Cân Nadolig newydd yn creu cymuned i unigolion â phroblemau calon

- Cyhoeddwyd
Mae criw wedi dod at ei gilydd i ryddhau cân Nadolig er mwyn creu cymuned i rieni sydd â phlant â nam ar eu calon.
Mae un fam o Sir Benfro sydd â mab a gafodd broblem â'i galon, yn dweud bod y gân, o'r enw 'Pob un plentyn', wedi helpu i "dawelu meddwl" a'i fod yn "neis i gael rhywun i siarad 'da sydd wedi bod trwy'r un peth".
Un o ymgynghorwyr meddygol plant Ysbyty Glangwili, Dr Sian Jenkins, sydd tu ôl i'r fenter, a'i gobaith yw codi ymwybyddiaeth am gyflwr cynhenid y galon ynghyd ag ariannu'r gwasanaeth.
Yn ôl y British Heart Foundation mae'r cyflwr yn effeithio ar 1 o bob 140 o blant y flwyddyn yn y DU - gyda rhai yn derbyn diagnosis yn hwyrach yn eu bywydau.
'Ynysig iawn'
Dwy oed oedd Alun o Sir Benfro pan gafodd ddiagnosis o Aeortic Stenosis, ac ers hynny mae'r teulu wedi derbyn cryn gefnogaeth gan wasanaeth Cardioleg Bediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
"Ga'th Alun ddiagnosis o Aeortic Stenosis pan oedd e jyst wedi troi yn ddwy, oedd e'n classed as severe ar y pwynt 'na.
"So gatho' ni bach o rushed job i Fryste ac oedd e'n cael ei operatio arno mewn llai na mis wedyn… oedd e i gyd yn panic stations ac yn amser erchyll," meddai Eleri, mam Alun.
Esboniodd fod Alun yn wynebu "mwy o driniaethau, ond dwi'n teimlo fod y ffaith bod ni'n nabod plant eraill sydd wedi bod trwy'r un peth â be' ni'n mynd i fynd trwyddo, plant eraill sy'n dod i'r ysbyty yn aml" wedi bod o fudd iddi.
"Mae'n ynysig iawn ar adegau. Mae jyst yn neis i gael rhywun i siarad 'da sydd wedi bod trwy'r un peth," ychwanegodd.

Alun (chwith) gyda'i fam a'i frawd
Fe esboniodd bod y criw o rieni wedi creu grŵp Whatsapp erbyn hyn a bod pawb yn trafod pob math o bethau ac yn helpu ei gilydd.
"Pan bod rhywun â phroblem, mae rhywun arall wedi gweld yr un peth ac mae jyst yn gysur gwybod bod nhw 'di dod trwyddi.
"Mae'r dyfodol yn peri gofid i ni gyd ond mae gwyddoniaeth yn symud 'mlaen trwy'r amser."
Gydag Alun, y mab, wedi mwynhau'r cyfle i fod yn aelod o'r côr a chanu gyda chriw o blant eraill, dywedodd Eleri fod "canu mor dda i iechyd meddwl y plant ac oedolion, ac roedd yn uno ystod eang o oedran, rhai plant yn eu harddegau hyd at Alun sydd yn 6".
Ychwanegodd fod 'na "wahoddiad i unrhyw un sydd â phlentyn cardiag, mae 'na groeso cynnes i bawb i gysylltu a bod yn rhan o'r grŵp achos mae'r cymorth dwi 'di cael yn wych".

Dr Sian Jenkins (chwith) a'i chydweithwyr
Mae Dr Sian Jenkins yn gweithio fel ymgynghorydd y galon yn ward y plant, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Dywed Dr Jenkins fod y côr, Cân o'r Galon, wedi ei ffurfio er mwyn dathlu dewrder y plant.
Ychwanegodd hefyd fod y gân yn gyfle i ddenu'r ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth i deuluoedd y gorllewin sy'n wynebu'r heriau o fyw â chlefyd cynhenid y galon.
Ychwanegodd fod nifer o'r rhieni yn gallu teimlo'n unig ar adegau, ac nad yw'r plant yn gwybod am unrhyw un sydd wedi derbyn triniaeth neu sydd â chraith ar eu calon.
Gobaith y cynllun hwn yw cefnogi mwy o blant a theuluoedd yn ne Cymru sydd wedi eu heffeithio gan y cyflwr.

Band Coron Moron sy'n cyfeilio i'r gân
Mae'r band Coron Moron a gafodd ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl pan oedd y criw yn yr ysgol gynradd, wedi bod wrthi'n cyfeilio i'r gân.
Mae saith aelod yn y band - chwech ohonyn nhw yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac roedden nhw wrth eu boddau.
"Roedd e'n amazing rili i fod mewn ystafell gyda phobl mor ddewr, pobl sydd 'di mynd trwy gymaint. 'Roedd e'n amazing rili i gael y profiad 'na i ni," medd Davey,12.
Ychwanegodd Osian, 12: "Roedd 'e'n brofiad arbennig i 'neud e gyda'r côr hefyd, dwi'n meddwl oedd e'n brofiad mawr iddyn nhw hefyd.
"Oedd e'n rili neis cael canu gyda'r bobl sydd wedi cael triniaeth ar y galon, ac roedden nhw'n rili neis yn siarad gyda'i gilydd a siarad gyda ni hefyd," meddai Harri, 11.
Ychwanegodd Owain, 12: "Roedd e'n sbesial iawn bo' nhw wedi gofyn i ni i chwarae cân am y Nadolig ac i'r plant sydd wedi cael profiad calon a mae gweld nhw'n gwneud fi'n rili hapus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2025
