Cais i'r Uchel Lys atal cytundeb i brynu Rygbi Caerdydd

Baner URC o flaen stadiwm CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Undeb Rygbi Cymru'n bwriadu gwerthu Rygbi Caerdydd i gwmni Y11

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Abertawe wedi gofyn i'r Uchel Lys atal cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru (URC) a chwmni Y11 i brynu clwb Rygbi Caerdydd.

Mae Y11 hefyd yn berchen y Gweilch, sy'n chwarae yn Abertawe, a phryder y cyngor yw y byddai prynu Caerdydd yn peryglu dyfodol y Gweilch fel clwb.

Daeth cadarnhad ym mis Ionawr gan URC mai Y11 oedd eu dewis i brynu rhanbarth Caerdydd.

Mae URC hefyd eisiau torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri, ac mae dyfalu y gallai hynny olygu na fyddai'r Gweilch yn parhau fel tîm haen uchaf.

Ddydd Mercher dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai'r cytundeb arfaethedig yn "golygu diwedd y Gweilch fel tîm rygbi rhanbarthol proffesiynol i ddynion sy'n chwarae yn URC".

Ychwanegodd y datganiad y byddai gorchymyn llys yn rhoi "cyfle i bawb ystyried opsiynau eraill ar gyfer dyfodol rygbi yng Nghymru".

Dywedodd y cyngor eu bod eisiau gwrandawiad llys brys ac y gallai hynny ddigwydd cyn gynted â'r wythnos hon.

Ond petai URC yn y cyfamser yn ymrwymo'n ysgrifenedig i beidio â chwblhau'r cytundeb, yna byddai'n bosib gohirio'r gwrandawiad llys i ddyddiad diweddarach.

Mae'r cyngor yn dweud bod y cais am orchymyn llys wedi cael cefnogaeth unfrydol gan y cabinet.

Ddydd Mawrth gofynnodd Cyngor Abertawe i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gynnal ymchwiliad i gynllun Y11 ac URC.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.