Gall y BBC 'wneud mwy' i wella'r portread o Gymru - Tim Davie

- Cyhoeddwyd
Gall y BBC "wneud mwy" i wella'r portread o Gymru yn eu rhaglenni Saesneg, yn ôl y cyfarwyddwr cyffredinol.
Dywedodd Tim Davie wrth bwyllgor diwylliant Senedd Cymru fod buddsoddiad mewn darlledu Cymreig wedi cynyddu, ond ei fod yn awyddus i weld cyllid yn cael ei hybu ymhellach yn y dyfodol.
Roedd yn ymateb i feirniadaeth gan aelod o'r pwyllgor Alun Davies fod "methiant sylweddol o hyd" o ran pa mor wybodus yw siaradwyr di-Gymraeg am Gymru o ganlyniad i allbwn y BBC.
Dywedodd cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys, y byddai 2026-2027 yn "flwyddyn nodedig o ran gwelededd Cymru".
Cyfeiriodd at y ffaith y byddai drama feddygol hirhoedlog y BBC, Casualty, yn cael ei lleoli mewn ysbyty ffuglennol yng Nghymru yn fuan.

Dywedodd Tim Davie ei fod eisiau rhoi hwb i wariant yng Nghymru
Dywedodd cyfarwyddwr dros dro'r cenhedloedd y BBC, Rhuanedd Richards, wrth y pwyllgor y byddai gwariant y darlledwr ar raglenni o Gymru yn £40m yn 2027, o'i gymharu â llai na £2m yn 2015.
Er ei fod yn cydnabod bod gwelliannau sylweddol wedi bod i ymagwedd y BBC at Gymru, dywedodd Alun Davies o'r Blaid Lafur: "Fel rhywun sy'n siarad Cymraeg, rwy'n gwylio S4C ac rwy'n gwylio BBC Cymru... ac fel siaradwr Cymraeg, rwy'n teimlo fy mod yn llawer mwy gwybodus am ddigwyddiadau yng Nghymru nag yr wyf fel siaradwr Saesneg."
Ymatebodd Rhuanedd Richards ei bod wedi bod yn "flaenoriaeth" iddi edrych ar "sut y gallwn ni fuddsoddi mwy o arian mewn cynnwys sy'n ymwneud â Chymru, wedi'i wneud yng Nghymru, i bobl Cymru".
Ychwanegodd y byddai cyllidebau'n cynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod "i warantu lefel arall o wariant ar raglenni yn portreadu Cymru".
2026-27 yn 'garreg filltir'
Dywedodd Garmon Rhys wrth y pwyllgor fod BBC Cymru yn buddsoddi mewn rhaglenni ar gelfyddydau a diwylliant Cymru, gan dynnu sylw at raglenni dogfen am yr artist Gwen John a'r actor Richard Burton fel enghreifftiau.
Ychwanegodd: "Rwy'n credu, pan edrychwn ymlaen at 26-27, y bydd yn garreg filltir o ran gwelededd Cymru.
"Rwy'n credu o ddifrif y bydd yn drawsnewidiol yn y ffordd y mae pobl yng Nghymru yn gweld eu hunain."
Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ar gael ar y we cyn y darllediad teledu
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
'Mae gan Gymru le i ddiolch i Tim Davie,' medd cyn-gadeirydd bwrdd BBC
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2025
Dathlu 90 mlynedd o ddarlledu gan y BBC ym Mangor
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2025
Gofynnodd yr AS Llafur Lee Waters i benaethiaid y BBC sut y gallai'r sefydliad gyfiawnhau gwario dwywaith cymaint yn Yr Alban ag y mae yng Nghymru.
Ymatebodd Tim Davie fod "gwahaniaethau yn y siâp darlledu, mae gwahaniaeth yn niferoedd y boblogaeth, mae pob math o wahaniaeth".
Fodd bynnag, ychwanegodd ei fod eisiau rhoi hwb i wariant yng Nghymru.
"Rwy'n derbyn y pwynt, sef y gallwn wneud mwy, ac rydym yn eithaf cyffrous am wneud mwy," meddai.
Cyhoeddodd Mr Davie ei ymddiswyddiad fel cyfarwyddwr cyffredinol ym mis Tachwedd yn sgil beirniadaeth am raglen Panorama wnaeth gamarwain gwylwyr trwy olygu araith gan Donald Trump.
Bydd yn parhau yn y swydd tra bod olynydd yn cael ei ganfod.
Wrth gloi'r sesiwn, diolchodd cadeirydd pwyllgor diwylliant y Senedd, Delyth Jewell, i Mr Davie ac ychwanegodd mai'r her i'r cyfarwyddwr cyffredinol nesaf "fydd cael Cymru mor uchel â phosibl ar yr agenda ac adeiladu ar yr hyn rydych chi wedi'i wneud".

Dywedodd Delyth Evans fod "gwelliannau enfawr wedi bod" o fewn S4C
Yn ddiweddarach yn y cyfarfod, dywedodd cadeirydd S4C Delyth Evans wrth aelodau o'r Senedd fod "gwelliannau enfawr" wedi bod o fewn y darlledwr ers yr argyfwng ynghylch honiadau o ddiwylliant gwenwynig a bwlio.
Cafodd y cyn-brif weithredwr Siân Doyle ei diswyddo ym mis Tachwedd 2023, ac yna dywedodd rhagflaenydd Ms Evans, Rhodri Williams, wrth weinidogion y DU nad oedd am gael ail dymor wrth y llyw.
Roedd Ms Doyle wedi cyflwyno hawliad anaf personol yn erbyn ei chyn-gyflogwr a Mr Williams yn yr Uchel Lys, cyn cyrraedd setliad y tu allan i'r llys heb unrhyw gyfaddefiad o atebolrwydd.
Dywedodd Delyth Evans yng ngwrandawiad y pwyllgor ddydd Iau fod y darlledwr bellach mewn sefyllfa llawer gwell.
"O safbwynt cadeirydd, rwy'n teimlo'n hyderus ein bod ni'n bendant yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ac mae gwelliannau enfawr wedi bod.
"Mae pobl yn dweud wrtha i eu bod nhw'n teimlo ei fod yn sefydliad gwahanol nawr, ac mae'n lle mae pobl yn teimlo'n hapus i weithio ac yn falch o weithio ynddo.
"Ond, fel bwrdd, rydym yn effro iawn i'r angen i fod ar ben hynny drwy'r amser."
Dywedodd prif weithredwr S4C, Geraint Evans, sydd wedi bod yn y swydd ers mis Tachwedd 2024: "Rydym wedi ymgorffori cod diwylliant newydd.
"Mae gennym werthoedd newydd, ac mae hyn wedi'i gyflwyno gyda'r holl staff yn cymryd rhan yn y gwaith o ffurfio'r gwerthoedd hynny."
Ond pwysleisiodd nad oedd hwn yn "ddigwyddiad untro, ni allwch edrych ar y diwylliant unwaith yn unig".
"Mae'n barhaus, felly mae gennym ymgynghorydd allanol yn dod i mewn i hyfforddi'r holl staff ac i ymgorffori'r diwylliant newydd ar draws y sefydliad."
Roedd yn golygu, meddai, "y gallwch fod ar eich gorau, y gallwch gael eich herio hefyd, ond yn barchus".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.