Sut mae penderfynu cau ysgolion yn yr eira?

Ysgol Godre'r Berwyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid cau Ysgol Godre'r Berwyn yn Y Bala er mwyn diogelwch

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o ysgolion ar gau am ail ddiwrnod yn sgil eira a rhew ar draws Cymru, ond sut mae gwneud y penderfyniad i gadw'r drysau ynghau?

Mae'n "benderfyniad anodd" i'w wneud yn ôl Sarah Tudor, dirprwy bennaeth Ysgol Godre'r Berwyn yn Y Bala, ond diogelwch sy'n dod gyntaf.

Er bod staff wedi bod yn helpu i glirio llwybrau ar dir yr ysgol fore Llun daeth mwy o eira a rhew dros nos, a thymheredd o -9.6C yn Y Bala, gan wneud y safle yn beryglus.

"Yn anffodus, roedden ni wedi gorfod 'neud y penderfyniad i gau bore ma am 07:30. Er fy mod wedi gobeithio gallu agor yn rhannol i ddysgwyr iau yr ysgol neithiwr", meddai Ms Tudor.

"Oherwydd eira a rhew dros nos, gweld oedd hi'n anodd i staffio gallu agor yn rhannol, nes i orfod penderfynu i gau."

Llun o Sarah Tudor, dirprwy bennaeth ysgol Godre's Berwyn, Y Bala.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Tudor yn deall bod penderfynu i gau'r ysgol yn cael effaith ar rieni a disgyblion

Nid ar chwarae bach mae staff ysgolion yn penderfynu cau, meddai Ms Tudor, gan eu bod yn ymwybodol o'r effaith ar rieni a disgyblion.

"Dwi'n siwr fod o'n 'neud pethe'n anodd i rieni a'r plant sy'n edrych 'mlaen at ddod i'r ysgol ond mae'n rhaid ystyried iechyd a diogelwch pawb a dwi wedi gorfod 'neud hynna wrth benderfynu cau'r ysgol bore 'ma.

"Rydym yn mynd i orfod trio agor ar gyfer y dysgwyr sy'n eistedd arholiadau bore fory, dysgwyr blwyddyn 11 a fyddan ni'n cysylltu 'efo rhieni mor fuan â phosib os fydd unrhyw newid i drefniadau bore fory."

Ychwanegodd Ms Tudor bod yr athrawon "wedi cynnal gwersi rhithiol yn fyw i ddysgwyr hŷn yr ysgol" yn enwedig y rhai sydd ag arholiadau yn fuan.

Oes angen paratoi'n well?

Ysgol arall sydd ar gau ddydd Mawrth ydy Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych, Sir Benfro.

Dywedodd y pennaeth Rhonwen Morris ar Dros Frecwast mai gwneud yn siŵr bod y campws yn ddiogel oedd y flaenoriaeth, a bod cyfathrebu hefo'r cwmnïau trafnidiaeth yn bwysig hefyd.

Felly oes angen paratoi ysgolion yn well at sefyllfaoedd o'r fath?

Dywedodd Ms Morris ei fod yn "gwestiwn sy'n codi'n gyson pan mae angen i ni gau ysgolion".

"Mae'n rhaid ni ystyried a ydy staff yn medru cyrraedd yr ysgol yn ddiogel hefyd, a mae'n rhaid sicrhau bod y gymhareb staff i ddisgyblion yn ddigonol gyda ni er mwyn i ni fedru agor yn ddiogel."

Ysgol Bro Preseli
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Ysgol Bro Preseli - un o'r degau o ysgolion sydd ynghau ar draws y wlad

"Ond mae rhaid i ni hefyd ystyried, yn enwedig yma yn y gorllewin, bod nifer o deuluoedd yn byw ar hyd lonydd anghysbell cefn gwlad", meddai Ms Morris.

"Does dim modd i ni raeanu'r holl lonydd hynny, er mwyn sicrhau bod disgyblion yn medru cyrraedd yn ddiogel.

"Mae nifer fawr o deuluoedd 'da ni, sy'n cael eu tywys mewn car i gwrdd â'r bws ar hyd y prif ffyrdd.

"Er bod yna dipyn o waith wedi cymryd lle dros nos i sicrhau bod y prif ffyrdd yn ddiogel, mae'n anodd iawn gwneud penderfyniad pan mae rhagor o eira yn glanio dros nos a bod yr eira hynny wedyn yn cael ei wasgu a'i rewi yn galed."

Rhagor o dywydd garw i ddod?

Mae rhybudd pellach am eira ar gyfer diwedd yr wythnos
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd pellach am eira ar gyfer diwedd yr wythnos

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd arall am rew nos Fawrth a bore Mercher, ac yna tua diwedd yr wythnos bydd Storm Goretti yn cyrraedd Cymru gyda rhagor o eira i rai.

Ychwanegodd Ms Morris ei bod hi'n anodd dweud beth fydd yn digwydd ond bod yr ysgol yn "monitro'r tymheredd yn ofalus".

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhybuddion tywydd ar gael yma.

Mae Traffig Cymru wedi adrodd bod sawl ffordd ledled y wlad wedi cael eu heffeithio gan yr amodau, ac mae diweddariadau ar eu gwefan, dolen allanol.

Effaith ar arholiadau?

Mae disgwyl i nifer o ddisgyblion TGAU sefyll arholiadau llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg yn y dyddiau nesaf.

Ond gyda'r rhagolygon yn edrych yn wael tuag at ddiwedd yr wythnos, beth fyddai sefyllfa disgyblion pe bai ysgolion ar gau?

Dywedodd prif weithredwr CBAC, Ian Morgan wrth BBC Cymru fod "canllawiau mewn lle" sy'n cynnwys "sawl opsiwn gwahanol y mae modd dilyn".

"Yr opsiwn pennaf fydd i'r rheiny sy'n sefyll arholiad Saesneg a Chymraeg llên y wythnos hon i sefyll yr arholiadau yn ystod yr haf, fel nad ydyn nhw'n colli allan," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol