Y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi mwy o rybuddion melyn am eira a rhew

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 5, Bangor, Y ffyrdd yn llithrig iawn ym Mangor brynhawn Gwener
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn y rhybudd melyn am eira a rhew tan ddydd Llun.

Fe wnaeth y rhybudd gwreiddiol ddod i ben am 12:00 ddydd Gwener ond bellach mae dau rybudd melyn arall mewn grym o 18:00 nos Wener tan 10:00 fore Sadwrn ac o 15:00 ddydd Sul tan 12:00 ddydd Llun.

Gall ffyrdd na sydd wedi eu graeanu fod yn beryglus, medd y Swyddfa Dywydd a gall rhai teithiau gymryd mwy o amser.

Yn y cyfamser mae adroddiadau am eira mewn rhannau o Gymru ddydd Gwener ac mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio bod yna amodau gyrru gwael ar ffordd yr A483 rhwng Llandrindod a Llanbister.

"Ar ddechrau 2026, mae yna blisgen o eira ar Fryniau Clwyd y bore 'ma," medd Tudur Aled Davies o Lanelwy wrth gysylltu â Cymru Fyw.

Ffordd ar gau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhew yn broblem ym Mangor ddydd Gwener

Mae ffordd yr A55 o Fangor i Dreborth bellach wedi'i chlirio wedi amodau tywydd gwael yn gynharach ddydd Gwener.

Ym Mrynrefail mae traffig yn teithio'n araf yn sgil eira.

Mae ffordd yr A496 ym Maentwrog ar gau oherwydd gwrthdrawiad ffordd ac mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio ar bobl i osgoi'r ardal tra bod y gwasanaethau brys yno.

Bu ambiwlans awyr yn lleoliad y digwyddiad ym Maentwrog am tua 14:00.

'Adrannau brys yn llawn'

Dywedodd cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru, Dr Rowena Christmas, fod tywydd oer yn gallu bod yn rhywbeth "anodd iawn" i bobl.

"Mae'n annymunol byw gydag ef, ond mae ganddo effaith enfawr ar iechyd pobl yn ogystal â bod yn anghyfforddus," meddai.

"Rydym bob amser yn gweld cynnydd mawr yn nifer y meddygon teulu sy'n cael cleifion yn dod i'w gweld â phroblemau iechyd pan mae hi'n oer ac rydym yn gweld llawer o dderbyniadau i ysbytai oherwydd salwch acíwt.

"Felly, mae'r adrannau brys yn llawn iawn o bobl y maent yn ei chael hi'n anodd eu rhyddhau."

Dr Rowena ChristmasFfynhonnell y llun, RCGP
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o dai yng Nghymru yn anaddas ar gyfer tywydd mor oer, medd Dr Christmas

Aeth Dr Christmas yn ei blaen i ddweud nad ydy Cymru yn medru delio gydag oerfel yn un modd â gwledydd eraill.

"Mae Cymru'n cael mwy o drafferthion na llawer o wledydd oerach eraill, yn bennaf oherwydd bod gennym lawer o ardaloedd o amddifadedd.

"Mae gennym ardaloedd sydd â thai gwael a llawer o dlodi tanwydd.

"Y bobl sy'n wynebu'r perygl mwyaf yw pobl dros 65 oed, pobl â salwch cronig fel COPD neu asthma a phobl sydd â phroblemau symudedd hefyd."

Ychwanegodd Dr Christmas fod y bobl hynny yn "cael trafferth cadw'n gynnes".

Pa ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan y rhybudd?

Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol yng Nghymru:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Caerffili

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Caerfyrddin

  • Ceredigion

  • Conwy

  • Dinbych

  • Fflint

  • Gwynedd

  • Merthyr Tudful

  • Penfro

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Wrecsam

Pynciau cysylltiedig