'Anhygoel' bod calon fy mab a fu farw yn parhau i fachgen arall - mam

RomanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Roman [uchod], 10, "galon hudolus" yn dilyn trawsblaniad gan fab Ms Bates, Fraser, ar ôl ei farwolaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae gan Anna-Louise Bates gysylltiad arbennig gyda bachgen o'r enw Roman, oherwydd ei fod wedi derbyn calon ei mab a fu farw.

Bu farw Fraser, ei hogyn saith oed a'i gŵr, Stuart Bates, 43, ar ôl cael eu taro gan gar yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, ddegawd yn ôl i ddydd Sadwrn, 6 Rhagfyr.

Dywedodd Anna-Louise Bates ar y pryd eu bod y "ddau fachgen mwyaf ysbrydoledig".

Mae hi hefyd yn 10 mlynedd ers cyflwyno cyfraith rhoi organau yng Nghymru, gyda'r nod o gynyddu nifer y rhoddwyr.

Dywedodd un academydd nad ydy'r gyfraith wedi cael llawer o effaith ac mae Ms Bates eisiau i fwy gael ei wneud i dorri'r tabŵ ynghylch rhoi organau, a helpu i achub plant fel Roman.

FraserFfynhonnell y llun, Anna-Louise Bates
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Fraser [uchod] a'i dad, Stuart, tra'n ceisio croesi ffordd yr A4119 ger Llantrisant ar gyrion pentref Tonysguboriau

Yn ddiweddar mae elusen a gafodd ei sefydlu gan Ms Bates, Believe Organ Donation Support, wedi agor gardd goffa ym mynwent y Ddraenen, Caerdydd.

Mae yno goed ffrwythau a thomenni glaswellt mewn siâp organau fel calon, afu ac arennau.

"Mae gen i gysylltiad agos iawn gyda mam Roman nawr ac mae hi'n gefnogol iawn," meddai.

"Rydyn ni newydd gael y galon hudolus yma sy'n dod â ni at ein gilydd ac mae'r ffaith fod e' yno, gyda'r hyn dwi'n ei alw'n galon Roman... mae'n parhau gyda'r llawenydd yna ac mae'n brwydro mor galed."

Ychwanegodd Ms Bates ei fod yn "anhygoel" bod Fraser wedi gwneud gwahaniaeth mor enfawr drwy roi ei organau ac mae'n profi bod "y galon wir yn gallu parhau".

Disgrifiodd mam Roman, Zoe, yr aros poenus o 10 mis am drawsblaniad calon, a'r cyfnod emosiynol anodd, gan nad oedd y teulu'n meddwl y byddai'n digwydd nes iddyn nhw dderbyn yr alwad.

Teulu BatesFfynhonnell y llun, Anna-Louise Bates
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna-Louise Bates fod ei gŵr a'i mab yn "llawn bywyd" ac "nad oedd eiliad ddiflas" gyda nhw

Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i fabwysiadu'r ddeddfwriaeth 'optio allan' ar 1 Rhagfyr 2015.

Mae'n golygu bod caniatâd person i roi eu horganau ar ôl marw yn cael ei ragdybio, oni bai eu bod hwy, neu eu teulu, wedi nodi i beidio gwneud.

Cynyddodd cyfradd y caniatâd o tua 15% yn ystod y tair blynedd gyntaf, ond gostyngodd i'w lefel isaf mewn degawd y llynedd.

Mae Ms Bates yn credu bod stigma ynghylch y pwnc yn broblem a'i bod hi'n bwysig bod pobl yn cael sgyrsiau gyda'u hanwyliaid, sy'n gallu bod yn anodd.

Bu farw ei gŵr a'i mab ychydig ddyddiau ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno.

Roedd y teulu gan gynnwys eu merch Elizabeth, oedd yn dair oed bryd hynny, newydd fod i barti Nadolig.

Cafodd Stuart ei gyhoeddi yn farw yn y fan a'r lle a chafodd Fraser ei gludo i'r ysbyty ac yn ddiweddarach i Ysbyty Plant Bryste, lle bu farw o'r anafiadau i'w ben.

Anna-Louise Bates
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna-Louise Bates wedi creu gardd goffa yng Nghaerdydd i anrhydeddu rhoddwyr organau, gan gynnwys ei mab

Dywedodd Ms Bates ei bod wedi cael y drafodaeth gyda'i gŵr ychydig wythnosau cyn iddo farw yn y ddamwain.

Roedd hynny'n golygu ei bod yn gwybod beth oedd eu dymuniad pan gafodd hi ei holi os fyddai modd cymryd eu horganau.

"Dwi mor ddiolchgar, hyd yn oed yn y gwallgofrwydd hwnnw, fy mod i wedi gallu cyflawni eu dymuniadau," meddai.

Dywedodd mai colli ei gŵr a'i mab oedd "hunllef waethaf pawb" a'i fod dal ddim yn teimlo'n wir ddegawd yn ddiweddarach.

"Un eiliad mae gennych chi'ch teulu hyfryd o bedwar ac yna'r eiliad nesaf mae'r cwestiynau hyn yn cael eu gofyn i chi," ychwanegodd.

Plentyn a Roman [dde]Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Roman [dde] wedi "brwydro mor galed" gyda chyflyrau iechyd, yn ôl Anna-Louise Bates

Doedd Ms Bates ddim yn disgwyl cael ei holi am y peth ar y pryd, oherwydd ei bod yn credu nad oedd angen ei chaniatâd.

Dywedodd ei bod yn poeni bod eraill yn meddwl yr un peth a bod llai o drafod ynghylch y pwnc.

"Yr hyn sydd angen i ni ddweud wrth bobl mewn gwirionedd yw nad yw hyn gyn hawsed ag y gallech chi feddwl, ddim ond oherwydd bod y gyfraith wedi newid," meddai.

"Mae angen mawr i gael y sgyrsiau hyn.

"Dwi'n ofni meddwl sut y byddwn i wedi bod neu pa emosiynau y byddwn i wedi mynd drwyddyn nhw pe na bawn i wedi cael y sgwrs honno gyda Stu."

'Angen mwy o negeseuon'

Dywedodd gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, nad oedd caniatâd wedi'i ragdybio yn ateb hawdd i gau'r bwlch rhwng rhoi a thrawsblaniad.

Roedd y pandemig, llai o ymgyrchoedd cyfryngau mawr, adnoddau cyfyngedig a diffyg ymddiriedaeth posibl yn y gwasanaeth iechyd, yn rhai o'r rhesymau a gafodd eu rhoi dros y gostyngiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Leah McLaughlin, gwyddonydd gofal iechyd ym Mhrifysgol Bangor, Gwynedd, fod "angen mwy o negeseuon arnom hefyd wedi'u hymgorffori mewn bywyd bob dydd".

Ychwanegodd y byddai hynny yn golygu y byddai'n "dod yn fwy o ofal disgwyliedig arferol ar ddiwedd oes, sef yr hyn y mae Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn ceisio'i wneud, ond mae angen y seilwaith arnom i gefnogi'r negeseuon hynny".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol