Teyrngedau i ddau ddyn ifanc 'rhyfeddol' fu farw ar Yr Wyddfa

Llun du a gwyn o Eddie Hill a Jayden Long, yn gwenu tua'r cameraFfynhonnell y llun, Instagram
Disgrifiad o’r llun,

Mae perthnasau wedi talu teyrngedau i Eddie Hill, 20, a Jayden Long, 19, aeth ar goll ar Yr Wyddfa mewn amodau gaeafol

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau ddyn ifanc a fu farw ar ôl mynd ar goll ar Yr Wyddfa.

Cafodd y ddau eu henwi yn lleol fel Eddie Hill, 20, a Jayden Long, 19, o Norfolk.

Cafwyd hyd i'w cyrff ar Yr Wyddfa ar 19 Chwefror ar ôl i'r heddlu, timau achub mynydd a Gwylwyr y Glannau chwilio am y ddau mewn amodau heriol ddydd Mercher.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe cafodd Jayden ei ddisgrifio gan ei chwaer, Josie, fel "brawd mawr anhygoel, caredig a gofalgar" a fu farw "yn gwneud rhywbeth roedd yn ei garu".

Yn ôl papur yr Eastern Daily Press, mae brawd Eddie, Harry, wedi ei ddisgrifio fel "mab annwyl" a'r "brawd mwyaf rhyfeddol".

Ychwanegodd: Ni all geiriau ddigrifio'r boen yr wyf fi, fy nheulu a ffrindiau yn mynd drwyddo ar hyn o bryd".

Llun llyfrgell o gopa'r Wyddfa dan eiraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr amodau ar yr Wyddfa wrth chwilio am y ddau ddyn ifanc yn "heriol", yn ôl y timau achub

Fe gododd bryderon bod y ddau ar goll ar Yr Wyddfa ar 18 Chwefror, gan arwain at alw'r gwasanaethau brys.

Roedd timau achub mynydd Llanberis ac Aberglaslyn, tîm awyrlu yr RAF, tîm cŵn chwilio arbenigol SARDA a Gwylwyr y Glannau yn rhan o'r cyrch i ddod o hyd iddyn nhw.

Fe gafodd cyrff y ddau eu darganfod ar 19 Chwefror. Mae'r ddau wedi'u hadnabod yn ffurfiol ac mae manylion yr achos wedi eu hanfon i'r crwner.

Dywedodd Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, Jurgen Dissmann, bod gwirfoddolwyr wedi chwilio "mewn amodau heriol yn yr eira a'r rhew gan weithio oriau hir yn ystod y nos i geisio darganfod y dynion coll mor fuan â phosib...

"Er gwaethaf ein holl ymdrechion i chwilio am y dynion, rydym yn hynod drist nad oedd y canlyniad fel yr oeddem wedi ei obeithio amdano."

Gan gydymdeimlo â theuluoedd y ddau ddyn ifanc, dywedodd clerc Cyngor Cymuned Llanberis, Heather Jones bod y marwolaethau'n "drychinebus" ac yn "drawmatig" i aelodau'r gwasanaethau brys.

Rhybuddiodd hefyd bod yna "ochor dywyll i fwynhau'r mynyddoedd a mae o wedi digwydd wythnos yma".

Mae hi'n apelio ar bob i fod yn ymwybydol o'r peryglon wrth grwydro'r mynyddoedd.

"Mae amodau'n wael iawn," meddai. "Os maen nhw'n wael yma ym mhentref Llanberis, maen nhw'n ddeg gwaith gwaeth ar y mynydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.