Ymatebion 'ffiaidd' ar-lein dros ddefnydd Yma o Hyd yn erbyn ceiswyr lloches

- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr Dafydd Iwan wedi dweud iddo dderbyn ymatebion "ffiaidd" ar-lein ar ôl dweud nad yw'n cefnogi defnydd o'i gân Yma o Hyd mewn protestiadau yn erbyn ceiswyr lloches.
Dywedodd nad yw'r gân yn cael ei defnyddio gyda'i ganiatâd ac nad yw'n cytuno â'r modd y caiff ei chysylltu â negeseuon yn erbyn ffoaduriaid.
Daw ei sylwadau yn sgil gwrthwynebiad i gynlluniau yn ardal Wrecsam i letya ceiswyr lloches, lle mae rhai grwpiau wedi defnyddio'r gân mewn deunydd hyrwyddo.
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd Cyngor Wrecsam bod y Swyddfa Gartref wedi rhoi gwybod na fyddai'n parhau â'r cynllun i letya ceiswyr lloches yn ardal Rhosllannerchrugog.
'Peth peryglus'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dafydd Iwan ei fod yn gwybod nad yw'n gallu atal y grwpiau rhag defnyddio unrhyw ddarn o gerddoriaeth.
Ond dywedodd ei bod yn "bwysig bod pobl yn gweld nad ydw i'n cytuno" â'u safbwyntiau ar geiswyr lloches.
Roedd y canwr wedi rhoi neges ar wefan X yn datgan ei safbwynt yn ddiweddar.
Wrth drafod ymatebion ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd: "Mae peth o'r ymateb yma ar X yn eitha' ffiaidd, a dyw e ddim yn bosib i wybod pwy ydyn nhw."
Dafydd Iwan: Ail wynt i Yma o Hyd 'wedi newid fy mywyd'
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
Mwy o gamwybodaeth ar-lein yn trafod gwestai i geiswyr lloches
- Cyhoeddwyd16 Medi 2025
Dywedodd hefyd fod rhai yn ceisio cysylltu "cenedlaetholdeb a Chymreictod gwladgarol" y gân â'r ddadl am ffoaduriaid, gan ddisgrifio hynny fel "peth peryglus".
"Dwi 'di cael fy siomi fy hun gan unigolion fyswn i'n disgwyl ymateb gwahanol ganddyn nhw yn gweld y peth fel bygythiad i Gymreictod.
"Be' dwi eisiau ei wneud hi'n hollol glir yw nad ydy fy nghenedlaetholdeb i a fy ngwladgarwch i ddim byd i wneud efo creu casineb yn erbyn pobl eraill ac yn sicr ddim yn erbyn y pobl 'ma sy'n dianc ac yn ffoi am eu bywydau."
Penderfyniad 'cywir'
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd Cyngor Wrecsam fod y Swyddfa Gartref wedi cadarnhau na fydd y gwesty yn Rhosllannerchrugog yn cael ei ddefnyddio fel llety i geiswyr lloches ar ôl ystyried barn y cyngor a'r gymuned leol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard, ei fod yn croesawu'r penderfyniad, gan ychwanegu ei fod yn falch bod yr hyn a ddisgrifiodd fel y penderfyniad "cywir" wedi'i wneud.