Atgofion athrawes Aberfan: 'Cofio clywed y sŵn ofnadwy'

Mair Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mair Morgan yn athrawes 25 oed yn Ysgol Pant-glas yn 1966

GanHuw Thomas
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

"Er bod pawb yn dweud ei bod hi'n bwrw glaw, beth rwy'n ei gofio yw rhyw law mân niwlog," meddai Mair Morgan.

Ar 21 Hydref 1966, hi oedd ar ddyletswydd canu'r gloch i alw plant Aberfan i mewn i'r ysgol gynradd.

"Roeddwn i wrth fy modd yno. Roedd yr ysgol yn un hapus iawn," meddai.

Mewn cymuned lle mae'r cof yn aml yn brifo mae Mair ymhlith y rhai olaf i allu tystio'n uniongyrchol i'r hyn a ddigwyddodd.

Mae hi bellach yn 84 oed ond yn 1966 pan lithrodd tomen o wastraff lo i lawr ochr y bryn athrawes ifanc 25 oed oedd hi - roedd hi wedi bod yn dysgu yn Aberfan ers blwyddyn.

Cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd yn y trychineb.

AberfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd yn nhrychineb Aberfan yn 1966

"Ar ein awr ginio, byddem yn cerdded i lawr ochr y gamlas o dan y tomenni i eistedd gyda'n brechdanau. Doedden ni ddim yn meddwl dim amdanyn nhw," meddai Mair Morgan.

Ond roedd wythnosau o law wedi disodli'r domen tu ôl i'r ysgol ac erbyn y bore hwnnw roedd hi'n ansefydlog.

Wrth i'r plant ddechrau ar eu gwersi, daeth y domen i darfu ar y tawelwch.

"Clywais sŵn ofnadwy," meddai Mair Morgan.

Plant iau oedd yng ngofal Mair mewn dosbarth wedi'i leoli mewn adeilad ar wahân.

Pan edrychodd allan drwy'r ffenest gwelodd fod wal rhwng y maes chwarae a'r prif adeilad wedi syrthio.

Heb oedi, casglodd ei phlant bach ac aeth â nhw i lawr y grisiau o flaen yr ysgol.

"Meddyliais y byddai'n well gen i gael y plant allan o'r sefyllfa."

Gan geisio osgoi codi ofn ar y plant, arhosodd wrth ymyl y ffordd o flaen yr ysgol wrth i rieni'r plant ddod i'w casglu - un ar ôl y llall.

"Os ydych chi'n dawel, maen nhw'n dawel hefyd," meddai Mair.

Colli teulu cyfan

Er bod ei disgyblion ifanc wedi llwyddo i ddianc nid oedd rhai o'r teuluoedd yn y tai cyfagos mor ffodus.

"Collodd bachgen bach yn fy nosbarth ei fam a'i chwaer," meddai Mair Morgan. .

Mae Mair yn cofio hefyd am athro o ysgol arall, Bill Evans, a oedd yn byw drws nesaf i Ysgol Gynradd Pant-glas.

"Collodd ei wraig, ei fabi, a'i fab – a ddylai fod yn yr ysgol, ond roedd ganddo tonsilitis felly roedd e gartref. Felly collodd y teulu cyfan."

Dim ond wedyn y daeth gwir faint y drychineb yn amlwg. O'r staff i gyd, dim ond pedwar oroesodd.

Cafodd yr athro addysg gorfforol, Howell Williams, ei gasglu yn sydyn gan ei deulu. Ond fe arhosodd Mair Morgan ynghyd â'r ddwy athrawes arall i oroesi, Hetty Williams a Reenee Williams.

"Roedden ni'n teimlo ein bod ni gorfod bod yno," meddai. "Roedd angen gwneud rhywbeth."

Hettie Williams, Howell Williams, Rennie Williams a Mair Morgan oedd yr unig athrawon i oroesi'r trychinebFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hettie Williams, Howell Williams, Rennie Williams a Mair Morgan oedd yr unig athrawon i oroesi'r trychineb

Yn ystod y diwrnodau yn syth ar ôl y trychineb, gyda'r pentref dan reolaeth yr heddlu a'r gwasanaethau brys, aeth y tair athrawes yn ôl ac ymlaen i Aberfan.

Doedd neb wedi cynnig cwnsela neu gymorth ffurfiol i'r rhai wnaeth oroesi. I'r gwrthwyneb, roedd galw ar yr athrawon i berfformio'r dasg anodd a thrasig.

Yn yr iard, o dan cwt bach oedd yn cadw plant rhag y glaw, cafodd y cyrff cyntaf a gafodd eu tynnu o'r ysgol eu gosod.

"Gofynnon nhw i ni adnabod y plant cyn eu glanhau nhw er mwyn i'r rhieni eu gweld.

"Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn delio â hynny," meddai Mair.

"Rwy'n cofio un ferch fach, dwi dal yn gallu gweld ei hwyneb - ei gwallt du a'i chyrls hardd."

Daeth yn amlwg bod maint y golled yn rhy fawr i'r athrawon barhau â'r dasg o adnabod y cyrff. Ond fe wnaeth Mair, yng nghwmni Hettie a Reenie, barhau i gynnig cysur a chefnogaeth.

"Fe aethom i ymweld â rhieni'r plant fu farw, ac roedd hynny'n hynod o drist, ond roedd angen i ni wneud pethau felly," meddai Mair.

Mae hi'n credu bod y tair athrawes, heb unrhyw gefnogaeth ffurfiol ar eu cyfer, wedi rhoi cefnogaeth emosiynol i'w gilydd.

Fe gadwodd yr athrawon gysylltiad agos gydol eu hoes.

Mae Mair yn cofio'n dda am y gwersi anffurfiol wedi'r trychinebFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mair yn cofio'n dda am y gwersi anffurfiol wedi'r trychineb

Ar ôl gwyliau byr yn Llundain a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon fe aeth Mair yn ôl i ddysgu yn Aberfan.

Ar y dechrau gwersi mewn adeiladau dros dro oedd yn cael eu cynnal gyda phlant o bob oed yn rhannu'r lleoliad.

"Roedd yn anffurfiol iawn," cofia Mair. "Fe wnaethon ni ddarllen gyda'r plant a gwneud ychydig o waith er mwyn ceisio dechrau nôl tuag at normalrwydd."

Er i'r athrawon eraill symud ymlaen i ysgolion eraill, arhosodd Mair yn Aberfan.

"Roeddwn i'n teimlo fy mod yn rhan o'r gymuned… Roeddwn i'n caru'r plant."

Mae'n credu'n gryf bod aros yno wedi rhoi tawelwch meddwl iddi.

Mis Hydref yn dod â'i bwysau

60 mlynedd bron yn ddiweddarach mae Cymru gyfan yn cofio am yr hyn a ddigwyddodd yn Aberfan.

I Mair mae mis Hydref yn dod â'i bwysau.

"Yr unig amser mae'n fy effeithio yw ym mis Hydref. Dydw i ddim yn hoffi mis Hydref o gwbl."

Mae hi'n awyddus i gywiro un ffaith sydd wedi dod yn rhan o chwedl Aberfan ac sy'n tynnu oddi ar wirionedd y trychineb.

"Doedd dim gwasanaeth i'r plant y bore hynny," meddai Mair. "Petaem i gyd wedi bod yn y neuadd ar gyfer y gwasanaeth, fyddai neb wedi goroesi."

Roedd gwasanaeth i fod yn y prynhawn, er mwyn i'r brifathrawes rybuddio'r plant am beryglon yn y gymuned wrth iddyn nhw baratoi i fwynhau y gwyliau hanner tymor a fyddai wedi dechrau y diwrnod canlynol.

Fyddai'r pennaeth, Miss Jennings, wedi dweud wrth y plant i "beidio â mynd yn agos at y rheilffordd, i fod yn ofalus o'r afon ac i osgoi'r pwll glo," meddai Mair.

"Gallai hi fod wedi ymddeol y flwyddyn flaenorol," meddai Mair am Miss Jennings. Bu farw yn y trychineb.

Mae Mair yn cofio hefyd am athro arall, Michael Davies, oedd ar ddechrau ei yrfa.

"Dyma oedd ei swydd gyntaf fel athro. Fuodd e ond yn dysgu am fis a hanner. Mae'n drasig," meddai Mair.

Llyfrau hanes sy'n cofnodi trychineb Aberfan ond mae'n dal i fod ar feddwl Mair yn ei bywyd bob dydd.

Mae hi'n byw yn agos i'r pentref ac mae cyn-ddisgyblion yn siarad â hi'n aml ar y stryd.

Does neb yn trafod y trychineb fel arfer, meddai Mair, ond dyma beth sy'n eu clymu nhw i gyd at ei gilydd yn y pen draw.

"Os ydy e wedi llwyddo i gael gwared ar berygl y tomenni glo, mae'n werth ei gofio," meddai Mair.

Ar drothwy 60 mlynedd ers y trychineb rhaid i bobl ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd, ychwanegodd Mair Morgan.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig