Pryderon am 'felltith' ffrogiau priodas ail-law

Mae Nia John yn edrych yn syth ymlaen ac yn gwenu. Mae ei gwallt wedi clymu nol ac mae'n gwisgo siwmper lwyd. Y tu ol iddi mae ffenest a blodau a rhosynod pinc. Mae hi'n ymweld â ffair briodas.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Nia John yn priodi adeg Pasg 2027 y tu allan i Gaerdydd

GanSian Elin Dafydd
Newydddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Nia John yn gobeithio teimlo fel "tywysoges" yn ei ffrog ar ddydd ei phriodas ymhen blwyddyn.

Ond gwisg newydd sbon fydd ganddi - nid un ail-law.

Mae ymchwil diweddar yn datgelu fod nifer fel Nia yn amharod i brynu ffrogiau sydd eisoes wedi'u gwisgo.

Yn ogystal â phoeni am staeniau ac ogleuon mae nifer o ferched yn bryderus bod gwisg ail-law wedi ei "melltithio".

"Dwi'n licio'r syniad o gael rhywbeth yn ffres dim ond i fi," meddai Nia, 35, o Benybont-ar-Ogwr.

"Hefyd ma' fy chwaer wedi clywed a finne yr holl sôn am be sy wedi digwydd i'r person sy' wedi cael y ffrog yma o'r blaen – curse y ffrog.

"Mae ffrog briodas yn bwysig i fi achos dwi ishe teimlo fel tywysoges fach ar y diwrnod," meddai.

Dau fodel ochr yn ochr wedi eu gwisgo mewn dillad priodasol. Ar y chwith mae siaced smart a gwasgod lwyd, crys gwyn a thei batrymog binc. Ar y dde mae ffrog briodas ifori di-lewys. Mae blodau ffug pinc a phorffor golau wedi eu gosod bob ochr.
Disgrifiad o’r llun,

Mae cost ffrogiau priodas wedi cynyddu ac yn gallu amrywio o gannoedd i filoedd o bunnau

Fe ddangosodd yr ymchwil bod merched oedd ar fin priodi yn cysylltu ffrogiau ail-law â marwolaeth.

"Ym Mhrydain mae gennym hanes a thraddodiad mor hir o amgylch melltithion ac ofergoelion," meddai Dr Lauren Thomas o Brifysgol De Cymru.

"Ond gall fod na ffactorau cadarnhaol pan mae'r ffrogiau wedi'u rhoi fel anrheg gan ffrindiau neu deulu, er enghraifft, ond os nad ydyn nhw'n gwybod hanes y ffrog maen nhw dipyn mwy amheus," ychwanegodd.

Mae Dr Thomas yn arbenigo mewn ffasiwn ac ymddygiad defnyddwyr a bu'n rhan o'r astudiaeth gydag ymchwilwyr o Brifysgol Derby a Phrifysgol Manceinion.

Mae Bronwen Barclay yn sefyll o flaen rhes o ffrogiau priodas. Mae ganddi wallt hir brown ac mae'n gwsgo siwmper goch. Mae'n dal ei ffrog briodas i fyny ac mae modd gweld ychydig ohoni. Mae'n ifori ac wedi ei gwneud o les, does dim llewys ar y wisg.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bronwen Barclay yn gobeithio bydd rhywun yn dewis gwisgo ei ffrog hi'n y dyfodol.

Roedd y rhan fwyaf o briodferched a gymerodd ran yn yr ymchwil yn poeni am yr amgylchedd ac yn hoffi'r syniad o ddewisiadau mwy gwyrdd ond nid oedd cynaliadwyedd yn dylanwadu ar y penderfyniad terfynol wrth edrych ar ffrogiau.

Mae Bronwen Barclay, 35, o Fro Morgannwg yn rhedeg Bridal Reloved Cardiff - siop sy'n gwerthu ffrogiau priodas ail-law.

Cafodd ei hysbrydoli i ddechrau ei busnes ar ôl ymgais i ddod o hyd i'w ffrog briodas ei hun.

Gyda diddordeb mawr mewn cynaliadwyedd, roedd am roi ail gyfle i wisg.

Dywedodd Bronwen ei bod wedi prynu ei ffrog gan briodferch a oedd wedi talu £3,300 amdani'n wreiddiol.

Mae bellach ar werth am lai na £1,000 yn ei siop.

"Roeddwn i wrth fy modd bod rhywun arall wedi'i gwisgo, roeddwn i'n meddwl bod hynny'n gyffrous iawn," meddai Bronwen.

"Yn amlwg nid yw'r ffrog wedi'i melltithio, rwy'n briod ac yn hapus fel y mae'r briodferch y prynais i'r ffrog ganddi," ychwanegodd.

Mae Nia Donnelly ar y chwith a Bethan Donnelly ar y dde ac mae'r ddwy yn gwenu. Mae'r ddwy hefyd yn gwisgo sbectol. Mae gan Nia wallt cyrliog golau a chot las. Mae Bethan yn gwisgo cot werdd ac mae ganddi wallt hir brown.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Donnelly yn hoffi'r syniad bod ei merch Bethan Donnelly yn rhoi cyfle arall i ffrog sydd eisoes wedi ei gwisgo

Yn ôl adroddiad gan Hitched UK mae priodas ar gyfartaledd ym Mhrydain bellach yn costio bron i £22,000.

Mae Bethan Donnelly, 29 oed o Lantrisant yn priodi ym mis Mai 2027.

Yn ogystal ag ystyried yr effaith amgylcheddol o wisgo ffrog unwaith yn unig mae Bethan yn ystyried cost y diwrnod mawr.

"O'r ochr ariannol mae e'n rhatach i brynu ffrog ail-law a fi'n meddwl bod lot o bobl yn edrych ar ôl eu harian mwy nawr nag oedden nhw o'r blaen," meddai.

Roedd Bethan wedi ystyried gwisgo ffrog briodas ei mam, Nia Donnelly, ond mae'n dalach na hi ac mae Nia'n cefnogi bwriad ei merch.

"Dwi ddim yn gweld problem gwisgo ffrog sydd wedi bod yn rhan o ddiwrnod arbennig rhywun arall, dwi'n meddwl bod e'n hyfryd," meddai Nia.

Mae Dr Lauren Thomas yn edrych yn syth ymlaen. Mae ganddi wallt brown at ei hysgwyddau. Mae'n gwisgo crys du ac mae posteri tu nol iddi ar y wal. Mae'r posteri yn dangos delweddau yn ymwneud â ffasiwn.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Lauren Thomas yn arbenigo mewn ffasiwn ac ymddygiad defnyddwyr

Yn ôl Dr Thomas, a briododd yn 2022, mae cwmnïau ar-lein fel Shein sy'n arbenigo mewn ffasiwn cyflym, yn caniatáu i fenywod brynu ffrogiau newydd am bris rhatach.

Ychwanegodd fod gan briodferched Prydain "lai o ddiddordeb" mewn rhentu ffrogiau o gymharu â gwledydd eraill a bod dynion yn llawer mwy parod i logi siwt ar gyfer y diwrnod mawr".

"Mewn llawer o wledydd Ewropeaidd, mae rhentu ffrogiau priodas yn llawer mwy cyffredin, ac mewn gwledydd fel De Korea, mae'r farchnad rhentu ffrogiau priodas tua 75% o'r farchnad," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol