Galw am warantu cyllid S4C wrth i ASau rybuddio bod darlledu Cymreig yn annigonol

Mae'r pwyllgor o'r farn bod y "BBC ac S4C mor hanfodol ag y buont erioed yng Nghymru"
- Cyhoeddwyd
Dylai S4C dderbyn mwy o gyllid gwarantedig i adlewyrchu toriadau yn y gorffennol a chostau digidol cynyddol, meddai pwyllgor diwylliant Senedd Cymru.
Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn dweud y dylai'r BBC, ITV a Channel 4 wario mwy yng Nghymru ar raglenni ar gyfer cynulleidfaoedd y DU, a gwella'r sylw a roddir i faterion datganoledig.
Mae'r ASau yn rhybuddio bod darlledu "annigonol" yn gadael dinasyddion yn llai gwybodus am y strwythurau gwleidyddol sy'n llywodraethu eu bywydau.
Dywedodd y BBC bod ei chynnwys sy'n gysylltiedig â Chymru wedi cyflawni "llwyddiant gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf", tra dywedodd S4C eu bod yn "gwerthfawrogi'r gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau cyllid digonol a chynaliadwy i S4C".
'Lleihau Cymru'
Yn rhagair yr adroddiad, mae Delyth Jewell, AS Plaid Cymru sy'n cadeirio'r pwyllgor, yn dweud bod cynnwys y cyfryngau yng Nghymru yn parhau i fod yn "annigonol".
"Mae'r cynnwys cyfryngau annigonol hwn yn lleihau Cymru ar lefel ddinesig a democrataidd, gan na all pobl weld eu hunain ar eu sgriniau.
"At hynny, mae'n gadael dinasyddion yn llai gwybodus am y strwythurau gwleidyddol sy'n llywodraethu eu bywydau."
Mae Jewell yn beirniadu rheoleiddio Ofcom o'r cyfryngau fel rhywbeth sydd "wedi'i gynllunio i gynnal y status quo".
Yn y cyfamser, "mae'r BBC ac S4C yn ymdrin â thoriadau cyllid hirdymor, tra nad yw ITV i'w weld yn cynyddu cynnwys i Gymru er budd eu cyfranddalwyr".
Mae Jewell yn annog gweinidogion y DU i "gymryd cyfrifoldeb dros yrru gwelliannau ystyrlon mewn cynnwys cyfryngau i Gymru, yn hytrach na rheoli'r cyflwr presennol o annigonolrwydd".

Mae'r pwyllgor o'r farn bod y "BBC ac S4C mor hanfodol ag y buont erioed yng Nghymru".
"Darlledu a ariennir yn gyhoeddus yw conglfaen y ddarpariaeth am Gymru o hyd – o gynnwys newyddion am wleidyddiaeth ddatganoledig i adrodd straeon o Gymru mewn dramâu, rhaglenni dogfen a chomedi.
"Yn ystod cyfnod y Siarter nesaf, mae'n hanfodol bod y BBC ac S4C yn cael o leiaf y symiau o gyllid y maent yn eu cael ar hyn o bryd, wedi'u cynyddu yn unol â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr."
Mae'r ASau yn argymell y dylai Ofcom "ddiwygio'r cod ymarfer drafft ar amlygrwydd a hygyrchedd ar lwyfannau teledu cysylltiedig fel bod S4C yn cael mwy o amlygrwydd yng Nghymru nag y mae ar draws y DU gyfan.
"Dylai S4C hefyd gael amlygrwydd ledled y DU, i gydnabod ei chynulleidfaoedd y tu allan i Gymru."
'Gofyn am yr un sylw newyddiadurol'
Mae'r adroddiad yn dweud bod y BBC wedi gwario £31m ar gynnwys teledu Saesneg yng Nghymru yn 2024-25.
Roedd hynny'n cymharu â £76m yn yr Alban, gan gynnwys ar sianel BBC Scotland, nad oes cyfatebol iddi yng Nghymru.
Mewn llythyr at benaethiaid y BBC, sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad, mae Jewell yn dweud: "Nid ydym o'r farn bod y ffaith bod gan yr Alban boblogaeth sydd 74% yn fwy na Chymru yn cyfiawnhau bod y BBC yn gwario dros 100% yn fwy ar gynnwys lleol yn yr Alban nag yng Nghymru.
"Mae gan Gymru yr un amrywiaeth o sefydliadau gwleidyddol datganoledig â'r Alban, sy'n gofyn am yr un sylw newyddiadurol, waeth beth fo maint y boblogaeth."
Mae'r adroddiad yn argymell "dylai gwariant y BBC ar gynnwys teledu Saesneg yng Nghymru dyfu o'r naill flwyddyn i'r llall nes ei fod yn cyd-fynd â gwariant y BBC ar gynnwys Saesneg yn yr Alban."
Gall y BBC 'wneud mwy' i wella'r portread o Gymru - Tim Davie
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
Cyn-gadeirydd S4C: 'Dyfodol darlledu cyhoeddus mewn perygl'
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2025
S4C i roi mwy o bwyslais ar gynnwys 'digidol yn gyntaf'
- Cyhoeddwyd11 Medi 2025
Mae'r pwyllgor yn annog ITV i "ddatblygu strategaeth, gyda thargedau, i gynyddu ei wariant ar y rhwydwaith yng Nghymru" a "chynyddu ei wariant ar gynnwys i Gymru, a chael strategaeth i wneud hynny'n gyson dros weddill cyfnod ei drwydded".
Wrth ysgrifennu at ITV, mae Jewell yn cyfeirio at ffigyrau 2024 gan y rheoleiddiwr cyfryngau Ofcom yn nodi bod "gwariant rhwydwaith ITV yng Nghymru yn 0.8% o gyfanswm y DU" a oedd "yn gynnydd bach o 2022 pan oedd y ffigwr yn agos at 0".
"Rydym yn parhau i fod o'r farn bod gwariant rhwydwaith ITV yng Nghymru yn annerbyniol o isel," meddai, gan ychwanegu nad oedd ymddangosiad gerbron y pwyllgor gan uwch swyddogion o'r sianel wedi "sicrhau" aelodau'r Senedd "bod gan ITV gynllun ystyrlon i'w gynyddu".
Mae'r adroddiad yn nodi'r hyn y mae'n ei alw'n "effaith gadarnhaol y camau" a gymerodd Channel 4 "i ddatblygu presenoldeb yng Nghaerdydd", gan annog y darlledwr i sefydlu'r hyn y mae'n ei alw'n "ganolfan Gymreig" ac i "ddatblygu strategaeth benodol, gyda thargedau clir, i gynyddu ei wariant rhwydwaith yng Nghymru".
Sut mae'r darlledwyr wedi ymateb?
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "O ran cynnwys teledu, bu llwyddiant gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gwylio cynnwys sy'n gysylltiedig â Chymru ar BBC iPlayer i fyny 140%.
"Ac mae newidiadau cyffrous o'n blaenau, gyda Casualty, er enghraifft, i'w lleoli mewn ysbyty yng Nghymru yn fuan wrth i ni adeiladu ar ein hymrwymiad i bortreadu straeon sy'n adlewyrchu'r genedl.
"Byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, er gwaethaf pwysau ariannol gyda ffocws clir ar gyflawni ar gyfer ein cynulleidfaoedd yng Nghymru."
Dywedodd S4C eu bod yn "croesawu cefnogaeth barhaus y pwyllgor i ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru – ac yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau cyllid digonol a chynaliadwy i S4C.
"Mae hyn yn hanfodol er mwyn galluogi S4C i gyrraedd a thyfu cynulleidfaoedd ar draws llwyfannau, parhau i arloesi, a chefnogi'r economi greadigol ledled Cymru.
"Yr wythnos hon, mae S4C wedi cyhoeddi ei ymateb i Adolygiad Siarter y BBC, gan dynnu sylw at yr angen am sicrwydd ariannol hirdymor y tu hwnt i Fawrth 2028, trefniadau ariannu sy'n cadw i fyny â chwyddiant, a phartneriaeth gref a theg gyda'r BBC sy'n sicrhau dyfodol sefydlog i S4C."
Dywedodd Channel 4: "Rydym wedi ymrwymo i gynyddu gwariant cynnwys prif sianel ac oriau rhaglenni y tu allan i Loegr o 9% i 12% erbyn 2028, ddwy flynedd cyn gofyniad Ofcom a chyrhaeddodd ein gwariant yng Nghymru £15m yn 2024, cynnydd o 275% o ddegawd ynghynt.
"Rydym wedi cryfhau ein cefnogaeth i gwmnïau annibynnol Cymru trwy gyflwyno Prif Olygyddion Comisiynu ymroddedig i ddyfnhau perthnasoedd a gwella mynediad at gomisiynwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom: "Roedden ni'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at waith y pwyllgor diwylliant yn gynharach eleni, a byddwn ni nawr yn ystyried eu hargymhellion yn ofalus cyn rhoi ymateb ffurfiol maes o law."