Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ar gael ar y we cyn y darllediad teledu

pyc/rarFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Bydd penodau o raglenni poblogaidd Rownd a Rownd a Phobol y Cwm ar gael i'w gwylio ar y we cyn eu hamseroedd darlledu traddodiadol ar y teledu o hyn ymlaen.

Mae'r ddwy raglen yn rhedeg ers degawdau bellach, gyda Phobol y Cwm yn cael ei ddangos ar nosweithiau Mawrth, Mercher ac Iau am 20:00, tra bod Rownd a Rownd yn darlledu bob nos Fawrth ac Iau am 20:25.

O ddydd Mawrth 6 Ionawr, bydd penodau cyflawn o'r ddwy opera sebon ar gael ar y we ar fore pob darllediad ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Y rheswm am y newid, meddai Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans, ydy bod "arferion gwylio ein cynulleidfaoedd yn newid", ac i fynd yn ddigidol yn gyntaf.

Dywedodd Branwen Williams, Uwch-Gynhyrchydd Pobol y Cwm, y byddai'r newid "yn golygu bydd ein ffans yn gallu cael eu ffics o ddrama wrth fwynhau eu tost a choffi. Mae'n rhoi'r pŵer iddyn nhw wylio pryd bynnag maen nhw eisiau."

Yn ôl Annes Wyn, un o gynhyrchwyr Rownd a Rownd: "Da ni'n falch iawn o glywed am y datblygiad yma gan fod tipyn o'n gwylwyr yn gwylio ar-lein bellach.

"Mae hyn yn golygu y gallant wylio cyn ein hamser darlledu arferol, fel sy'n gyfleus iddyn nhw."

Actorion Pobol y Cwm, yn codi dwylo'n llawen ar sgwar Cwmderi i ddathlu hanner canrif o'r opera sebon.
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth rhaglen Pobol y Cwm ddathlu hanner canrif y llynedd

Ond bydd rhai penodau arbennig, fel straeon mawr neu ddatgelu straeon pwysig yn cael eu cadw ar gyfer y darllediad teledu yn y nos yn unig er mwyn osgoi difetha'r stori i wylwyr traddodiadol.

Dywedodd Geraint Evans bod "tipyn o wylio byw i Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ar eu darllediad cynta' ar deledu", ond bod y ddwy raglen ymhlith y cyfresi mwyaf poblogaidd ar alw hefyd.

Ychwanegodd fod y cam i'w gwneud yn ddigidol yn gyntaf "yn caniatáu i'r gwylwyr i'w ffrydio a'u mwynhau pryd bynnag a ble bynnag mae'n gyfleus iddyn nhw".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig