Liz Saville-Roberts wedi torri rheolau ASau 'yn anfwriadol'

Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod yn derbyn casgliadau'r comisiynydd yn llawn
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Liz Saville-Roberts o Blaid Cymru dorri rheolau Aelodau Seneddol drwy beidio â chofnodi gwerth £47,250 o roddion i grŵp trawsbleidiol o fewn 28 diwrnod.
Dywedodd comisiynydd safonau San Steffan, Daniel Greenberg fod gweithredoedd AS Dwyfor Meirionnydd yn "anfwriadol" ac nad oedd angen cymryd camau pellach.
Roedd y rhoddion ariannol gan undebau llafur a chymdeithasau staff wedi talu am "gefnogaeth ysgrifenyddol allanol" i'r grŵp Undebau Cyfiawnder Seneddol - sy'n cael ei gadeirio gan Ms Saville-Roberts.
Fe wnaeth hi ymddiheuro am gofrestru'r rhoddion yn hwyr, ond pwysleisiodd fod yr arian ar gyfer cefnogi grŵp trawsbleidiol yn San Steffan ac nad oedd hi wedi elwa'n ariannol mewn unrhyw ffordd.
Pasio cyllideb £27bn Llywodraeth Cymru mewn pleidlais Senedd
- Cyhoeddwyd4 awr yn ôl
Cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid plismona yng Nghymru a Lloegr
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Senedd Cymru i gael rôl ffurfiol wrth benodi cadeirydd S4C yn y dyfodol
- Cyhoeddwyd8 awr yn ôl
Mae'r mater yn ymwneud â rhoddion ariannol gan bum undeb llafur a chymdeithas llafur.
Fe wnaeth y grŵp seneddol dderbyn £18,900 ar 1 Ionawr 2025, a £28,350 ar 1 Hydref 2025.
Cafodd y rhoddion hyn i gyd eu datgan ar y gofrestr swyddogol ar 12 Tachwedd 2025 - sy'n hwyrach na'r terfyn o 28 diwrnod sydd gan ASau i nodi taliadau o'r fath.
Dywedodd y comisiynydd safonau, Daniel Greenburg fod ymchwiliad swyddogol wedi dechrau ar 11 Rhagfyr ar ôl iddo dderbyn cwyn swyddogol.
Daeth i'r casgliad fod "methu â chofrestru'r rhoddion ar amser cyfystyr â thorri rheolau ymddygiad ASau" ond ei fod yn hyderus nad oedd hyn wedi cael ei wneud yn fwriadol.
'Derbyn y casgliadau yn llawn'
Wrth ymateb, dywedodd Ms Saville-Roberts: "Rydw i'n derbyn casgliadau'r comisiynydd yn llawn ac yn ymddiheuro am gofrestru'r rhoddion hyn yn hwyr.
"Mae'r mater yma'n ymwneud a chefnogaeth ysgrifenyddol allanol ar gyfer grŵp seneddol yr wyf i yn ei gadeirio, ac nad wyf wedi derbyn unrhyw daliad personol nac unrhyw fantais ariannol o gwbl.
"Roedd hwn yn gamgymeriad gweinyddol dros flwyddyn yn ôl ac rydw i'n falch bod y comisiynydd wedi cadarnhau ei fod yn anfwriadol.
"Rydw i'n ystyried fy nyletswyddau dan y cod ymddygiad fel mater difrifol iawn, ac rydw i wedi cymryd camau i sicrhau fod unrhyw gofrestru yn digwydd yn amserol yn y dyfodol.
"Mae tryloywder ac atebolrwydd yn hanfodol ac rydw i'n falch bod y mater yma wedi cael ei ddatrys."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.