Cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid plismona yng Nghymru a Lloegr

Shabana Mahmood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried gostwng nifer y lluoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr yn sylweddol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid yr hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel "model plismona sydd wedi torri" yng Nghymru a Lloegr.

Fe gadarnhaodd Shabana Mahmood y byddai'n creu Gwasanaeth Heddlu newydd i fynd i'r afael â throseddau cymhleth sy'n croesi ffiniau, ac mae'n bosib y gallai nifer y lluoedd lleol ostwng yn sylweddol.

Mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Llun, dywedodd Ms Mahmood ei bod am i swyddogion wneud defnydd gwell o dechnoleg - gan gynnwys ehangu'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau.

Mae Llafur Cymru, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a'r Blaid Werdd am weld meusydd plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli, tra bod Reform a'r Ceidwadwyr am weld y sefyllfa'n parhau fel y mae hi.

Dywedodd Ms Mahmood y byddai'r newidiadau hyn "yn sicrhau bod y math cywir o blismona yn digwydd yn y mannau cywir".

"Rydw i wedi amlinellu newidiadau hirddisgwyliedig sydd yn diffinio model newydd o blismona yn y wlad hon gyda phlismona lleol sy'n amddiffyn ein cymunedau a phlismona cenedlaethol sy'n amddiffyn ni gyd."

Beth yw'r cynlluniau?

Roedd yr Ysgrifennydd Cartref eisoes wedi datgelu cynlluniau i ddileu swyddi comisiynwyr heddlu a throsedd.

Mae hi hefyd wedi sôn yn ddiweddar am gynlluniau i greu "FBI Prydeinig" er mwyn, meddai hi, rhyddhau mwy o swyddogion i fynd i'r afael â throseddau ar lawr gwlad.

Ddydd Llun fe esboniodd y bydd disgwyl i'r heddlu ymateb i achosion brys o fewn chwarter awr mewn ardaloedd trefol ac 20 munud mewn ardaloedd gwledig.

Bydd yn rhaid i bob swyddog gael trwydded i barhau i weithio a phrofi eu bod nhw'n gymwys i ddelio ag achosion fel trais yn erbyn merched.

Byddai'r system newydd hefyd yn rhoi'r grym iddi hi ddiswyddo prif gwnstabl ar sail perfformiad.

Mae'r llywodraeth hefyd yn ystyried gostwng nifer y lluoedd heddlu er mwyn "osgoi dyblygu gwaith a lleihau gwahaniaethau o ran perfformiad" o un llu i'r llall.

Mae yna gynlluniau hefyd i sefydlu canolfan ar gyfer y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn plismona.

Swyddog heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Gartref yn mynnu na fyddai lleihau nifer y lluoedd heddlu yn gwneud plismona yn llai lleol

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu De Cymru, Emma Woods: "Rydw i'n croesawu'r uchelgais i foderneiddio plismona, ond dylai unrhyw ddiwygio amddiffyn plismona cymunedol ac atebolrwydd lleol cryf - sy'n hanfodol ar gyfer cadw ein cymunedau yn ddiogel.

"Gallai gwasanaeth heddlu cenedlaethol gynnig cyfleoedd i osgoi dyblygu a gwella cysondeb, ac mae'n hanfodol fod unrhyw effeithiolrwydd sy'n deillio o hynny yn cael ei roi yn ôl mewn i wella plismona lleol.

"Ni ddylai hyn ddigwydd ar draul prosesau lleol neu'r gallu i ymateb i anghenion penodol cymunedau yn ne Cymru."

Ychwanegodd ei bod yn bwysig trafod unrhyw newidiadau i ffiniau lluoedd gyda'r cyhoedd a bod unrhyw fodel newydd yn cynnal y cysylltiad agos rhwng yr heddlu a chymunedau lleol.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mark Hobrough: "Mae fy ffocws i a'n swyddogion a staff ar sicrhau ein bod yn gwasanaethu cymunedau Gwent ac yn eu cadw yn ddiogel.

"...Mae troseddu yn newid, mae technoleg yn esblygu ac mae angen i ni fod yn barod i daclo troseddu mewn byd modern. Ond mae angen sicrhau ein bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau plismona lleol o ansawdd, yn ogystal â mynd i'r afael a bygythiadau cenedlaethol.

"Rydw i wedi ymroi i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn rai sy'n llesol i bobl Gwent."

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-powys, Ifan Charles: "Mae arweinwyr heddlu yn unedig wrth alw am newidiadau uchelgeisiol fyddai'n arwain at wasanaeth o'r safon uchaf i'n cymunedau, swyddogion, staff a gwirfoddolwyr.

"Y flaenoriaeth wastad o ran plismona yw'r dioddefwyr a'r gwasanaethau a'r gefnogaeth rydyn ni'n ei ddarparu i'r cymunedau yr ydym ni'n eu amddiffyn. Yn yr ystyr hwnnw, fe fyddwn yn parhau fel ydyn ni am y tro.

"...Rydw i wedi ymroi i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn rai sy'n llesol i bobl Dyfed a Phowys."

Gareth Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gareth Pritchard, mae lluoedd bach yn tueddu i berfformio'n well na rhai mawr

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun cyn i'r manylion gael eu cyhoeddi, dywedodd cyn-ddirprwy brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard mai ei bryder yw bod "heddluoedd mawr ddim wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf".

"'Dan ni wedi gweld trafferthion Heddlu'r Met yn Llundain, mae 'na drafferthion wedi bod ym Manceinion, mae prif gwnstabl y West Midlands 'di mynd diwrnod o'r blaen, a phan unwyd yr heddluoedd yn Yr Alban doedd hynny ddim yn llwyddiant.

"Felly dydi creu cyrff mawr ddim bob amser yn gwneud pethau'n fwy llwyddiannus.

"Dros y blynyddoedd diwethaf mae heddluoedd llai wedi perfformio'n well wrth ddatrys troseddau ac wedi bod yn fwy atebol."

Ychwanegodd ei fod yn gweld buddion posib mewn gwasanaeth cenedlaethol, ond fod angen sicrhau hefyd fod unrhyw wasanaeth o'r fath yn atebol ar lefel lleol.

"Dwi'n meddwl bod 'na bethau da i ddod allan o wasanaeth plismona cenedlaethol - mae plismona wedi newid, mae 'na beryglon o droseddau difrifol yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

"Ac felly dwi'n meddwl bod cryfhau y strwythur cenedlaethol yn gam pwysig, ond wrth gwrs mae rhywun isio gwybod o lle mae'r adnoddau yn dod, a hefyd sut mae hyn yn atebol i'r cyhoedd."

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynlluniau "yn creu cyfleoedd sylweddol i alinio plismona," yn ôl Eluned Morgan

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan: "Mae'r newidiadau i blismona a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref yn creu cyfleoedd sylweddol i alinio plismona â hunaniaeth a daearyddiaeth unigryw Cymru.

"Hefyd i adlewyrchu natur ein cymunedau a'r partneriaethau cryf rydym wedi'u hadeiladu rhwng Llywodraeth Cymru, ein heddluoedd a'n sector cyhoeddus ehangach.

"Byddwn yn disgwyl i'r adolygiad annibynnol ystyried plismona cyfredol yng Nghymru a byddwn yn disgwyl y model gorau posibl sy'n sicrhau atebolrwydd, llywodraethu cryf a chydlyniad â thirwedd gymdeithasol a gwleidyddol Cymru fodern."

Plaid Cymru'n galw am ddatganoli plismona

Yn ôl Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, mae'r cynlluniau yn "cryfhau'r achos" dros ddatganoli pwerau plismona yn llawn i Gymru.

"Mae'r ad-drefnu arfaethedig i blismona yng Nghymru yn cael ei wthio gan San Steffan, heb fawr o ystyriaeth i ddaearyddiaeth cymunedau, iaith nag anghenion cymdeithasol Cymru," meddai.

"Mae penderfyniadau fydd yn ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus Cymru unwaith eto'n cael eu gwneud heb i Gymru gael y pŵer i benderfynu drosto'i hun."

Dywedodd Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid yn San Steffan, Chris Philp, fod y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu'r cynlluniau i uno lluoedd heddlu.

"Mae'r cynlluniau yn cynnwys uno heddluoedd, gydag adroddiadau dros y penwythnos yn awgrymu y gallai'r nifer ostwng o 43 lawr i 10 neu 12.

"Byddai lluoedd enfawr fel hyn yn teimlo'n bell o'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu a bydd adnoddau yn cael eu tynnu o'r pentrefi a'r trefi tuag at y dinasoedd."

Rhybuddiodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig y byddai cynlluniau i uno'r pedwar llu heddlu yng Nghymru yn bygwth "ailadrodd methiannau" a welwyd wedi sefyllfa debyg yn Yr Alban.

"Ni ddylai Cymru gael ei gwthio at fodel sy'n gwneud plismona yn fwy anghysbell, llai atebol ac sy'n canolbwyntio llai ar droseddau lleol - yn enwedig mewn cymunedau gwledig a rhannol wledig ble mae trigolion eisoes yn wynebu amseroedd ymateb hir."