Ceredigion yn arwain wrth gyflwyno llysiau lleol ar fwydlenni ysgol

Merched ysgol y dderi
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch ar droed i geisio cael mwy o lysiau lleol ar fwydlenni ysgolion yng Nghymru.

Yn 2025 Ceredigion oedd y sir wnaeth weini'r nifer mwyaf o lysiau lleol i ddisgyblion sef cyfanswm o dros 2500kg yn ôl ystadegau cwmni cyfanwerthu Castell Howell.

Bu criw o ddisgyblion Ysgol y Dderi, Llangybi, ger Llambed, wrthi'n ymgyrchu ar ôl sylwi nad oedd llysiau o Gymru yn cael eu gweini yn eu hysgol.

Er ei bod yn falch iawn o'r cyrhaeddiad yma, dywedodd pennaeth yr ysgol fod 'na "lot mwy i'w wneud".

Ers Ionawr 2025, mae pob ysgol yng Ngheredigion wedi cymryd rhan ym mhrosiect Llysiau o Gymru.

Y nod yw gweini llysiau organig wedi'u tyfu yng Nghymru fel rhan o'r cinio ysgol.

Yn ôl ffigyrau Castell Howell, mae Ceredigion wedi gweini 2537kg o lysiau o Gymru yn eu hysgolion - y swm mwyaf yng Nghymru.

Heini Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heini Thomas bod y disgyblion wedi "ymgyrchu'n galed"

Roedd Pennaeth Ysgol y Dderi, Llangybi, Heini Thomas, yn falch iawn fod yr ysgol ynghlwm â'r prosiect hwn.

"Tua blwyddyn a hanner yn ôl buodd blwyddyn 3 a 4 yn ymgyrchu'n yn galed iawn i geisio cael mwy o lysiau a ffrwythau ar fwydlen yr ysgol… doedd 'na ddim byd yn dod o Geredigion ac roedd y plant wedi'u syfrdanu â'r ffaith hon.

"Felly maen nhw wedi ymgyrchu'n galed, wedi ysgrifennu at gynghorwyr lleol, at yr Aelod Seneddol… ac ma' pawb wedi cydweithio'n rili galed er mwyn newid pethe.

"Dyma'r cam cyntaf. Ry' ni mor falch fod Cyngor Sir Ceredigion wedi ennill y wobr yma am y sir sy'n prynu ac archebu'r nifer mwyaf o lysiau, ond ma' 'na lot mwy i'w wneud."

Elliw a Beca
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elliw a Beca ym mlwyddyn chwech yn yr ysgol

Yn dilyn eu llwyddiant yn ymgyrchu, mae'r disyblion bellach yn derbyn brocoli a moron o ffermydd cyfagos.

Bu rhai o'r disgyblion hefyd yn gwneud podlediad gan siarad ag arbenigwyr o fewn y diwydiant.

Dywedodd Elliw, blwyddyn 6: "Mae'n rili neis achos pan ro' ni'n gwybod oedd y brocoli yn dod o Lechryd doedd dim gwastraff, achos ni'n gwybod o le oedd e'n dod so oedd llai o wastraff.

Ychwanegodd Beca, blwyddyn 6: "Fi'n credu gallen ni gael mwy achos ma'n garlic ni yn dod o China, a fi'n credu mai'r cam cyntaf yw hwn ond ni'n falch iawn ni'n gallu cael carrots a brocoli o Lechryd a Bwlchwernen."

Ceinwen a Mabli

Bu'r disgyblion yn cysylltu ag aelodau'r Cyngor Sir a'r Senedd i leisio eu barn i gael newid, ac roedd Mabli, blwyddyn 6, yn falch fod newid wedi digwydd.

"Mae'n deimlad da bod pobl yn gwrando arnom ni ar draws y byd achos ni rili moyn cael mwy o lysiau a ffrwythau i'n hysgol ni."

Roedd Ceinwen, blwyddyn 5, yn un o'r criw fu'n gwneud y podlediad, ac roedd yn falch o weld mwy o lysiau lleol yn cael eu gweini: "Ma' fe'n dda achos ma' fe'n well i'r economi ac mae'r bwyd yn teithio llai.

"Fi'n gobeithio erbyn blwyddyn nesaf bydd mwy o lysiau eto," meddai.

Lisa Fearn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cogydd a'r awdur Lisa Fearn hefyd yn falch o'r llwyddiant

Roedd y cogydd Lisa Fearn hefyd yn falch iawn o lwyddiant a brwdfrydedd y disgyblion.

"Ma' lot o blant yn lico cael atebion i lot o gwestiynau, felly mae dealltwriaeth o ran lle mae eu bwyd yn dod yn rhywbeth sy'n bwysig iddyn nhw.

"Mae'n creu rhyw fath o excitement ynddyn nhw. Ma'n nhw'n lico gweld ble mae'r bwyd yn cael ei dyfu, falle nabod y ffermwyr ac wedyn yn fwy tebygol o goginio fe a'i fwyta fe.

"Os yw'r plant 'ma'n deall y system ac yn deall pwysigrwydd bwyta'n lleol, tyfu'n lleol ac yn y blaen, byddan nhw yn y pen draw yn gorfodi ni i ehangu'r prosiect 'ma."

Pynciau cysylltiedig