Blwyddyn 'anodd iawn' i Noel Thomas wedi diagnosis o ganser

Yn fuan ar ôl cael setliad gan y Swyddfa Bost fe gafodd Noel Thomas ddiagnosis o ganser
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn is-bostfeistr a gafodd ei gyhuddo a'i garcharu ar gam, Noel Thomas, wedi disgrifio'r flwyddyn ddiwethaf fel un "anodd iawn iawn" wedi diagnosis o ganser.
Cafodd y cyn-gynghorydd, 79 oed o Gaerwen, Ynys Môn, ei garcharu ar gam yn 2006 fel rhan o helynt cyfrifiaduron Horizon Swyddfa'r Post cyn cael ei glirio o'r holl gyhuddiadau yn y Goruchaf Lys.
Yn Rhagfyr 2024 fe gafodd iawndal llawn gan y Swyddfa Bost yn sgil y sgandal ond dywedodd na fyddai'n dathlu na hawlio buddugoliaeth.
Yn fuan wedyn bu rhaid iddo wynebu sialens enfawr arall wrtho iddo gael diagnosis o ganser oesoffagal oedd yn "dipyn o sioc i fi a'r teulu".
'Sgynnoch chi ddim byd heb iechyd'
"Mae 'di bod yn flwyddyn anodd iawn 2025, ond diolch i'r nefoedd dwi'n dal i fod yma," meddai Mr Thomas.
"Nes i 'rioed feddwl – o'n i 'di clywad llawar yn dweud bod gynno nhw gansar ond neshi 'rioed feddwl 'swn i'n gal o."
Yn dilyn blynyddoedd o frwydro i glirio ei enw roedd y daith annisgwyl hon yn heriol meddai ac "odd o yn driniaeth galad".
"'It's not a sprint it's a marathon Noel'" meddai doctor wrtho "a mae o 'di deud y gwir hefyd".
Daeth y diagnosis o ganser yn fuan iawn ar ôl y setliad ariannol ond nid dyma'r tro cyntaf iddyn nhw fel teulu orfod wynebu newyddion o'r fath.
Bu farw mab Mr Thomas o ganser adeg Covid ac yntau ond yn 50 oed.
"'Da chi'm yn disgwyl i'ch plentyn fynd o'ch blaen chi nadach?" meddai.
Wrth fyfyrio fe bwysleisiodd "ma' pres 'di bod yn help ond ma' iechyd yn fwy o werth".
"Sgynnoch chi ddim byd heb iechyd a diolch i'r nefoedd dwi 'di cal iechyd a deud y gwir".
'Heb iechyd does ganddoch chi ddim' - Noel Thomas yn siarad am ei brofiad o ddiagnosis canser
Rhwng 2000 a 2014, fe gafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn a'u cyhuddo ar gam o ddwyn arian.
Ond meddalwedd Horizon y Swyddfa Bost oedd ar fai ac mae'r mater nawr yn cael ei ddisgrifio fel "un o'r achosion gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes troseddol Prydain".
"'Ar ôl cael setliad ac ar ôl symud i mewn yn y byngalo yma yn Gaerwen o'n i'n edrych ymlaen at fywyd dipyn gwell i fod yn onast.
"Mae'r setliad wedi dod â dipyn bach gwell safon ar fywyd," meddai ac yn "helpu'r gandchildren fwy na dim".

Mae Mr Thomas yn gobeithio y bydd y flwyddyn nesaf yn un well iddyn nhw fel teulu
Er bod Mr Thomas bellach wedi "canu'r gloch" yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael ei driniaeth mae'n dal i dderbyn therapi imiwnedd ac yn gobeithio y bydd eleni yn flwyddyn well iddyn nhw fel teulu.
Ond ar yr un pryd mae'n gwybod fod sgandal yr is-bostfeistri yn parhau.
Dywedodd ei fod yn poeni bod nifer o bobl - gan gynnwys ffrindiau iddo oedd yn gyn is-bostfeistri - yn dal i ddisgwyl am eu setliad.
""Eiff o byth i ffwrdd," meddai.
"'Da ni'n disgwyl adroddiad dwetha' Syr Wyn Williams i helynt Horizon cyn yr haf os ydw i 'di dallt.
"Fe fydd o'n pwyntio bys at bobl sy 'di bod yn gyfrifol," ychwanegodd.
"Ma' mynd i gymryd amsar ond dwi'n gobeithio 'nai weld y diwadd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2023

- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
