Pryder am ddefnydd cyw iâr o dramor mewn prydau bwyd ysgol

- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr cefn gwlad wedi codi pryderon am ddefnydd cyw iâr o dramor mewn rhai prydau bwyd ysgol yng Nghymru.
Yn ôl ystadegau sydd wedi eu rhannu gyda rhaglen Newyddion S4C gan y Gynghrair Cefn Gwlad, mae dros 90% o'r cyw iâr sy'n cael eu rhoi mewn prydau bwyd ysgol mewn rhai awdurdodau lleol yn dod o du fas i'r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl cyfarwyddwr y Gynghrair Cefn Gwlad yng Nghymru, Rachel Evans: "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru newid y fframwaith i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhoi bwyd Prydeinig - o leiaf - ar blatiau ein plant."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymrwymo i gynyddu'r defnydd o fwyd Cymreig a gynhyrchir yn lleol mewn ysgolion".

Mae Rachel Evans yn galw am adroddiad blynyddol i bawb gael gwybod "beth yn gwmws ni'n bwydo'n plant ni"
Dywedodd Rachel Evans eu bod "yn gofyn am adroddiad blynyddol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fel bod ni, fel rhieni, y cyhoedd a'n ffermwyr ni hefyd, yn gallu gweld yn gwmws o ble mae'n bwyd yn dod fel allwn ni gael trafodaeth onest am beth yn gwmws ni'n bwydo'n plant ni."
Anfonodd y Gynghrair Cefn Gwlad geisiadau rhyddid gwybodaeth i awdurdodau lleol Cymru.
Gofynnon nhw pa ganran o gyw iâr (gan gynnwys cynnyrch cyw iâr fel nygets, byrgyrs cyw iâr ac ati) mewn prydau bwyd ysgol oedd yn dod o Gymru, y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt yn y flwyddyn academaidd ddiweddaraf.
Fe atebodd 19 o'r 22 o awdurdodau lleol.
Doedd dim un o'r awdurdodau lleol atebodd yn gallu dweud pa ganran o'u cynnyrch cyw iâr mewn ysgolion oedd yn dod o Gymru.
'Angen i Gymru gynhyrchu mwy o'i bwyd ei hun' - pwyllgor Senedd
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Ceredigion yn arwain wrth gyflwyno llysiau lleol ar fwydlenni ysgol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr
Myfyrwyr prifysgol yn methu prydau er mwyn arbed arian
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2025
Nododd dau – Ynys Môn a Phen-y-bont ar Ogwr - bod eu holl gynnyrch cyw iâr mewn prydau bwyd ysgol yn dod o'r Deyrnas Unedig.
Ond mae'r ffigyrau yn amrywio yn fawr ar draws y wlad, gyda thri awdurdod yn nodi bod mwy nag 85% o'r cyw iâr mewn ysgolion yn deillio o wledydd y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, fel Brasil, China a Gwlad Thai.
Ym Merthyr Tudful mae'r ganran uchaf o gynnyrch cyw iâr mewn ysgolion sydd yn dod o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, gyda 99.35%.
Dywedodd y cyngor fod yr ystadegau hynny yn ymwneud â chynnyrch cyw iâr wedi rhewi.
94% oedd y ffigwr cyfatebol yng Nghonwy.
Nododd Cyngor Sir Caerffili bod 87.32% o'r cyw iâr mewn prydau bwyd ysgol yn dod o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, ond dywedon nhw nad ydyn nhw'n defnyddio unrhyw gyw iâr o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd ers dechrau'r flwyddyn academaidd bresennol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Merthyr Tudful: "Pan yn dewis cynnyrch newydd neu yn disodli cynnyrch, rydyn ni'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a'n gofynion diogelwch bwyd."
Ychwanegon nhw eu bod yn "gweithio gyda darparwyr lleol ar gyfer y cynnyrch defnyddiwn yn ein hysgolion", a'u bod yn "ceisio cael y cynnyrch gorau sydd ar gael... gan flaenoriaethu safon, maeth a gwerth am arian".
Yn ôl Cyngor Sir Conwy, maen nhw'n "dilyn dull rhagweithiol o ran defnyddio cynnyrch Cymreig ar gyfer prydau ysgol pan fo hyn yn hyfyw, yn gynaliadwy ac yn darparu gwerth gorau".

Mae'r ffermwr Hefin Jones yn dweud ei bod yn ymddangos fel ein bod ni'n "derbyn bwyd o ansawdd is sydd yn cael ei gludo hanner ffordd o amgylch y byd"
Mae'r ffermwr a thad i dri, Hefin Jones, yn byw yn Nyffryn Conwy ac wedi ei ddigalonni gan yr ystadegau.
"Fel ffermwr Cymreig, dwi'n siomedig a rhwystredig bod 94% o'r cyw iâr mae Cyngor Sir Conwy yn ei ddarparu i blant ysgol yn dod o lefydd fel Gwlad Thai a Brasil.
"Wrth i gynnyrch safonol Cymreig gael ei gwtogi, mae'n ymddangos ein bod ni'n derbyn bwyd o ansawdd is sydd yn cael ei gludo hanner ffordd o amgylch y byd.
"Dyw hynny'n gwneud dim synnwyr o ran diogelwch bwyd, lles anifeiliaid na'r hinsawdd.
"Dylen ni fod yn cefnogi ffermwyr a chynnyrch Cymreig, a sicrhau ein bod yn bwydo bwyd o'r ansawdd uchaf i'n plant."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol, cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr i fyrhau cadwyni cyflenwi, lleihau milltiroedd bwyd a chefnogi tyfwyr, ffermwyr a gweithgynhyrchwyr Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.