Y sinema sy'n swyno cymuned Tywyn yw'r orau yn y DU

sinemaFfynhonnell y llun, The Magic Lantern
  • Cyhoeddwyd

Mae Sinema'r Llusern Hud ('The Magic Lantern') yn Nhywyn wedi ei dyfarnu fel y sinema annibynnol orau yn y DU yng Ngwobrau Sinema'r Flwyddyn BIFA 2025.

Roedd dros 130 o sinemâu annibynnol ar hyd y DU wedi cystadlu fel rhan o'r gystadleuaeth, ond y sinema gwledig yng nghanol sgwâr Tywyn ddaeth i'r brig gan guro sinemâu dinasoedd mawr fel Belfast a Bristol.

Ac un sydd wrth ei bodd â statws newydd y sinema yw Ella Morgan, rheolwr cynorthwyol y sinema.

Mae'r ferch 28-mlwydd-oed o Dywyn wedi bod yn gweithio yn y sinema ers ei swydd gyntaf yno ar ddydd Sadwrn pan oedd hi ond yn 14 oed.

Wrth ymateb i'w llwyddiant mewn seremoni yn Llundain ar nos Lun, 28 Tachwedd, dywedodd Ella bod y tîm "ar ben eu digon ac y bydd hi'n cymryd blwyddyn i'w traed ddod 'nôl i'r ddaear, a'u bod mor ddiolchgar i'w cymuned a'u cynulleidfa wych yn Nhywyn sydd wedi galluogi'r sinema i dyfu dros y blynyddoedd."

Ella yn y gwobrau (chwith) gyda Sara, rheolwr y sinema (dde)Ffynhonnell y llun, The Magic Lantern
Disgrifiad o’r llun,

Ella yn y gwobrau (chwith) gyda Sara, rheolwr y sinema (dde)

Dangos y 'ffilm gyntaf' yn 1901

Mae adeilad Sinema'r Llusern Hud yn sefyll ar Sgwâr Corbett yn Nhywyn ers 1893.

Cafodd y neuadd bentref ei defnyddio fel sinema mor gynnar â 9 o Fawrth 1901, pan dangoswyd ffilm o olygfeydd o Ryfel Boer yno.

tu mewn y sinemaFfynhonnell y llun, The Magic Lantern

Gwneuthurwr ffilm cynnar o ogledd Cymru, Mr Arthur Cheetham, oedd yn gyfrifol am ddod â'r ffilm yma i'r sinema yn 1901, ac yn ôl Ella, mae'r hanes sy'n perthyn i'r sinema'n rhan o swyn y lle.

Meddai: "O'r tu allan rydych chi'n edrych ar adeilad coch llachar sy'n sefyll ynghanol y sgwâr ac wedyn wrth fynd i mewn mae'r lle wedi ei addurno gyda fairy-lights ac mae yna deimlad o ŵyl yn perthyn i'r lle.

"Wedyn rydych chi'n mynd i mewn i'r auditorium mawr yma lle mae'r sgrin. Mae yna furluniau ar y wal sy'n rhoi cymeriad i'r lle ond beth mae ein cwsmeiriaid wrth eu boddau gyda yw ein gwasanaeth cwsmer.

"O'r foment y byddwch yn cymryd eich sedd mi fydd rhywun yn dod atoch i'ch gweini. Bydd rhai yn dod a'u cŵn i'r sinema hefyd a rydyn ni'n croesawu hynny."

O 'swydd ddydd Sadwrn' i fod yn reolwr cynorthwyol

Mae Ella ei hun yn ymddiddori mewn ffilmiau, ac wrth roi'r rhaglen at ei gilydd gyda Sara, rheolwr y sinema mae'n dweud ei bod wrth ei bodd yn dewis comedïau tywyll gan mai dyna sydd at ei chwaeth personol.

A hithau'n gweithio yn y sinema ers hanner ei hoes, beth sydd wedi ei sbarduno i aros yno?

"Pan ges i swydd dydd Sadwrn yma'n gwerthu popcorn yn 14-mlwydd-oed doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i dal yma heddiw fel rheolwr cynorthwyol.

"Ar ôl gadael ysgol fe 'nes i fynd i'r coleg yn Henffordd i astudio cerddoriaeth ond ro'n i dal i weithio yma ar y penwythnosau.

"Ond bob tro dwi wedi ystyried symud ymlaen a gweithio yn rhywle arall, dwi methu, mae gen i ormod o gariad at y lle, mae pawb yma fel fy nheulu a dwi wrth fy modd efo cyfraniad y sinema i'r gymuned."

bandFfynhonnell y llun, The Magic Lantern
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ella'n aelod o fand The Magic Lantern sy'n cynnal gigs am ddim yn rheolaidd yn y sinema

Er mwyn llenwi dros 100 o seddi coch y sinema mae'r rhaglen flynyddol yn cynnwys cyfuniad o ffilmiau annibynnol a'r ffilmiau mawr blockbuster.

Ond yn ôl Ella, lle a rôl y sinema i gymuned ardal Tywyn sy'n ei gwneud yn unigryw.

Meddai: "Rhoi profiad hudolus i'n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth. Mi rydyn ni'n cynnal miwsig byw am ddim bob nos Wener, clwb ieuenctid nos Iau, cwis, nosweithiau ffilm Cymraeg misol a mi fyddwn ni ar agor ddydd Nadolig er mwyn cynnig bwyd a ffilm am ddim i'r gymuned."

cymunedFfynhonnell y llun, The Magic Lantern
Disgrifiad o’r llun,

Cymuned Tywyn yn sinema'r Llusern Hud

Felly, sut mae cwsmeriaid ffyddlon y sinema wedi ymateb i lwyddiant Sinema'r Llusern Hud?

"Mae wedi bod yn arbennig. Roeddwn i a Sara, ein rheolwr hyd yn oed yn ffrydio y seremoni yn fyw i sgrin y Llusern Hud ac fe gododd y gymuned i gyd i ddawnsio unwaith y cyhoeddon nhw ein bod ni wedi ennill. "

Yn ôl Ella, yr her nesaf i dîm bychan y sinema ar sgwâr Tywyn yw gweld sut y gallan nhw fanteisio ar eu teitl newydd fel sinema annibynnol orau Prydain.

Mae'r sinema'n cynnal digwyddiadau o bob math i ddod â'r gymuned at ei gilydd Ffynhonnell y llun, The Magic Lantern
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sinema'n cynnal digwyddiadau o bob math i ddod â'r gymuned at ei gilydd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: