Nifer cwnstabliaid arbennig wedi bron â haneru mewn degawd

Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys roedd y gostyniad mwyaf mewn 10 mlynedd - 71% - yn niferoedd cwnstabliaid arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y cwnstabliaid arbennig yng Nghymru wedi bron â haneru o fewn y 10 mlynedd diwethaf, gan roi pwysau cynyddol ar luoedd heddlu wrth iddyn nhw golli cannoedd o swyddogion gwirfoddol.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru gan Gais Rhyddid Gwybodaeth, roedd pedwar llu Cymru â 476 o gwnstabliaid arbennig ym mis Hydref 2015, ond mae'r cyfanswm wedi gostwng i 240 erbyn eleni.
O fewn ardal Dyfed-Powys oedd y gostyngiad mwyaf - 71%, o 147 i 43.
Yn y gogledd, roedd yna 67 o'i gymharu â 139 yn 2015, a 51 o'i gymharu â 118 o fewn Heddlu Gwent.
Heddlu'r De oedd yr unig lu i weld cynnydd - o 72 yn 2015 i 79 eleni - ond roedd y ffigwr mor uchel â 152 yn 2020 cyn dechrau gostwng.

Mae'r argyfwng costau byw yn atal gwirfoddoli, yn ôl un arbenigwr
Gwirfoddolwyr di-dâl yw cwnstabliaid arbennig, ond ar ôl cwblhau eu hyfforddiant mae gyda nhw'r un pwerau â heddweision arferol.
Eleni yn unig maen nhw wedi darparu 1.7m o oriau o blismona rheng flaen ar draws Cymru a Lloegr, sy'n werth £85m.
Yn ôl Dr Ashley Frayling o Gymdeithas y Cwnstabliaid Arbennig, yr argyfwng costau byw yw un o'r rhesymau dros y gostyngiad mewn niferoedd.
"Mae pobl iau eisiau dechrau ennill bywoliaeth a chael cyflog," meddai.
"Mae yna hefyd newid cenedlaethol yn y ffordd y mae'r heddlu'n cael eu gweld. Mae yna gryn ffocws yn y cyfryngau ar agweddau negyddol plismona."
'2025 yn flwyddyn heriol arall i Heddlu'r De' - Prif Gwnstabl
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2025
Dileu swyddi comisiynwyr heddlu a throsedd 'i arbed £100m'
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025
Dywed Dr Frayling - darlithydd ym Mhrifysgol Caerwysg ac Uwcharolygydd Heddlu Rhan-amser gyda llu Devon and Cornwall - bod llawer o gwnstabliaid arbennig wedi cael eu penodi'n swyddogion heddlu llawn amser ychydig flynyddoedd yn ôl wedi ymgyrch recriwtio, a bod llai o bobl ifanc ag awydd gwneud y gwaith yn wirfoddol.
"Ry'n ni'n rhoi cryn bwysau ar gwnstabliaid arbennig nad sy'n cael tâl am eu gwaith na'u hyfforddiant," dywedodd.
"Mae yna hefyd newid cenedlaethol o ran y ffordd y mae plismona'n cael ei weld. Mae yna gryn ffocws yn y cyfryngau ar agweddau negyddol plismona.
"Ers y pandemig, mae pobl yn rhoi mwy o bwys ar gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
"Os oes plant ifanc 'da chi a chi adra am bedwar y bore ar ôl patrôl dros nos, a'r plant yn deffro o chwech ymlaen... mae hynny'n eitha' anodd."
'Mae'n beth anodd i'w werthu...'
Dywed Leigh Godfrey o Ffederasiwn Heddlu Cymru bod recriwtio a chadw gwirfoddol yn gynyddol anodd pan fo lluoedd eisoes dan bwysau, a dyw gwirfoddolwyr ddim yn cael yr un profiadau ag yn y gorffennol.
"Gyda phlismona fel ag y mae ar y foment, mae'n beth anodd i'w werthu, i ofyn wrth wirfoddolwyr i lenwi rôl anodd, trwm, risg uchel."

Mae'r Cwnstabl Arbennig gyda Heddlu Gogledd Cymru, Elgan Hughes, yn gwasanaethu'r ardal ble cafodd ei eni a'i fagu
Ar draws Cymru mae dros 400 o bobl yn dal yn gwirfoddoli i'w llu heddlu lleol.
Mae Elgan Hughes, 40, yn gweithio fel archwiliwr fforensig digidol gyda Heddlu'r Gogledd ond roedd eisiau ymwneud mwy â'r gymuned.
Mae'r gŵr o Ruthun bellach yn gwnstabl arbennig ers tair blynedd.
"Mae troseddau digidol yn wahanol iawn i fod allan yn y gymuned," meddai. "Mae'n teimlo'n fwy interactive.
"A gallai helpu'r bobol arferol efo'u cwestiynau digidol hefyd, felly mae'n win-win."
Ychwanegodd mai un o'r heriau recriwtio mwyaf yw agwedd "pam fydden i'n rhoi fy amser rhydd ar gyfer hyn?"

Mae Paul Franklin wedi cael ei ddyrchafu'n sarjant yn ddiweddar gyda'r heddlu arbennig
Mae'r plymer 50 oed o Gwmbrân, Paul Franklin, yn gwnstabl arbennig ers pedair blynedd, ac wedi ei ddyrchafu'n ddiweddar i fod yn sarjant arbennig.
"Un o fy alwadau cyntaf oedd ymateb i ffrwgwd mawr mewn tŷ tafarn," meddai.
"Ro'n i'n bryderus, nes i mi gofio fy hyfforddiant. Ges i syndod cystal ro'n i'n gallu delio â'r sefyllfa.
"Mae'r hyfforddiant yr un fath ag i'r swyddogion llawn amser. Pan ro'n i yna'n ceisio atal ffrwgwd, wyddai neb mai gwirfoddolwr o'n i."

James Luckhurst a Sam Tucker - dau sy'n cael boddhad o wirfoddoli fel cwnstabliaid arbennig
Symudodd James Luckhurst, 61, i Fochrwyd, ger Aberhonddu o Lundain tua degawd yn ôl, ac yn cael boddhad o fod yn gwnstabl arbennig.
"Yn ddiweddar, bues i'n helpu menyw â dementia, oedd wedi mynd ar goll, i fynd adre'n ddiogel.
"Rwy'n hunan-gyflogedig ac yn gallu addasu fy oriau. Mynd allan a helpu pobl aros a theimlo'n ddiogel - does dim pris ar hynny."
Symudodd Sam Tucker, 35, i Gaerdydd o Lundain o 2019. Ymunodd â Heddlu'r De fel cwnstabl arbennig wedi'r pandemig, gan hyfforddi ochr yn ochr â'i swydd mapio ddigidol.
"Rwy wedi cael cyfle i ymwneud â'r cyhoedd, o ymateb i alwadau 999 i gefnogi digwyddiadau mawr yn y ddinas, fel gemau rygbi rhyngwladol yr Hydref, sydd ddim yn rhywbeth alla'i ei brofi yn fy swydd bob dydd."
'Ymgyrchoedd recriwtio cyson'
Mae rhai lluoedd wedi cymryd camau i ddenu a chadw gwirfoddolwyr. Yn Llundain a Manceinion mae gostyngiad treth cyngor ar gynnig am gwblhau nifer penodol o oriau.
Mae Heddlu'r Alban yn talu £1,100 am 180 o oriau bob blwyddyn - swm sydd ar fin codi i £2,000.
Dywedodd Leigh Godfrey, sy'n arwain y Ffederasiwn Heddlu yng Nghymru: "Pam ddylen ni golli'r cyfle i gael swyddogion hyfforddedig i gynorthwyo'u cymunedau am ddim, pan mae pwysau ariannol ar bob llu?"
Mae pedwar llu heddlu Cymru wedi dweud eu bod yn gwerthfawrogi gwasanaeth cwnstabliaid arbennig ac yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio cyson.
Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref, bydd "o leiaf 3,000" o gwnstabliaid arbennig ychwanegol mewn lle erbyn mis Ebrill ar draws Cymru a Lloegr, ac mae camau ar droed i sicrhau "hyfforddiant gwell, cyfleoedd hyblyg a chydnabyddiaeth i gyfraniad cwnstabliaid arbennig".