The Traitors: 'Jessie yn dangos i'r byd fod atal dweud yn normal'

Jessie o raglen The TraitorsFfynhonnell y llun, BBC/PA
Disgrifiad o’r llun,

Jessie o raglen The Traitors

  • Cyhoeddwyd

Un o'r cystadleuwyr ar gyfres ddiweddaraf The Traitors sy' wedi denu cryn dipyn o sylw yw Jessie Stride o Hull.

Mae gan y steilydd gwallt atal dweud ond mae'n credu fod ei hatal dweud yn fantais yn y gystadleuaeth ar BBC One gan ei fod yn ei gwneud hi'n fwy gwydn.

Mae hi hefyd yn credu y bydd pobl yn ymddiried ynddi fwy oherwydd ei chyflwr.

Un sy'n croesawu'r drafodaeth y mae Jessie wedi ei hysgogi am atal dweud ac yn gobeithio y bydd yn codi ymwybyddiaeth yw'r cerddor Lloyd Cottrell.

Disgrifiad,

Gwrandewch ar Lloyd Cottrell yn trafod pwysigrwydd gweld ei ffrind Jessie Stride ar raglen The Traitors

Daeth i'r amlwg fod gan Lloyd, sy'n dod o Gasnewydd, atal dweud pan oedd yn bump neu chwech oed.

Penderfynodd ei rieni dalu am gymorth preifat pan oedd yn ei arddegau cynnar.

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru: "Mae Jessie mor ddewr ac mae hi'n neud yn hynod o dda.

"Mae Jessie nawr o flaen y byd ac mae hi mor anodd i siarad gyda hyder pan ti'n byw gyda atal dweud.

"Ond i sefyll o flaen y camerâu a siarad gyda hyder - mae jyst mor dda.

"Mae un person mas o gant yn atal dweud, so mae'n eitha cyffredin, ond ni byth yn clywed na'n gweld atal dweud ar y teledu, oherwydd dyw pobl gydag atal dweud ddim mo'yn siarad am hyn, dydyn nhw ddim mo'yn bod ar y sgrin mawr.

"Mae mor bwysig i godi ymwybyddiaeth ac i wneud yn sicr bod pawb yn gwybod sut i helpu, beth sy'n digwydd, beth sy'n bod."

Lloyd CottrellFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Lloyd Cottrell: 'Y peth gwaethaf mae pobl yn gallu 'neud ydy ceisio gorffen ein brawddegau'

Mae miliynau yn gwylio'r gyfres ar BBC One ac mae siarad o flaen cynulleidfa yn her, yn ôl Lloyd: "Dwi wedi gweithio yn galed iawn i fy helpu i fyw efo fy atal dweud ond mae dal yn her enfawr i fi.

"Ond dwi mor falch o Jessie ac rwy'n adnabod Jessie dipyn bach hefyd. Aethon ni i'r un cwrs atal dweud a ni wedi gweithio yn yr un ffordd felly.

"Mae'r cwrs wedi newid fy mywyd. Cyn y cwrs roeddwn i methu dweud un gair heb atal dweud, roedd yn ofnadwy, ond dwi wedi dysgu lot a gweithio'n rili galed ar fy atal dweud i dysgu technegau newydd a mae hwnna wedi newid fy mywyd.

"Mae'n cwrs intensive so ti'n dechrau ar y dydd Mercher a ti'n gorffen dydd Sul, a bob dydd ti jyst yn torri lawr dy lafar, torri lawr dy atal dweud a ti'n dysgu ffordd newydd i siarad."

Cais am amynedd

Yn y rhaglen The Traitors rydym yn gweld Jessie yn cyflwyno'i hun fel rhywun sy'n byw efo atal dweud ac yn gofyn i bobl i fod yn amyneddgar er mwyn iddi orffen brawddegau.

Meddai Lloyd: "Mae mor bwysig i roi amser i ni, a'r peth gwaethaf mae pobl yn gallu neud ydy ceisio gorffen ein brawddegau. Ni jyst angen dipyn o amser i baratoi, i feddwl ac i orffen ein brawddegau ein hun, a jyst bod yn amyneddgar gyda ni."

Felly ydy Lloyd yn credu fod modd i Jessie ennill y gystadleuaeth?

Meddai: "Mae'n bosib, mae popeth yn bosib a dwi rili mo'yn iddi hi wneud yn dda iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb