Teulu o Fangor yn 'ofni'r gwaethaf' am eu perthnasau yn Iran

Layla a Hossein
Disgrifiad o’r llun,

Mae Layla a Hossein bellach yn byw ym Mangor

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Gyda bron i bythefnos ers i'r brwydro ddechrau yn y dwyrain canol, mae teulu o Fangor sydd â pherthnasau yn Iran yn dweud dy' nhw heb glywed ganddynt ers dros wythnos bellach.

Yn ôl Layla a'i thad Hossein, maen nhw'n deffro bob bore gan "ofni'r gwaethaf" wrth wylio'r ffrwydradau ar y newyddion.

Mi symudodd Hossein i Fangor dros 40 o flynyddoedd yn ôl, a gan ei fod wedi beirniadu'r llywodraeth yn Iran, dydi o 'rioed wedi dychwelyd oherwydd pryderon am ei ddiogelwch.

Mae'n dweud fod Iraniaid sy'n dioddef yn cael eu lladd gan y llywodraeth yno yn ogystal â'r brwydro diweddar.

Layla a'i theulu yn Iran yn 2004Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Layla a'i theulu yn Iran yn 2004

Er mwyn diogelu aelodau'r teulu, dydyn ni ddim yn datgelu eu enw olaf, na chwaith lle maen nhw'n byw yn Iran.

Ond mae Layla a Hossein yn dweud eu bod yn poeni'n arw am eu teulu er eu bod nhw'n trio "aros yn hopeful".

"Mae'n unimaignable rili, ['da ni heb glywed] dim byd, maen nhw wedi troi'r internet off completely so dwi jest di clywed wythnos yn ôl bod bob dim yn iawn, ond da ni ddim rili yn gwybod wan," meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

"Fel arfer 'da ni'n siarad bob dydd, bob wythnos, ond da ni ddim yn gwybod o gwbl 'ŵan a jest un tic sydd ar Whatsapp nhw."

Layla gyda'i brawd yn Iran yn 2004Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Layla gyda'i brawd yn Iran yn 2004

Mae cysylltiad y we mewn nifer o rannau yn Iran wedi torri ac mae'n anodd cael gwybodaeth ddibynadwy o'r wlad.

"Mae pobl yna yn fwy ofn o'r Islamic Republic ei hun na o'r bombs dwi meddwl," meddai Layla.

Mae'n dweud ei bod yn deffro bob bore gan ofni'r gwaethaf ac yn dweud ei bod yn meddwl am y sefyllfa "bob dydd".

Mi wnaeth tad Layla, Hossein ddod i Fangor dros ddeugain mlynedd yn ôl yn gyntaf i astudio ac mae o bellach yn berchen ar fwyty pitsa adnabyddus ym Mangor Uchaf.

"Dwi 'di bod yn byw yma ers 40 o flynyddoedd," meddai Hossein.

"Ond dwi'n cydymdeimlo efo'r lle ges i fy ngeni, mae'r Unol Daleithiau ac Israel yn cwffio dros fuddiannau nhw eu hunain ac mae pobl Iran yn stuck rhwng y ddau.

"Ar un ochr mae ein pobl yn cael eu lladd gan y rhyfel ac ar yr ochr arall gan orthrwm yr unbennaeth."

LaylaFfynhonnell y llun, Llun teulu

Ers gadael 40 o flynyddoedd yn ôl dydi Hossein erioed wedi bod yn ôl i'w famwlad gan ofni ymateb llawdrwm y gyfundrefn.

Tra'n ddiogel nôl yma yng Nghymru mae Layla'n dweud bod hi llawn euogrwydd o weld profiadau ei theulu.

"Mae gennai lot o survivor's guilt, dwi ddim yn gwybod pam bo fi wedi ennill y post code lottery a dwi'n byw yma efo bywyd da... ar un llaw ma gen i ddau fywyd.

"Dwi'n hapus, dwi'n mynd i'r gwaith, i'r gym a popeth yn iawn a dwi'n saff ond ar y llaw arall, mae fy nghalon i yn Iran efo'r teulu."

'Dwi eisiau dyfodol gwell'

A Hossein yn ei 70'au mae'n dweud fod o hefyd yn llawn euogrwydd o weld aberth trigolion Iran.

"Dwi ddim yn teimlo'n iawn yn gweld pobl o 'dan 20 oed yn colli eu bywydau".

Dywedodd Layla: "Mae rhai pobl yn gofyn pam ydio'n broblem ni i helpu pobl y byd... ond pam dio ddim yn broblem ni?

"Pam da ni'n gallu cael bywyd hyfryd a perffaith a dy nhw ddim."

Yn gwylio o bell, mae'r teulu nôl yng Nghymru yn benderfynol o ddychwelyd yno un diwrnod ac yn gobeithio gweld diwedd y gyfundrefn.

"Hoffem ni fynd adra ac i weld fy nheulu i gyd. Dwi eisiau dyfodol gwell," meddai Hossein.

"Ma o am fod yn boenus, ond mae o am arwain at sefyllfa ddemocrataidd ac mi fydd hynny yn well i'r byd i gyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig