Hanes Arthur Cheetham, yr arloeswr ffilmiau o'r Rhyl

Plant yn chwarae yn Y Rhyl mewn ffilm gan Arthur CheethamFfynhonnell y llun, Wikicommons
Disgrifiad o’r llun,

Plant yn chwarae yn Y Rhyl mewn ffilm gan Arthur Cheetham o 1898

  • Cyhoeddwyd

Ar 15 Ionawr 1937, bu farw'r gwneuthurwr ffilmiau arloesol Arthur Cheetham o'r Rhyl.

Yn ystod ei oes, cynhyrchodd tua 30 o ffilmiau byrion ar wahanol ddigwyddiadau gan gynnwys ymweliadau brenhinol, teithiau glan môr yn ogystal â'r ffilm Brydeinig gynharaf sydd wedi goroesi o gêm bêl-droed gystadleuol. Roedd hefyd yn berchennog sinemâu yn yr ardal.

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes a bri un o wneuthurwyr ffilmiau amlycaf Cymru.

Cerdyn post o'r RhylFfynhonnell y llun, WikiCommons
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post o dref wyliau Y Rhyl tua 1898

Ganwyd Arthur Cheetham tua'r flwyddyn 1866 yn Swarkestone, pentref yn ne sir Derby. Bu Joseph, ei dad, yn gweithio fel briciwr a gyrrwr certi tra'r oedd ei fam, Sarah, yn wniadwraig. Yn ystod ei arddegau prentisiwyd Arthur fel argraffydd.

Ar 24 Mawrth 1888 priododd Arthur ferch leol o'r enw Rosanna Garton yn eglwys Abbey Darley, ryw 10 milltir o Swarkestone. Y flwyddyn ganlynol symudodd y pâr i dref Y Rhyl.

Erbyn 1889 roedd Y Rhyl wedi hen ennill ei phlwyf fel un o drefi gwyliau mwyaf poblogaidd Cymru ac yn denu ymwelwyr di-ri bob blwyddyn.

Er ei fod yn cael ei gofio'n bennaf fel gwneuthurwr ffilmiau roedd diddordebau Arthur yn eang.

Yn ôl manylion Cyfrifiad Cenedlaethol 1891 roedd Arthur a Rosanna yn byw ar Stryd y Frenhines yn Y Rhyl. Disgrifiodd Arthur ei hun fel Phrenologist – rhywun oedd yn honni eu bod nhw'n gallu darllen cymeriad, deallusrwydd neu rinweddau moesol person trwy deimlo a mesur eu penglog.

diagram ffrenolegFfynhonnell y llun, William Creswell/WikiCommons
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arthur yn ymddiddori mewn ffrenoleg - gwyddoniaeth sydd bellach wedi cael ei wrthbrofi

Ffug-wyddor yw ffrenoleg a ddaeth yn boblogaidd yn ystod Oes Fictoria ond sydd bellach yn cael ei ystyried yn annerbyniol gan ei fod yn hyrwyddo stereoteipiau ac yn bwydo rhagdybiaethau hiliol.

Yn ôl hysbysebion lleol roedd Arthur yn cynnal darlithoedd ar ffrenoleg ddwywaith y dydd yn ystod y tymor gwyliau. Byddai hefyd yn rhoi darlleniadau preifat o benglogau ymwelwyr am ffi.

Er nad oedd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant meddygol ffurfiol, roedd Arthur hefyd yn honni ei fod yn gallu gwella nifer o gyflyrau gan ddefnyddio 'electro curative battery' – dyfais a oedd yn anfon ysgogiadau trydanol trwy'r corff.

O ffrenoleg i ffilmiau

Erbyn canol yr 1890au, roedd Arthur Cheetham wedi dechrau ymddiddori mwy mewn ffotograffiaeth a ffilmiau.

Paris oedd crud y sinema yn ystod y cyfnod hwn a dros gyfnod y Nadolig 1895 aeth y brodyr Lumière – Auguste a Louis – ati i gynnal, mae'n debyg, y dangosiad masnachol cyntaf erioed o ffilm.

Auguste a Louis Lumière Ffynhonnell y llun, WikiCommons
Disgrifiad o’r llun,

Auguste a Louis Lumière - y brodyr o Ffrainc a oedd yn arloeswyr yn y byd ffilmiau

Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach dechreuodd Arthur ddangos ffilmiau yn Y Rhyl a gwnaeth ei ffilm gyntaf yn 1898. Testun y ffilm honno oedd plant yn chwarae ar draeth Y Rhyl – a hynny yn oerfel mis Ionawr!

Er bod yr Americanwr, Birt Acres, wedi ffilmio ffilm yng Nghymru yn 1896, Arthur oedd y person cyntaf a oedd yn byw yng Nghymru i wneud ffilmiau yma. Rhwng 1898 a 1899 roedd Arthur yn arbennig o weithgar; cynhyrchodd nifer o ffilmiau byrion a oedd yn portreadu bywyd bob dydd yng Nghymru.

Bu hefyd yn ffilmio digwyddiadau pwysig, gan gynnwys gemau pêl-droed – mae ei ffilm o gêm Blackburn Rovers yn erbyn West Bromwich Albion yn 1898 yn cael ei chydnabod fel y ffilm Brydeinig gynharaf sydd wedi goroesi o gêm bêl-droed gystadleuol.

Mae ei ffilmiau hefyd yn cynnwys rhai o enwogion y cyfnod gan gynnwys aelodau o'r teulu brenhinol ac unigolion fel William F Cody neu 'Buffalo Bill', milwr, heliwr a pherfformiwr Americanaidd chwedlonol, ar ymweliad â'r Rhyl.

Buffalo Bill Ffynhonnell y llun, WikiCommons
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelodd Buffalo Bill â nifer o drefi ledled Cymru rhwng 1902 ac 1904, gan gynnwys Y Rhyl

Yn ogystal â gwneud ffilmiau, sefydlodd Arthur gwmni sinema deithiol a oedd yn crwydro hyd a lled Cymru ac yn rhoi'u blas cyntaf o ffilm i nifer sylweddol o bobl.

Aeth ymlaen i agor sinemâu parhaol hefyd gan gynnwys y sinema gyntaf a oedd ar agor drwy gydol y flwyddyn yn Y Rhyl yn 1906 a'r sinema gyntaf ym Mae Colwyn yn 1908.

Er gwaethaf rhai o'i ddiddordebau sydd bellach yn amhriodol mae Arthur Cheetham yn cael ei gofio fel un o'r cymeriadau mwyaf dylanwadol ym mywyd cynnar y sinema yng Nghymru.

Trwy ei ffilmiau amrywiol ef y cafodd llawer o Gymry eu cyflwyno i fyd y ffilm am y tro cyntaf erioed. Heddiw, mae ei waith yn rhoi cipolwg unigryw ar fywyd bob dydd yng Nghymru dros ganrif a mwy yn ôl - ac mae nifer o'i ffilmiau ar gael i'w gweld am ddim ar wefan y BFI.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb