Rownd a Rownd: Yr actorion priod sydd ar fin priodi ar sgrin

Huw Llyr ac Elen Gwynne ar ddiwrnod eu 'priodas go iawn'
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi fod yr actorion Elen Gwynne a Huw Llyr sy'n chwarae'r cwpwl Gwenno a Vince ar Rownd a Rownd yn briod go iawn?
Ar noswyl Nadolig bydd gwylwyr y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd yn gwylio'r cymeriadau Gwenno a Vince yn priodi ar ôl cyfnod llawn tristwch ym mhentref Glanrafon, yn dilyn marwolaeth Kelvin Walsh.
Yn ôl Elen Gwynne a ymunodd â'r gyfres rhyw saith mlynedd yn ôl pan oedd ei gŵr Huw Llyr eisoes yn chwarae rhan Vince yn y gyfres, "roedd Llyr arfer mynd i'w waith i gael llonydd" ond bellach mae'r ddau'n bartneriaid dysgu leins gwerth chweil.
A'r eironi pellach yw mai'r actores Caren Brown fydd yn arwain gwasanaeth priodas Gwenno a Vince ar sgrin, a Caren hefyd wnaeth gofrestru priodas Llyr ac Elen bron i bymtheg mlynedd yn ôl yng Nghapel y Traeth, Cricieth yn rhinwedd ei swydd fel cofrestrydd priodas.

Bydd Caren Brown yn priodi cymeriadau Gwenno a Vince ar Rownd a Rownd
Eglurai Elen: "O'n i'n 'nabod Caren ers blynyddoedd ac mae cael wynebau cyfarwydd o dy gwmpas di'n ychwanegu at deimlad y diwrnod. Mae Caren yn gwneud gwaith cofrestrydd yn amlwg felly oedd o jest yn neud synnwyr i ni gael gymaint o wynebau cyfarwydd i ychwanegu at y diwrnod."
Ond ni sylweddolodd Elen tan ddiwrnod ffilmio priodas Gwenno a Vince mai Caren fyddai'n priodi'r ddau ar sgrin hefyd.
Meddai: "Oedd y diwrnod nathon ni ffilmio priodas Gwenno a Vince yn yr haf felly oedd hi'n ferwedig o boeth ac ar ôl i'r genod colur fynd i gymaint o draffarth efo 'ngholur i a 'ngwallt i o'n i'n gorfod aros tu mewn achos fod bob dim yn llithro.
"Wedyn roedd o'n swreal iawn sylwi mai Caren oedd yn actio'r cofrestrydd, roedd o fel cylch cyflawn."
Gyda gwylwyr y gyfres yn aros yn eiddgar at ddiwrnod priodas Gwenno a Vince, efallai mai ar set y ddrama deledu Y Stafell Ddirgel a ddarlledwyd yn 2001 mae stori gyfeillgarwch Elen a Llyr wir yn dechrau.
Eglurai Elen: "Pam o'n i dal yn coleg job cynta fi oedd addasiad o'r nofel gan Marion Eames, Y Stafell Ddirgel, a fy ngolygfa cyntaf i oedd cymeriad Llyr sef Elis Puw yn dod i fy nôl i er mwyn bod yn forwyn y tŷ ac oedd yr olygfa wedi ei ffilmio'n nhopiau Waunfawr lle ydan ni'n byw rŵan efo Twm ac Erwan a Dyfi y ci."
"Ddaethon ni yn ffrindia' bryd hynny felly dwi wedi gwneud cyfres deledu efo Llyr ond o'n i yn 20 oed a dwi'n 45 'wan felly mae wedi cymryd ugain mlynedd i ni ddod 'nôl yn gweithio efo ein gilydd ar y teledu.

Priodas Vince a Gwenno
"Ond mae'n braf iawn gweithio efo Llyr. 'Dan i'n gallu mynd dros leins adra er bo' fi ddim yn dda iawn am fynd dros leins ond 'dan i'n gallu.
"Mae'n hwyl os ti'n cael gwneud golygfeydd efo ychydig o afael ynddyn nhw fatha ffraeo! Dwi'n mwynhau gweithio efo fo."
A pha mor debyg ydi Elen a Llyr i Gwenno a Vince?
"Dwi ddim yn meddwl bo' fi'n debyg iawn i Gwenno. Efo lot o betha' ma Gwenno yn neud dwi'n rolio fy llygid. Ond dwi'n meddwl fod Vince yn dod â'r hwyl allan yn Gwenno.
"Ac mae'n deg dweud bod Llyr yn dod â'r hwyl allan ohona i hefyd."
Dyw Elen methu datgelu rhyw lawer am briodas Gwenno a Vince, bydd rhaid gwylio i weld. Ond sut ddiwrnod fuodd priodas go iawn hithau a Llyr?
"'Dan ni wedi priodi ers 14 mlynedd felly fydd o'n 15 mlynedd flwyddyn nesa. Ar ôl i Caren ein priodi ni yng Nghapel y Traeth, aethon ni i Nant Gwrtheyrn a gafon ni Maffia Mr Huws yn chwarae gyda'r nos.
"Oedd o'n ddiwrnod bendigedig gyda lot o hwyl a lot o chwerthin."

Esgidau priodas Huw Llyr ac Elen Gwynne. Esgidiau addas i ddawnsio i Maffia Mr Huws
Hefyd o ddiddordeb:
Cwis: Rownd a Rownd
- Cyhoeddwyd13 Medi 2025
Rownd a Rownd: Diwedd cyfnod i Kelvin Walsh a'r actor Kevin Williams
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.