Bwrdd iechyd y gogledd wedi tangyfrif rhestrau aros o dros 11,000

Arwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r arwydd yn wyn ac yn las ac mae abiwlans yn y cefndir.
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid gohirio cyhoeddi ystadegau amseroedd aros ar gyfer gogledd Cymru am y ddeufis diwethaf oherwydd camgymeriadau gyda'r data

  • Cyhoeddwyd

Dylai dros 11,600 yn rhagor o achosion fod wedi eu cynnwys yn ffigyrau rhestrau aros iechyd gogledd Cymru y llynedd, yn ôl ystadegau sydd bellach wedi eu cywiro.

Mae'r cywiriad yn dangos bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi tangyfrif y nifer oedd yn aros am driniaethau rhwng mis Ebrill a mis Awst.

Cafodd y ffigyrau newydd eu cyhoeddi yn dilyn ymchwiliad i brosesau casglu data'r bwrdd iechyd, ar ôl i gamgymeriadau ddod i'r amlwg ym mis Tachwedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles ei fod yn falch fod y camgymeriadau wedi eu cywiro ond mynnodd na fyddai hyn wedi effeithio ar safon y gofal i gleifion.

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer, yn dweud eu bod wedi dysgu gwersi o'r "gwall penodol" a bod y wybodaeth gywir nawr ar gael.

Mae'r adolygiad, a gafodd ei sefydlu gan Mr Miles, wedi dod i'r casgliad mai'r prif wendid oedd methiant i gyfrif achosion lle'r oedd y bwrdd iechyd wedi talu i gleifion gael triniaeth yn breifat, fel rhan o'r ymdrech i leihau rhestrau aros.

Roedd yna fethiannau hefyd ym mhrosesau'r bwrdd iechyd i oruchwylio a sicrhau ansawdd data.

Mae'r ffigyrau, sydd wedi eu diwygio, yn dangos:

  • 11,661 o achosion nad oedden nhw wedi'u cyfrif fel bod ar restrau aros rhwng mis Ebrill a mis Awst y llynedd, allan o gyfanswm cronnol o tua 1 miliwn o achosion a gafodd eu cofnodi yng ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw.

  • Roedd hynny'n cynnwys 452 o achosion lle'r oedd rhywun wedi aros dwy flynedd neu ragor am driniaeth, allan o gyfanswm cronnol o tua 29,300.

Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mynnodd Jeremy Miles na fyddai'r problemau gyda data wedi effeithio ar safon y gofal i gleifion

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd ei fod yn "falch o weld bod yr ymchwiliad i reoli data ar amseroedd aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nawr wedi'i gwblhau".

"Mae'r data sydd wedi'i ddiwygio yn dangos bod nifer bach o lwybrau cleifion wedi'u hychwanegu at y ffigyrau rhwng mis Ebrill a mis Awst o ganlyniad i'r ymchwiliad.

"Hoffwn i fod yn gwbl glir mai mater rheoli data, ac nid mater trin cleifion, oedd hwn. Mae'r gweithdrefnau a'r prosesau wedi'u cryfhau.

"Mae rhagor i'w wneud eto i leihau amseroedd aros hir, ond hoffwn i ddiolch i staff y gwasanaeth iechyd am eu hymdrechion parhaus."

Mae'r ystadegau newydd yn golygu bod darlun cyflawn bellach o faint y rhestrau aros yng Nghymru fel yr oedden nhw ym mis Hydref.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod ychydig dros 781,200 o driniaethau yn aros i gael eu cwblhau yn ystod y mis hwnnw – gostyngiad o 9,200 o gymharu â mis Medi.

O'r rhain, roedd 7,300 o achosion lle roedd rhywun wedi bod yn aros dwy flynedd neu ragor – cynnydd o 655 (9.8%) o gymharu â'r mis blaenorol.

'Prosesau wedi'u cryfhau'

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer, bod yr adolygiad allanol wedi amlinellu "gwall adrodd penodol iawn sydd bellach wedi'i gywiro ac mae'r wybodaeth gywir wedi ei hailchyflwyno".

Ychwanegodd eu bod wedi dysgu gwersi "yn lleol ac yn ehangach, gyda phrosesau wedi'u cryfhau yn y ffordd y caiff data perfformiad ei gofnodi a'i adrodd".

"Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r mater hwn wedi effeithio ar gleifion sy'n derbyn eu hapwyntiadau, nac wedi effeithio ar ddarparu gofal," meddai.

Yn ôl Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Tehmeena Ajmal, mae eu hysbytai a'u gwasanaethau ar draws y gogledd yn brysur iawn.

"Wythnos diwethaf, fe wnaethon ni ddatgan digwyddiad critigol mewnol oherwydd y pwysau sylweddol oedd ar ein safleoedd, gan gynnwys y rhybuddion am dywydd garw," meddai.

Aeth ymlaen i ddweud "er bod gwelliannau wedi digwydd tua diwedd yr wythnos a ganiataodd iddyn nhw israddio'r digwyddiad, mae ein gwasanaethau dal yn brysur iawn".

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i reoli'r pwysau drwy wella llif cleifion drwy ein hysbytai" a cheisio cyflymu'r broses o bobl yn gadael yr ysbyty er mwyn rhyddhau gwelyau.

Pam fod hyn yn arwyddocaol?

O'r holl ystadegau sy'n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, mae amseroedd aros y gwasanaeth iechyd ymhlith y rhai sy'n cael y sylw mwyaf.

Maen nhw'n galluogi cleifion, staff iechyd a gwleidyddion i ddeall perfformiad y gwasanaeth ac i farnu a yw'r targedau sy'n cael eu gosod gan y llywodraeth yn cael eu cyrraedd ai peidio.

Gosododd yr Ysgrifennydd Iechyd darged y gwanwyn diwethaf i leihau rhestrau aros yng Nghymru o tua 800,000 i tua 600,000 erbyn mis Mawrth eleni.

Dywedodd hefyd na fyddai neb, erbyn hynny, yn aros dwy flynedd neu ragor am driniaeth.

Ond mewn cyfweliad â BBC Cymru ym mis Tachwedd, awgrymodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru na fyddai bwrdd iechyd y gogledd yn cyrraedd y nod hwnnw.

Y methiant data hwn yw'r diweddaraf mewn rhestr hir o broblemau i'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd i boblogaeth o tua 700,000 o bobl.

Yn ôl rhai beirniaid, mae'r bwrdd iechyd yn rhy fawr i weithredu'n effeithiol, ac maen nhw'n dadlau y dylid ei rannu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.