedi bod trwyddo".

Dywedodd y bwrdd iechyd fod newidiadau wedi'u gwneud i leihau'r risg o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

"Rydym yn gwybod na all unrhyw gamau ddadwneud yr hyn sydd wedi digwydd, ond rydym yn benderfynol o ddysgu o'r achos hwn ac i barhau i wella diogelwch ac ansawdd gofal mamolaeth i bob teulu ledled gogledd Cymru," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.