Marwolaethau Llaneirwg: Chwe swyddog i wynebu camau disgyblu

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn dilyn y digwyddiad yn 2023
- Cyhoeddwyd
Bydd chwech o swyddogion Heddlu Gwent yn wynebu camau disgyblu yn ymwneud â'u hymdriniaeth o wrthdrawiad ar gyrion Caerdydd, pan gafodd tri o bobl ifanc eu lladd.
Bu farw Rafel Jeanne, Eve Smith a Darcy Ross yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A48 yn Llaneirwg ym mis Mawrth 2023.
Bydd y swyddogion yn wynebu camau yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IOPC) i sut y gwnaethon nhw ymateb i adroddiadau bod grŵp o bobl ifanc ar goll, cyn i'r car gael ei ddarganfod ddeuddydd yn ddiweddarach.
Cafodd Sophie Russon, 20, Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21, Rafel Jeanne, 24, a Shane Loughlin, 32, eu gweld ddiwethaf tua 02:00 ar 4 Mawrth 2023, ar ôl noson allan.
Cafodd y car yr oedden nhw'n teithio ynddo ei ddarganfod yn oriau mân ddydd Llun 6 Mawrth.
Roedd tri o'r bobl ifanc wedi marw, a dau arall wedi cael anafiadau difrifol.

Cafodd blodau eu gadael ger safle'r gwrthdrawiad yn Llaneirwg yn 2023
Mewn datganiad dywedodd yr IOPC eu bod wedi ymchwilio i ymateb Heddlu Gwent i'r "adroddiadau gan aelodau teulu bod y grŵp ar goll", gan gynnwys ystyried a oedden nhw wedi cael "asesiadau risg digonol, wedi eu hadolygu'n ddigonol a chydag adnoddau digonol".
Yn dilyn "ymchwiliad cymhleth" meddai'r IOPC, maen nhw wedi penderfynu y dylai chwe swyddog wynebu'r camau canlynol:
Sarjant oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad ar 5 Mawrth 2023 i wynebu honiad o gamymddwyn difrifol am eu "goruchwyliaeth o'r ymchwiliad i'r adroddiadau bod y grŵp ar goll"
Cwnstabl i wynebu achos o gamymddwyn difrifol, yn sgil honiad o fethu a chynnal ymholiadau sylfaenol, yn cynnwys peidio cofnodi a rhannu gwybodaeth gyda goruchwyliwr, a honiad o fethu cyfathrebu'n briodol gydag aelodau teulu oedd wedi dweud bod eu hanwyliaid ar goll
Dau gwnstabl i wynebu achos o gamymddwyn difrifol, yn sgil honiad o fethu a chynnal archwiliadau tai yn unol â pholisi, ac o roi cofnodion anonest i'w goruchwylydd ac ymchwilwyr yr IOPC ynglŷn â hynny
Roedd un o'r ddau swyddog yma hefyd wedi wynebu ymchwiliad troseddol ar honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus a gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ond wnaeth yr IOPC ddim darganfod digon i dystiolaeth i'w gyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron
Cwnstabl i wynebu achos o gamymddwyn, yn sgil honiad o fethu a chynnal archwiliadau tai yn unol â pholisi
Sarjant i wynebu achos o gamymwyddyn yn sgil honiad o fethu adolygu'r holl wybodaeth oedd ar gael ar y pryd.

Aeth Shane Loughlin, Eve Smith, Sophie Russon, Rafel Jeanne a Darcy Ross ar goll yn dilyn noson allan
Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, Derrick Campbell, eu bod wedi ymchwilio i "dros 30 o gwynion" gan deuluoedd yn ymwneud â gweithredoedd a phenderfyniadau gan Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru.
"Roedd y cwynion yn cynnwys y ffordd yr oedd y ddau lu wedi cyfathrebu â'r teuluoedd drwy'r ymchwiliad pan oedd y grŵp ar goll, peidio a phrosesu gwybodaeth oedd wedi ei roi i'r heddlu gan deuluoedd, a'r cyfathrebu rhwng y ddau lu wrth i'r ymchwiliad ddatblygu.
Yn ôl Mr Campbell, roedd yr IOPC wedi nodi bod "dros hanner y gwasanaeth oedd wedi ei ddarparu gan y ddau lu yn annerbyniol".
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Nicky Brain, bod y llu wedi "cydweithredu'n llawn â'r IOPC" yn ystod yr ymchwiliad, ac y byddan nhw rŵan yn "dechrau'r broses o gynnal y gwrandawiadau a chyfarfodydd disgyblu".
"Rydym yn cydnabod yr effaith y mae'r ymchwiliad hwn wedi ei gael arnyn nhw ac yn deall pa mor bwysig y bydd canfyddiadau'r IOPC i bawb sydd wedi eu heffeithio, a'r gymuned ehangach."
Mae'r IOPC hefyd wedi argymhell y dylai tri o swyddogion Heddlu De Cymru ymgymryd â chyfnod o "ystyried eu gweithredoedd" yn dilyn eu hymchwiliad.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r De bod "cyfleoedd wedi eu nodi" yn ystod yr ymchwiliad i wella'r ffordd y mae'n gweithio gyda Heddlu Gwent ar achosion o bobl sydd ar goll.
Mae nhw'n dweud bod y newidiadau rheiny "eisoes wedi cael eu gweithredu".
'32 mis caled' i'r teulu
Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd mam Eve Smith bod aros am ganlyniad yr ymchwiliad wedi bod yn "32 mis caled".
Dywedodd Emma Borg ei bod eisiau rhannu "ein hanfodlonrwydd gydag ymddygiad Heddlu Gwent" ynghylch y digwyddiad, a'i bod yn "glir o'r dechrau bod yr adroddiadau am y merched oedd ar goll heb gael eu trin o ddifri'".
Ychwanegodd bod ei theulu wedi bod yn "hynod amyneddgar" gyda'r broses ac wedi cydweithio'n llawn, ond eu bod yn dal i aros am ddyddiad cwest i'w merch.
"Fel teulu dydyn ni ddim yn gallu symud ymlaen, does dim atebion, dim ymddiheuriad a dim atebolrwydd o gwbl..."
Ychwanegodd bod yr adroddiad wedi codi mwy o gwestiynau nag atebion, ac y byddai'n trafod y camau nesaf gyda'i thîm cyfreithiol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.