Oedi camau disgyblu'n 'rhwystredig a siomedig' wedi marwolaethau Llaneirwg

Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve SmithFfynhonnell y llun, Cyfryngau Cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn dilyn y digwyddiad yn 2023

GanOwain Evans
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu un o'r bobl a fu farw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Caerdydd yn 2023 wedi sôn am eu rhwystredigaeth ynghylch oedi ym mhroses ddisgyblu'r heddlu.

Bu farw Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21, a Rafel Jeanne, 24, yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A48 yn Llaneirwg. Ni chawson nhw eu canfod am ddau ddiwrnod.

Fe gafodd dau arall eu hanafu'n ddifrifol hefyd.

Er bod adroddiadau person coll wedi cael eu gwneud fe gymerodd tan 6 Mawrth i swyddogion ganfod y car.

Ym mis Tachwedd, dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) fod pedwar plismon am wynebu gwrandawiad ar honiadau o gamymddwyn difrifol.

Ond mae teulu Eve yn dweud eu bod wedi cael gwybod bod un o'r swyddogion wedi ymddiswyddo.

Dywedodd yr IOPC fod yr ymchwiliad yn gymhleth, tra bod Heddlu Gwent yn dweud y gall camau disgyblu barhau ar ôl i swyddog adael y llu.

Eve Smith gyda'i thad, EvertonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Eve Smith gyda'i thad, Everton

Cafodd y grŵp eu gweld am y tro diwethaf tua 02:00 ar 4 Mawrth 2023.

Ar y pryd, roedd yr heddlu'n credu bod y grŵp wedi bod yn rhan o wrthdrawiad ond fe fethon nhw â dod o hyd i'r Volkswagen Tiguan gwyn, oedd wedi mynd yn ddwfn i isdyfiant ger cylchfan ar yr A48.

Mae mam un o'r grŵp wedi beirniadu ymateb yr heddlu yn flaenorol gan ddweud nad oedden nhw'n "ymddangos i feddwl ei fod yn werth ymchwilio iddo".

Tair blynedd ar ôl y ddamwain, dywedodd teulu Eve Smith eu bod yn teimlo'r un boen nawr ag oedden nhw ar ddiwrnod y gwrthdrawiad.

Ychwanegon nhw fod oedi wedi eu gadael yn teimlo'n "ddryslyd, yn rhwystredig, ac yn siomedig".

"Dydyn ni ddim yn deall pam ei fod yn cymryd mor hir i gael atebion y dylai fod wedi cael eu blaenoriaethu o'r dechrau."

Teuluoedd Eve Smith a Darcy Ross
Disgrifiad o’r llun,

Teuluoedd Eve Smith a Darcy Ross

Mewn datganiad ym mis Tachwedd dywedodd yr IOPC eu bod wedi archwilio ymateb Heddlu Gwent i'r adroddiadau person coll, gan gynnwys ystyried a oedd asesiadau risg priodol wedi'u cynnal.

Ar y pryd fe ddywedon nhw y byddai chwe phlismon yn wynebu camau disgyblu, gan gynnwys tri chwnstabl ac un sarjant a oedd yn wynebu honiadau o gamymddwyn difrifol.

Gall unrhyw swyddog sydd heb gyrraedd y safon ddisgwyliedig wynebu gwrandawiad ar gamymddwyn - os ydy'r honiad yn llai difrifol fe allen nhw wynebu sancsiynau fel rhybudd ysgrifenedig neu hyfforddiant.

Mae achos o gamymddwyn difrifol yn cyfeirio at unrhyw weithred sy'n cael ei ystyried mor ddifrifol y gallai arwain at swyddog yn cael ei ddiswyddo.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cafodd dau swyddog eu clirio o gamymddwyn - roedd un un o'r honiadau'n dweud bod swyddog wedi methu adolygu'r holl wybodaeth oedd ar gael pan roedd yn cynnal asesiad risg ar gyfer y menywod coll, ac roedd honiad arall yn dweud nad oedd swyddog wedi cynnal archwiliadau digonol o gartrefi.

Penderfynodd y cyfarfod nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach ac ar hyn o bryd does dim dyddiad ar wefan Heddlu Gwent ar gyfer y swyddogion sy'n wynebu honiadau o gamymddwyn difrifol.

Mae teulu Eve yn dweud eu bod wedi eu llorio gan y newyddion fod un o'r swyddogion wedi ymddiswyddo.

Maen nhw'n dweud hyn er eu bod wedi cael gwybod y byddai'r broses yn erbyn y cyn-swyddog yn parhau.

Dywedon nhw bod hyn yn eu rhwystro rhag cael cyfle i'w glywed yn egluro ei ymateb i'r digwyddiad ac na "fydd Eve yn cael y cyfiawnder y mae hi'n ei haeddu".

"Y cyfan ry'n ni eisiau, y cyfan ry'n ni erioed wedi bod eisiau yw'r gwir ynglŷn â beth ddigwyddodd i Eve a chael sicrwydd na fydd unrhyw deulu arall fyth yn gorfod wynebu'r hyn wynebon ni."

Hyd yn oed os bydd swyddog yn ymddiswyddo cyn gwrandawiad ar gamymddwyn, bydd achos fel arfer yn digwydd yn ei absenoldeb ac mae penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a oes yna achos o gamymddwyn wedi digwydd ai peidio.

Wrth rannu ei gydymdeimlad â theuluoedd a ffrindiau Darcy, Eve a Rafel, dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent Nicky Brain: "Cyn gynted ag y cafodd yr ymchwiliad ei drosglwyddo'n ôl i ni gan yr IOPC ym mis Tachwedd y llynedd, mae'r holl achosion camymddwyn y mae modd eu rheoli o fewn y sefydliad wedi digwydd.

"Mae'n ddewis i unrhyw unigolyn sy'n wynebu honiadau o gamymddwyn os ydyn nhw am barhau i gael eu cyflogi gan yr heddlu.

"Os yw rhywun yn dewis ymddiswyddo tra ei fod dan ymchwiliad am gamymddwyn, yna gellir cynnal achos o hyd gyda'r sancsiwn o 'ddiswyddo os nad oeddent wedi gadael y gwasanaeth heddlu yn flaenorol' fel opsiwn i'r panel camymddwyn."

Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: "Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn parhau â theuluoedd y bobl ifanc a gollodd eu bywydau'n drasig, y rhai a gafodd eu hanafu yn ddifrifol, a phawb a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad hwn, ac rydym yn cydnabod faint o amser y bu'n rhaid iddynt aros.

"Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth ac yn gofyn am lawer o adnoddau, ond roedd yn bwysig i sicrhau hyder y cyhoedd mewn plismona, bod y digwyddiad trasig hwn yn destun craffu trylwyr ac annibynnol.

"Fe wnaethom gwblhau ein hymchwiliad ym mis Hydref 2025. Nawr mae'n gyfrifoldeb ar Heddlu Gwent i drefnu a chynnal yr achos disgyblu sy'n weddill.

"Rydym yn deall bod y teuluoedd, eisiau atebion ac atebolrwydd, sy'n hollol ddealladwy, ac rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau ein hymchwiliad yn cyfrannu at ddarparu hynny."

Mae ymchwiliad ar wahân gan Heddlu De Cymru i'r gwrthdrawiad wedi dod i ben, a dywedodd yr heddlu fod y ffeil bellach gyda'r crwner cyn cwestau yn y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.