Gŵyl newydd i ddathlu canmlwyddiant Portmeirion

Bydd Gŵyl Portmeirion yn cael ei gynnal ar 4 ac 11 Gorffennaf a 22 a 29 Awst
- Cyhoeddwyd
Bydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal ym Mhortmeirion dros yr haf i ddathlu canmlwyddiant y pentref.
Bydd Gŵyl Portmeirion yn cael ei chynnal yng nghaeau Castell Deudraeth dros bedwar penwythnos, ar 4 ac 11 Gorffennaf a 22 a 29 Awst.
Ymhlith y cerddorion fydd yn perfformio yn yr ŵyl bydd Squeeze, Jools Holland a'i gerddorfa, Syr Bryn Terfel, Côr y Brythoniaid, Gwenno, 9Bach, Bwncath, Melin Melyn, Bob Delyn a'r Ebillion, Pys Melyn a Band Pres Llareggub.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Portmeirion, Robin Llywelyn, y bydd yr ŵyl yn "llai ac yn fwy cynaliadwy" na Gŵyl Rhif 6 - fe gafodd yr ŵyl honno ei chynnal am saith mlynedd tan iddi ddod i ben yn 2018.

Bydd "rhywbeth at ddant pawb", meddai Robin Llywelyn
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Robin Llywelyn fod Gŵyl Rhif 6 "yn llwyddiannus mewn rhai ffyrdd ond yn drafferthus mewn ffyrdd eraill oherwydd yr angen i gael gwersylloedd a meysydd parcio".
"Gŵyl unnos ydi'r pedair gŵyl ac wedyn bydd yna llai o amharu yn lleol - bydd yna le i bawb i barcio ar y safle, mynd i'r ŵyl ac wedyn hel eu pac.
"Hefyd mae'n ymestyn y peth dros gyfnod mwy a rhoi mwy o arlwy fel bod rhywbeth at ddant pawb," meddai.
Dywedodd bydd yr ŵyl yn "dathlu'r canmlwyddiant mewn ffordd deilwng" gyda "grwpiau mawr a mân o bell ac agos".
Bydd yr ŵyl ar 22 Awst yn "hollol Gymraeg", meddai, gyda Bwncath, 9Bach a Bob Delyn a'r Ebillion ymhlith gwesteion eraill.

Bydd Jools Holland yn perfformio ym Mhortmeirion am y tro cyntaf
Mae cael Jools Holland i berfformio gyda'i gerddorfa yn yr ŵyl yn "goron ar y cyfan", meddai Robin Llywelyn.
Dywedodd fod Portmeirion wedi ysbrydoli'r pianydd "sydd wedi bod yma droeon ond sydd erioed wedi canu yma".
"Mae Bryn Terfel yn un o ffrindiau mawr y pentref yma a 'da ni yn falch o gael yntau nôl i ganu yma ac mae eraill yn gyfarwydd â rhai yn dod am y tro cyntaf," ychwanegodd.
Bydd cynnig arbennig i bobl Minffordd, meddai, "oherwydd bod 'na ychydig o amharu ar y sŵn, ond bydd y sŵn yn diffodd am 23:00".
"Da ni wedi trio cadw'r prisiau er mwyn apelio i bawb a rhannu'r ŵyl gyda chyn gymaint ag sydd yn bosib."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018

- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2019
