Trothwy treth etifeddiant i ffermwyr yn codi i £2.5m

Llun o brotest yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llandudno yn un o'r llefydd a welodd brotestiadau gan ffermwyr y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu bod nhw'n codi'r trothwy ar y dreth etifeddiant ar gyfer ffermydd o £1m i £2.5m.

Mae undebau amaethyddol wedi croesawu'r cyhoeddiad ac mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi ai alw'n dro pedol mawr.

Arweiniodd y cyhoeddiad gwreiddiol, sef y byddai ffermydd sydd werth mwy na £1m yn wynebu cyfradd treth etifeddiaeth o 20%, at sawl protest gan gynnwys tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno'r llynedd.

Mae'r undebau amaethyddol wedi croesawu cyhoeddiad ddydd Mawrth gan ddweud bod y cynnydd yn y trothwy'n mynd i amddiffyn mwy o ffermydd teuluol rhag y dreth.

'Anrheg Nadolig cynnar'

Ers y cychwyn cyntaf mae'r newid i dreth etifeddiant ar ffermwyr wedi achosi pryder i deuluoedd amaethyddol.

Mae'r undebau ffermio, pwyllgorau gwleidyddol a hyd yn oed Aelodau Seneddol o'r blaid Lafur wedi siarad yn erbyn y newid.

Ddydd Mawrth, wrth gyhoeddi bod y trothwy yn codi dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd Emma Reynolds bod Llywodraeth y DU wedi "gwrando'n ofalus ar ffermwyr ledled y wlad" a'u bod nhw wedi gwneud newidiadau i "amddiffyn mwy o ffermydd teuluol cyffredin".

Ychwanegodd: "Mae'n deg bod ystadau mwy yn cyfrannu mwy, tra ein bod ni'n cefnogi'r ffermydd a'r busnesau sy'n asgwrn cefn cymunedau gwledig Prydain."

ProtestFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun wedi bod yn un o'r materion wnaeth sbarduno protestiadau gan ffermwyr

Mae'r newid wedi cael ei groesawu gan y diwydiant. Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru bod y newyddion yn "anrheg Nadolig cynnar" i ffermwyr.

Mewn datganiad dywedodd llywydd yr undeb, Ian Rickman, bod y newidiadau "yn cynrychioli newid oedd wirioneddol ei angen".

Ychwanegodd: "Er bod Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i fod yn rhwystredig ynghylch y modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r diwygiadau hyn, hoffwn ddiolch i Weinidogion Swyddfa Cymru am eu parodrwydd i ymgysylltu â ni ar y mater hwn hyd yma."

'Datblygiad mawr'

Ychwanegodd Aled Jones, llywydd NFU Cymru fod y cyhoeddiad yn "ddatblygiad mawr".

"Yn ogystal â chodi llawer o ffermydd teuluol Cymru uwchlaw'r trothwy ar gyfer treth etifeddiant bydd yn lleihau'r baich treth i eraill hefyd.

"Bydd y newid a gyhoeddwyd heddiw, ochr yn ochr â'r cyhoeddiad gan y Canghellor bod modd i ŵr a gwraig, neu bartneriaid sifil, drosglwyddo unrhyw ran o'u lwfans gwerth £1m i'w gilydd cyn gorfod talu'r dreth yn golygu y bydd hyd at £5m mewn asedau amaethyddol yn gallu cael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf cyn talu treth etifeddiant."

Mewn ymateb dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies bod Llywodraeth Cymru'n croesawu'r cyhoeddiad.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn glir yn gyson i Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw cynaliadwyedd hirdymor ffermio yng Nghymru," meddai.

"Mae ein ffermydd teuluol bach a chanolig nodweddiadol yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru drwy ddarparu bwyd, gofalu am ein hamgylchedd, cefnogi cymunedau gwledig a helpu i ddiogelu'r iaith Gymraeg."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y newid i'w groesawu ond ei fod wedi dod yn "llawer rhy hwyr".

Ychwanegodd y blaid y byddai codi'r trothwy yn "amddiffyn mwy o ffermydd teuluol a busnesau o filiau treth etifeddiant niweidiol" ond bod Llafur wedi creu "pryder, ansicrwydd a niwed i'r hyder mewn ffermio".

Dywedodd y blaid hefyd bod "pryderon difrifol yn parhau" ynghylch materion eraill ym myd amaeth fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a TB mewn gwartheg.