'Mae gan Gymru le i ddiolch i Tim Davie,' medd cyn-gadeirydd bwrdd BBC

Dywed y Fonesig Elan Closs Stephens DBE bod ganddi'r "parch mwyaf" at gyfraniad Tim Davie a Deborah Turness
- Cyhoeddwyd
Mae gan Gymru le i ddiolch i gyn-gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, meddai cyn-gadeirydd bwrdd y BBC, y Fonesig Elan Closs Stephens DBE.
Fe wnaeth Mr Davie a Deborah Turness, pennaeth newyddion y gorfforaeth, ymddiswyddo nos Sul yn dilyn beirniadaeth o bennod o'r rhaglen Panorama, a'r modd y cafodd un o areithiau'r Arlywydd Donald Trump ei golygu.
Dywedodd y Fonesig Elan Closs Stephens fod ganddi'r "parch mwyaf at gyfraniad y ddau" - oedd yn y ddwy swydd uchaf o fewn y BBC.
"O ran Tim Davie roeddwn ar ei bwyllgor penodi pan wnaeth osod allan strategaeth Across the UK.
"O ganlyniad, mae BBC Cymru wedi cael comisiynau sydd wedi ehangu'r gorfforaeth yng Nghymru yn fawr iawn ac wedi noddi'r diwydiannau creadigol," meddai.
Ychwanegodd fod gennym, yng Nghymru, "ddiolch iddo am ei gefnogaeth".

Ymddiswyddodd Tim Davie a Deborah Turness o'r BBC nos Sul
Fe gyhoeddodd y Telegraph fanylion e-bost mewnol, oedd yn awgrymu fod y rhaglen wedi golygu dwy ran o araith yr Arlywydd Donald Trump ac achosi iddi ymddangos ei fod yn uniongyrchol wedi annog y terfysg yn Capitol Hill ym mis Ionawr 2021.
Dywedodd Tim Davie bod "camgymeriadau wedi'u gwneud ac fel cyfarwyddwr cyffredinol mae'n rhaid i mi gymryd y cyfrifoldeb eithaf".
Mae arweinwyr gwleidyddol yn y DU yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd y diswyddiadau'n arwain at newid, tra bo'r Arlywydd Trump wedi croesawu'r penderfyniad.
Yn ddiweddarach fe wnaeth yr Arlywydd Trump fygwth y BBC gydag achos cyfreithiol gwerth $1bn os nad yw'r gorfforaeth yn tynnu'r rhaglen Panorama yn ei hôl, yn ymddiheuro, ac yn rhoi iawndal iddo erbyn 14 Tachwedd.
Fe wnaeth arweinydd Reform UK, Nigel Farage, roi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun yn dweud bod y ffaith fod cyn-brif weithredwr Plaid Cymru, Rhuanedd Richards - sydd hefyd wedi gweithio i Lywodraeth Cymru yn y gorffennol - bellach yn bennaeth dros dro y BBC ar gyfer y cenhedloedd, yn dystiolaeth yn ei farn ef o duedd adain chwith y BBC.
Dywed llefarydd ar ran y BBC: "Mae Rhuanedd Richards wedi gweithio i'r BBC ers 2018 ac yn Gyfarwyddwr BBC Cymru ers 2021. Mae hi'n gyfarwyddwr dros dro ar y cenhedloedd ar hyn o bryd.
"Nid yw Rhuanedd wedi celu ei chefndir proffesiynol ac mae hi'n gwbl ymroddedig i gynnal safonau didueddrwydd y BBC."

Fe wnaeth cadeirydd y BBC, Samir Shah, ymddiheuro am y ffordd y cafodd rhaglen ddogfen Trump ei golygu
Wrth i gadeirydd y BBC, Samir Shah, roi tystiolaeth ger bron pwyllgor seneddol ddydd Llun, fe wnaeth ymddiheuro a chydnabod bod golygu rhaglen ddogfen Trump wedi bod yn "gamgymeriad".
"Ers cyhoeddi memo Mr Prescott, mae'r mater hwn wedi arwain at dros 500 o gwynion.
"Mae'r rhain bellach yn cael eu trin yn y ffordd arferol. Mae hefyd wedi ysgogi ystyriaeth bellach gan y BBC.
"Casgliad y drafodaeth honno ydy ein bod yn derbyn bod y ffordd y golygwyd yr araith wedi rhoi'r argraff o alwad uniongyrchol am weithredu treisgar."
Gwadodd Mr Shah yr honiad fod y BBC wedi ceisio claddu'r problemau oedd yn cael eu hamlygu yn yr erthygl ac hefyd yr awgrym nad oedd y BBC wedi gwneud unrhyw beth i'w datrys.

Bu Arwel Ellis Owen [llun o 1985] yn gweithio i'r BBC am 30 mlynedd
Dywedodd Arwel Ellis Owen, cyn-bennaeth y BBC yng Ngogledd Iwerddon, ar Dros Frecwast fore Llun nad oedd yn siŵr os oedd angen i'r ddau ymddiswyddo.
"Dwi'm yn siŵr am y ddau, ond yn sicr oedd angen i un ymddiswyddo. O'n i'n disgwyl y byddai'r pennaeth newyddion yn mynd."
Ychwanegodd fod yr hyn ddigwyddodd "yn gamgymeriad golygyddol sylweddol iawn, yn tanseilio hygrededd y BBC".
"Ond wedyn 'da chi'n meddwl bod cyfarwyddwr cyffredinol y BBC hefyd yn brif olygydd, hwyrach bod 'na ryw fath o reswm bod dau wedi mynd, lle o'n i'n disgwyl un mewn gwirionedd."
'Mater eithaf difrifol'
Yn ôl Karl Davies, cyn-bennaeth llywodraethu BBC Cymru, mae'r sefyllfa yn gadael y gorfforaeth "mewn lle bregus iawn iawn".
Disgrifiodd y sefyllfa o golli'r cyfarwyddwr cyffredinol a phennaeth newyddion yn "fater eithaf difrifol".
"Bydd y siarter brenhinol yn dod i ben yn 2027," meddai Mr Davies, gan ddweud mai hwn fydd yn penderfynu maint a rôl y BBC.
"Flwyddyn nesa' fydd y penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud o ran y siarter honno.
"Os ydy'r BBC mewn lle yn agored i'w gelynion hi, yna bydd ei gelynion yn chwilio am gyfleoedd wrth i'r siarter frenhinol gael ei rhoi at ei gilydd, i'w lleihau hi a'i thanseilio.
"Da chi'n gweld pwy sy'n llawenhau heddiw o weld y BBC mewn lle gwael, pobl ar yr asgell dde."

Disgrifiodd Karl Davies fod colli'r cyfarwyddwr cyffredinol a phennaeth newyddion yn "fater eithaf difrifol"
Dywedodd Karl Davies mai "integrity golygyddol y BBC ydy hanfod ei chredadwyedd a hanfod ei gwerth hi ydy newyddion diduedd".
"O ydy'r hyn sy'n cael ei ddweud am yr e-bost 'ma a golygu cyfweliad Donald Trump yn wir, yna mae hwnnw yn cael ei danseilio.
"Mae gan bobl - ni dalwyr ffi'r drwydded - reswm i ofyn am gael pethau i gael eu rhoi yn eu lle."
Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn cofio'r "argyfwng mwyaf cyn hwn o bosib", pan oedd rhaid i'r cyfarwyddwr cyffredinol, Greg Dyke, ymddiswyddo yn 2004 yn sgil adroddiad Hutton yn beirniadu ymdriniaeth golygyddol y BBC o ryfel Irac.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2025
