'2025 yn flwyddyn heriol arall i Heddlu'r De' - Prif Gwnstabl

Cafodd Jeremy Vaughan ei benodi'n Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn 2020
- Cyhoeddwyd
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heriol arall i Heddlu De Cymru, yn ôl Prif Gwnstabl y llu.
Dywed Jeremy Vaughan bod dim arian ychwanegol ar gael gan y Swyddfa Gartref ar gyfer plismona nifer o achlysuron yn y brifddinas, gan gynnwys cyngherddau, protestiadau a digwyddiadau chwaraeon.
Daw ei sylwadau wrth i lywodraeth San Steffan baratoi i gyhoeddi cynlluniau yn y flwyddyn newydd i ad-drefnu heddluoedd Cymru a Lloegr.
Dywedodd y bydd yn rhaid aros i weld cynnwys papur gwyn sydd i'w ddisgwyl yn yr wythnosau nesaf, gan bwysleisio mai ei flaenoriaeth yw canolbwyntio ar roi'r gwasanaeth gorau bosib i'r cyhoedd o ddydd i ddydd.
Dileu swyddi comisiynwyr heddlu a throsedd 'i arbed £100m'
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025
"Mae 'di bod yn flwyddyn heriol, fatha bob blwyddyn," dywedodd, gyda "tua 20,000 o alwada' 999 bob mis", a nifer tebyg o alwadau na sy'n rhai brys.
"Ar ben bob dim, 'dan ni'n ca'l lot o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd"
Fe ddenodd y brifddinas 70,000 o bobl ddwy noson yn olynol ddechrau Gorffennaf ar gyfer cyngherddau cyntaf y grŵp Oasis ers 16 mlynedd.
Mae artistiaid fel Stevie Wonder ac Alanis Morrissette hefyd wedi perfformio yng Nghaerdydd eleni.

Yng Nghaerdydd roedd y cyfle cyntaf i weld Oasis yn perfformio'n fyw wedi i'r grŵp aduno ar gyfer taith ar draws y byd
Mae'r brifddinas hefyd yn croesawu miloedd o gefnogwyr rygbi a phêl-droed bob blwyddyn, ac mae sawl protest wedi bod dros faterion fel y sefyllfa yn Gaza ac effaith bosib newidiadau i'r dreth etifeddiant ar deuluoedd amaethyddol.
Fel y pwysleisia Jeremy Vaughan, does dim adnoddau penodol gan y Swyddfa Gartref ar gyfer diogelu'r cyhoedd yn ystod y fath achlysuron.
"Os 'dan ni'n plismona digwyddiadau neu mae 'na brotest fawr, 'dan ni'n gorfod dwyn plismyn o ledled de Cymru - o'r Cymoedd ac o bob man," meddai.
"'Dan ni ddim yn ca'l mwy o bres. 'Dan ni ddim yn ca'l grant yn benodol i'r brifddinas, felly 'dan ni'n gorfod ffigro allan sut 'dan ni'n darparu gwasanaeth er bod y petha' mawr 'ma yn digwydd."

Swyddogion heddlu yn siarad gyda phrotestwyr sy'n gwrthwynebu'r hyn sy'n digwydd yn Gaza
Mae Jeremy Vaughan hefyd yn mynegi siom bod rhai pobl yn dal yn yfed a gyrru wrth ddathlu cyfnod y Nadolig.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd bod 120 o bobl wedi methu'r prawf anadl wrth gael eu stopio gan y llu fel rhan o'u hymgyrch Nadolig eleni.
Golyga hynny, meddai, bod y troseddwyr hynny'n "mynd i gychwyn flwyddyn nesa' efo newyddion drwg iawn" wrth wynebu'r canlyniadau.
"Mae'n hynod siomedig bod pobol yn meddwl na fyddan nhw yn cael eu dal ond ddylien nhw feddwl ddwywaith achos 'dan ni ar y ffyrdd yn stopio pobol," dywedodd.

Mae swyddogion Heddlu De Cymru wedi stopio dros 4,000 o gerbydau ar ymyl y ffordd eleni er mwyn atal pobl rhag yfed a gyrru
Pryder arall yw sicrhau diogelwch pobl ar-lein, yn enwedig pobl ifanc.
Mae Jeremy Vaughan yn annog rhieni i osod camau rheoli ar ffonau a dyfeisiadau y mae eu plant yn eu cael fel anrhegion Nadolig.
"Mae'n bwysig i ni wybod be' maen nhw'n 'neud ar-lein, bod ni'n sicrhau ein bod ni'n cadw nhw'n ddiogel ar-lein," dywedodd.
Mae hefyd yn pryderu am yr unigolion hynny sydd "ar ben eu hunain ac yn fregus" yn eu cartrefi dros gyfnod y gwyliau, a'r rheiny "sydd mewn awyrgylch ble maen nhw'n byw mewn ofn".
"Rydan ni wastad yma i chi gysylltu efo ni [trwy alwad ffôn] 999, galwad non-emergency, e-bost, y cyfryngau cymdeithasol...
"Os na allwch chi siarad am eich bod yn rhy ofnus, gallwch bwyso 55 - bydd hynny'n arwydd i ni eich bod angen ein help."

Mae'r prif gwnstabl yn cydnabod bod cwestiynau wedi'u codi yn ddiweddar am ymddygiad rhai o'r swyddogion, a bod hynny wedi amharu ar faint mae'r cyhoedd yn ymddiried yn y llu.
"Mae o'n her anferthol, ond mi ddylia fo fod yn her anferthol achos dim ond ni sy' gen pobol... does ganddyn nhw neb yn cystadlu yn erbyn ni i ddarparu'r gwasanaeth 'dan ni'n ddarparu."
Gwrthdrawiad Llaneirwg: Siom teuluoedd am wrandawiad camymddwyn
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2025
Marwolaethau Trelái: Gallai swyddog wynebu gwrandawiad camymddwyn
- Cyhoeddwyd28 Awst 2025
"Mae 'na ddyletswydd mawr arnon ni i weithio'n galed i sicrhau bod pobol yn ymddiried ynon ni, bod gan bobol hyder yn y gwasanaetha' 'dan ni'n cynnig... gwasanaeth mae pobol yn gallu dibynnu arno fo, bod ni ar gael iddyn nhw pan maen nhw isio ni a hefyd bod ni'n agored efo bob dim 'dan ni'n gwneud.
"Os ma' petha'n mynd yn wrong, 'dan ni'n cyfadde a bod yn onest amdanyn nhw, ac os ma' pobol yn 'neud petha' 'swn i'm yn disgw'l gwneud 'dan ni'n agored a dangos bod ni yn delio efo nhw."

Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood wedi awgrymu ei bod yn ystyried newid trefniadau plismona yng Nghymru a Lloegr
Yn yr wythnosau nesaf, mae disgwyl i Lywodraeth y DU amlinellu cynlluniau i ad-drefnu heddluoedd Cymru a Lloegr a thorri nifer y lluoedd yn sylweddol.
Mewn cynhadledd ym mis Tachwedd, fe awgrymodd yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, bod y drefn bresennol yn "afresymol".
"Dwi'n gw'bod bod disgwyl papur gwyn yn y flwyddyn newydd a gawn ni weld be' fydd yn hwnnw," meddai Mr Vaughan.
Mewn ymateb i gwestiwn ai fo fydd prif gwnstabl olaf Heddlu De Cymru a phrif gwnstabl heddlu newydd ar gyfer Cymru gyfan, atebodd:
"Job fi ar y funud yw sicrhau bod ni'n darparu gwasanaeth da a dim mwy na hynny
"Wrth gwrs bo fi yn ca'l sgyrsiau i gynghori'r rheina sydd yn datblygu polisïau newydd ond gawn ni weld be ddoith o'r papur gwyn yn y flwyddyn newydd.
"O ddydd i ddydd, be' ma' pobol isio ydi ateb galwad ffôn neu i ni droi fyny pan ma' nhw angen help ar frys... 'di hwnna ddim yn newid a neith o byth."