Gwaddol yr Eisteddfod: Gobaith am ŵyl Gymreig newydd yn ardal Wrecsam

Llun o Llinos Roberts, Cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, yn ei gwisg ar gyfer seremoni'r Orsedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Roberts yn dweud bod mwy o ddiddordeb yn y Gymraeg yn Wrecsam nawr nag erioed o'r blaen

  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni mae cyngor yr Eisteddfod yn gobeithio cynnal gŵyl fel "eisteddfod fach" yn y ddinas bob blwyddyn.

Ers mis Awst mae cynnydd wedi bod yn y nifer sy'n mynychu dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn y sir, yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, Llinos Roberts.

Dywedodd fod yr ŵyl ar faes Is-y-Coed wedi gadael ei gwaddol ac wedi "llwyddo i gynne'r ardal" a rhoi "rhyw fath o hyder newydd i bobl symud 'mlaen".

Bwriad sefydlu'r ŵyl newydd "ydi cael gŵyl benodol Gymraeg i Wrecsam" a fydd yn gyfle i hyrwyddo'r iaith ymhellach ar benwythnos ym mis Medi.

Llun o'r dorf yn yr Eisteddfod Genedlaethol o flaen arwydd mawr coch yr Eisteddfod ar y maes.Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol dywedodd 93% o'r ymwelwyr eu bod yn bwriadu dychwelyd yn y dyfodol

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru dywedodd Ms Roberts eu bod wedi "cael cyfarfod yn ddiweddar i drefnu Gŵyl Wrecsam yn flynyddol o hyn ymlaen".

Ychwanegodd bod llawer iawn o siaradwyr Cymraeg newydd wedi mynychu'r cyfarfod "isio bod yn rhan ac isio gwirfoddoli a bod yn rhan o'r bywyd Cymraeg".

"Mae'r Gymraeg am i fyny yn yr ardal," meddai.

Aeth ymlaen i esbonio mai'r gobaith yw y bydd yr ŵyl yn benwythnos o ddigwyddiadau fydd yn cynnig rhywbeth i bawb, i blant, i deuluoedd, i bobl ifanc.

"Rhyw fath o 'steddfod fach mewn penwythnos.

"Gŵyl o gerddoriaeth, o farddoniaeth, o ddawns a chael gŵyl Gymreig."

Mae Wrecsam wedi gwneud cais i fod yn ddinas diwylliant yn 2029, "felly ma' 'na lawer o bethau yn digwydd yn lleol ond dwi'n meddwl fod angen rhywbeth sy'n Gymreig ac yn dathlu'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn yr ardal."

Yn ôl trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, fe ddenodd yr ŵyl fwy o siaradwyr Cymraeg newydd i'r maes nag erioed o'r blaen.

Fe ddangosodd ymchwil ar ddiwedd yr ŵyl hefyd bod nifer yr ymwelwyr wedi mwy na dyblu ers Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 – y tro diwethaf i'r ŵyl gael ei chynnal ger y ffin.

Cyn eleni "doedd llawer o bobl yn yr ardal erioed wedi bod yn yr Eisteddfod o'r blaen", meddai Llinos Roberts.

"Dim ond rŵan 'dan ni'n sylweddoli mi wnaethon ni lwyddo i gael y bobl leol o'r ardal yma i fynychu'r Eisteddfod.

"Llawer ohonyn nhw, falle, wedi troi at y Gymraeg ers hynny neu'n teimlo eu bod nhw'n cael defnyddio'r Gymraeg oeddan nhw heb ddefnyddio ers blynyddoedd, a rhyw deimlad o falchder.

"Mae 'na fwy o bobl wedi troi at ddosbarthiadau dysgu Cymraeg yn ardal Wrecsam a'r cyffiniau [ers hynny].

"Mae'n anodd mesur gwaddol ond i mi, y gwaddol ydy bod y bwrlwm a'r diddordeb yna.

"Dwi'n teimlo bod ni wedi llwyddo i gynne'r ardal."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.