Undeb Rygbi Cymru i wynebu cyfarfod brys a phleidlais o ddiffyg hyder

Daeth Richard Collier-Keywood yn Gadeirydd Annibynnol cyntaf Undeb Rygbi Cymru yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn wynebu cyfarfod cyffredinol arbennig fydd yn cynnig pleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd yr undeb, Richard Collier-Keywood.
Does dim dyddiad penodol ar gyfer y cyfarfod eto, ond mae gan URC saith wythnos i'w gynnal.
Mae'n debygol o gael ei gynnal ddiwedd Mawrth neu ddechrau Ebrill ar ôl i Bencampwriaeth Chwe Gwlad y dynion ddod i ben.
Daw hyn ar ôl i Undeb Rygbi Morgannwg Ganol ysgrifennu at y clybiau ym mis Ionawr i geisio sicrhau'r ganran anghenrheidiol o gefnogaeth - 10%, sef bron 30 - i orfodi cyfarfod cyffredinol arbennig.
URC yn rhybuddio bod galwad am gyfarfod brys yn 'anghyfrifol'
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
Cais i'r Uchel Lys atal cytundeb i brynu Rygbi Caerdydd
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Mae'r undeb - sy'n cynrychioli clybiau rygbi ardaloedd Castell-nedd, Port Talbot, Maesteg a Phen--y-bont ar Ogwr, ac yn rhan o ranbarth y Gweilch - yn dweud eu bod wedi cyrraedd y nod hwnnw.
Mae'r BBC wedi gweld llythyr gan ysgrifennydd anrhydeddus yr undeb, Derek Davies, at glybiau ar 22 Chwefror yn dweud eu bod wedi "cyflwyno cais am gyfarfod cyffredinol arbennig i URC".
Mae'n dweud y bydd bwrdd URC yn cadarnhau dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod yn unol â rheolau'r corff.
Dyw'r llythyr ddim yn nodi faint o glybiau Cymru wnaeth gefnogi'r alwad.
Beth yw'r camau nesaf?
Dywed URC eu bod wedi derbyn cais am gyfarfod a bydd yn dilyn y broses briodol, gan gynnwys gwirio bod y cais yn un dilys dan y rheolau.
Mae'n rhaid i'r undeb wedyn, o fewn 21 diwrnod o dderbyn cais, hysbysu dyddiad ar gyfer cyfarfod arbennig.
Mae gofyn i'r cyfarfod ddigwydd o fewn 28 diwrnod o'r hysbysiad.
O fewn y fath amserlen, y dyddiad olaf ar gyfer ei gynnal fyddai 22 Chwefror ond mae'n debygol o ddigwydd cyn hynny.
Dyma fydd pedwerydd cyfarfod cyffredinol arbennig URC mewn 12 mlynedd. Fe gafodd yr un diwethaf ei gynnal ddiwedd Tachwedd 2025.

Mae'r URC wedi derbyn cais am gyfarfod a bydd yn dilyn y broses briodol.
Fe gafodd tri chynnig eu cyflwyno yn wreiddiol ym mis Ionawr fydd nawr yn cael eu trafod yn y cyfarfod arbennig:
Pleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd URC, Richard Collier-Keywood, a chadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, Malcolm Wall.
Etholiadau newydd ar gyfer pedwar aelod o fwrdd URC i'w cynnal o fewn pythefnos o'r cyfarfod.
Newidiadau i'r ffordd y mae aelodau rhanbarthol a chyngor URC yn cael eu hethol.
Mae angen mwyafrif o dros 50% o blith y clybiau i basio'r ddau gynnig cyntaf - mwyafrif o 75% yn achos y trydydd cynnig.
Mae Undeb Rygbi Morgannwg Ganol hefyd yn argymell:
Oedi cynlluniau i newid strwythr y gêm broffesiynol a chynnal adolygiad llawn o gyllideb a strwythr URC i nodi ffyrdd o achub arian - o ran cyflogau rheolwyr ac aelodau bwrdd a thaliadau i ymgynghorwyr - i gefnogi'r gêm ar wahanol lefelau yng Nghymru.
Sefydlu grŵp llywio o fewn tair wythnos yn cynnwys cynrychiolwyr lefelau proffesiynol, Super Rygbi Cymru a chymunedol y gêm ynghyd â'r sector busnes - gyda'r nod o roi cyngor ar faterion rygbi ac osgoi costau drud ymgynghorwyr.
Sefydlu academi cenedlaethol canolog o fewn tri mis i fod yn gyfrifol am nodi a datblygu chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd.
Mae cynrychiolwyr Morgannwg Ganol yn argymell cynnig tâl yn unig i brif weithredwr a chadeirydd URC a chadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, gan ddileu tâl i gyfarwyddwr.
Mae nhw'n dadlau bod angen i gadeiryddion sy'n cael eu penodi i'r ddau gorff fod wedi ymdrwytho yn niwylliant Cymru, bod â dealltwriaeth gref o ran rygbi a gwerthoedd Cymru, gallu siarad Cymraeg yn ddelfrydol a byw yng Nghymru.
'Cydnabod bod newid yn heriol'
Daw'r cam yn dilyn cyfnod tymhestlog i rygbi Cymru ar ac oddi ar y cae.
Mae Cyngor Abertawe wedi gofyn i'r Uchel Lys atal cytundeb posib rhwng URC a pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, i brynu clwb Rygbi Caerdydd.
Mae yna gryn wrthwynebiad i'r bygythiad i fodolaeth y Gweilch os fydd y pryniant yn mynd yn ei flaen yn sgil penderfyniad URC i dorri nifer clybiau rhanbarthol Cymru o bedwar i dri.
Mae URC wedi dweud wrth Gyngor Abertawe na fydd cytundeb â chwmni Y11 yn cael ei gwblhau cyn 16 Mawrth.
Cyngor Abertawe 'wedi cael gwybod na fyddai'r Gweilch yn bodoli'
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Ar y cae mae Cymru wedi colli eu tair gêm gyntaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc, Lloegr a'r Alban.
Maen nhw eto i wynebu Iwerddon yn Nulyn ac fe fydd eu gêm olaf yn erbyn Yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 14 Mawrth.
Dywed URC mewn datganiad eu bod wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer dyfodol rygbi elît yng Nghymru ddiwedd Hydref 2025 "yn dilyn proses ymgynghori eang".
"Rydym nawr yn canolbwyntio ar wireddu'r cynllun hwnnw ac wedi bod yn gweithio'n ddiflino gyda'r cyfranogwyr allweddol yn y misoedd diwethaf i ddod i gonsensws ynghylch ei weithredu.
"Mae'r gwaith manwl yma wedi ei wneud gyda'r clybiau proffesiynol, y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a chynrychiolwyr chwaraewyr, ac rydym yn parhau'n ymroddedig o ran dod i gonsensws ar y camau nesaf.
"Gofynnwn i'r holl gyfranogwyr barhau i weithio gyda ni. Rydym yn cydnabod bod newid yn heriol, ond mae'n hanfodol ar gyfer iechyd hirdymor y gêm yng Nghymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.