'Angen i Gymru gynhyrchu mwy o'i bwyd ei hun' - pwyllgor Senedd

Mae pwyllgor y Senedd yn galw ar y llywodraeth i ymrwymo i darged o gynhyrchu 75% o'r llysiau sy'n cael ei fwyta gan drigolion Cymru yn y wlad hon
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o gymorth ar y sector bwyd yng Nghymru iddo allu tyfu a ffynnu, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae pwyllgor yr economi, masnach a materion gwledig yn dweud bod mewnforio cynnyrch o wledydd eraill sydd â safonau gwahanol i Gymru yn cael effaith negyddol ar y sector, ac maen nhw'n annog y llywodraeth i gymryd camau mwy pendant i'w gryfhau.
Un opsiwn sy'n cael ei argymell i'r llywodraeth yw cynyddu defnydd cynnyrch Cymreig o fewn y sector cyhoeddus, er enghraifft mewn ysgolion, er mwyn "creu galw sefydlog sy'n cefnogi busnesau Cymru".
Mae'r pwyllgor hefyd yn awgrymu creu targed newydd i gynhyrchu 75% o'r llysiau sy'n cael ei fwyta gan drigolion Cymru yn y wlad hon.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "ymrwymo'n llwyr i gefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru."
Ceredigion yn arwain wrth gyflwyno llysiau lleol ar fwydlenni ysgol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr
Rhoi gwersi cynhyrchu bwyd ar ôl rhybudd bod plant 'ddim yn dallt'
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2025
Sioe Môn: 'Diffyg cynnyrch lleol mewn prydau ysgol yn rhwystredig'
- Cyhoeddwyd13 Awst 2025
Mae Emyr Owen, sy'n gyfarwyddwr cwmni Tatws Trading yn Llandudno, yn hoff o'r syniad o dyfu'r sector bwyd yng Nghymru, ond mae'n amau y byddai gweithredu ar argymhellion y pwyllgor yn cyflawni hynny.
"'Sa hi'n braf iawn medru cael mwy o gynnyrch Cymreig lleol," meddai Mr Owen.
"Y gwir amdani ydi, mae yna rai tyfwyr bach sy'n llwyddiannus iawn, ond dwi'n meddwl yng Nghymru i wneud o ar lefel fwy, dyw o byth yn mynd i weithio'n anffodus."
'Pethau'n gwaethygu yn lle gwella'
Mae Mr Owen yn rhedeg ei fusnes ar y cyd gyda'i fab a'i ŵyr.
Wedi blynyddoedd o brynu a gwerthu cynnyrch i fusnesau ac unigolion ar draws y gogledd, mae'n dweud bod y gystadleuaeth o dramor wedi cael effaith sylweddol ar y farchnad yng Nghymru.
"Yn anffodus, dwi'n gweld pethau'n gwaethygu yn lle gwella, hyd yn oed gyda'r argymhellion newydd yma," meddai.
"Mae yna sawl sialens yn wynebu ni fel y dirwedd yma - tydi o ddim yn mynd i weithio ar lefel mawr.
"Wedyn y peth pwysicaf i'r rhan fwyaf o fusnesau - yn enwedig archfarchnad fawr, ond y llywodraeth hefyd - yw'r gost.
"Mae'n hawdd dweud bod angen cynhyrchu mwy a phrynu mwy yma, ond pan mae modd cael rhywbeth o dramor am lawer llai o bres, dyna sy'n digwydd de."
Ychwanegodd: "Dwi'n hoff iawn o'r syniad ond mae cefnogi'r syniad go iawn a gweld hi'n llwyddo yn beth gwahanol."

Mae Emyr Owen (canol) yn rhedeg ei fusnes gyda'i fab a'i ŵyr
Ar hyn o bryd mae'r sector prosesu bwyd yn ychwanegu £7bn at economi Cymru, medd y pwyllgor.
Ond mae'r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad maen nhw'n meddwl y gall Llywodraeth Cymru eu gweithredu er mwyn hybu'r sector i dyfu, sef:
Creu strategaeth fwyd gydgysylltiedig i Gymru;
Diogelu prosesu cig a diogelwch bwyd yng Nghymru;
Cefnogi twf mewn garddwriaeth yng Nghymru drwy ymrwymo i darged o gynhyrchu 75% o lysiau sy'n cael eu bwyta yng Nghymru yn gynaliadwy yng Nghymru;
Nodi camau gweithredu clir i gefnogi sector prosesu bwyd môr Cymru;
Defnyddio caffael cyhoeddus yn fwy strategol;
Ystyried taliad premiwm fel y premiwm lloi sugno.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Andrew RT Davies AS: "Drwy gefnogi proseswyr lleol, defnyddio caffael cyhoeddus yn fwy effeithiol, a gosod uchelgeisiau clir ar gyfer bwyd a gynhyrchir yng Nghymru, gall Llywodraeth Cymru helpu i greu system fwyd sy'n fwy gwydn a chynaliadwy sy'n gweithio i bawb."
Prosiect ysgolion eisoes ar waith
Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r rôl sydd gan y sector cyhoeddus i'w chwarae os yw Cymru'n mynd i lwyddo i gefnogi'r diwydiant bwyd i'r dyfodol.
Un esiampl sydd yn barod ar waith yw'r Prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion.
Nod y polisi yw cynyddu'r cyflenwad o lysiau organig sy'n cael eu cynhyrchu'n lleol mewn prydau bwyd ysgolion cynradd.
Dywedodd Dr Siobhan Maderson o Gymdeithas y Pridd wrth y pwyllgor bod y polisi yn enghraifft dda o sut gall y llywodraeth cefnogi'r sector bwyd trwy greu galw parhaus am gynnyrch lleol.
"Gall cymorth cadarn gan Lywodraeth Cymru gefnogi'r gwaith o ehangu'r cynllun Llysiau o Gymru fel y bydd yn cyflawni ei nod fod 25% o'r holl fwyd yn ysgolion cynradd Cymru wedi'i gynhyrchu yn lleol ac organig erbyn 2030."
Mewn ymateb i'r adroddiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad pwysig hwn i brosesu bwyd ac yn croesawu cyhoeddi ei adroddiad.
"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru a byddwn yn ymateb i argymhellion y pwyllgor maes o law."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.