Cyngor Abertawe 'wedi cael gwybod na fyddai'r Gweilch yn bodoli'

- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Abertawe yn dweud eu bod wedi cael gwybod na fyddai rygbi rhanbarthol yn Abertawe yn bodoli y tu hwnt i ddiwedd y tymor nesaf pe bai perchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, yn prynu Caerdydd.
Mewn datganiad ar ôl cyfarfod gyda swyddogion Undeb Rygbi Cymru (URC) a'r Gweilch, dywedodd y cyngor eu bod wedi cyhoeddi llythyr cyfreithiol cyn-gweithredu at URC ac Y11, yn rhybuddio am gamau cyfreithiol os na fydd ailstrwythuro rygbi proffesiynol Cymru yn cael ei ohirio.
Dywedodd URC nad yw datganiad Cyngor Abertawe yn gywir, ond cadarnhaon nhw eu bod wedi derbyn y llythyr cyfreithiol cyn-gweithredu.
Mae URC eisiau lleihau nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri.
Byddai hynny'n gallu cael ei gyflawni trwy ddileu'r Gweilch fel tîm o'r lefel uchaf, trwy broses o berchnogion y Gweilch yn cymryd rheolaeth o Gaerdydd.
Dywedodd URC fod cyfnod trafod 60 diwrnod gyda Y11 Sport & Media ar y gweill, a'u bod yn cydymdeimlo â'r teimladau cryf sydd wedi cael eu mynegi.
Mae Y11 Sport & Media wedi cael cais am sylw.

Mae URC eisiau lleihau nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri
Roedd Cyngor Abertawe wedi dweud y bydden nhw'n cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 22 Ionawr.
Ond dywedon nhw mewn datganiad ddydd Mercher nad oedden nhw wedi gwneud hynny oherwydd bod URC, Y11, a'r Gweilch yn gwrthwynebu hynny.
Roedd swyddogion o'r cyngor, prif weithredwr URC Abi Tierney, a phrif weithredwr y Gweilch Lance Bradley, yn bresennol yn y cyfarfod.
Mewn datganiad, rhestrodd y cyngor nifer o'r hyn maen nhw'n eu galw yn "ffeithiau allweddol" y maen nhw'n honni a gafodd eu dweud yn y cyfarfod.
'Diffyg tryloywder ac ymgysylltiad'
Yn ôl y datganiad, fe wnaeth prif weithredwr y Gweilch Lance Bradley gadarnhau na fyddai tîm proffesiynol y Gweilch yn chwarae rygbi rhanbarthol ar ôl 2027 pe bai Y11 yn llwyddo i brynu Caerdydd.
Mae honiad bod Mr Bradley wedi dweud hefyd y gallai'r Gweilch uno â Chlwb Rygbi Abertawe wedi hynny, a fyddai'n gweld tîm yn cystadlu yn Super Rygbi Cymru yn hytrach na'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Dywedodd y cyngor fod eu cynrychiolwyr wedi gadael y cyfarfod "gyda dealltwriaeth glir o sail cynigion URC ac Y11 ar gyfer y dyfodol".
Yn ôl y cyngor, hynny oedd "na fyddai'r Gweilch yn parhau fel tîm rhanbarthol proffesiynol ar ôl 2026/27" pe bai Y11 yn cwblhau eu pryniant o Rygbi Caerdydd.
Dywed y cyngor eu bod wedi mynegi "rhwystredigaeth ddofn, er gwaethaf trafodaethau helaeth a diweddar ynghylch ailddatblygu Sain Helen, nad oedd wedi cael gwybod yn gynharach am y cynigion hyn.
"Mae'r diffyg tryloywder ac ymgysylltiad yn gwbl annerbyniol."
Mae'r cyngor yn honni y byddai cynigion ailstrwythuro URC yn torri cyfraith gystadleuaeth y DU, ac mae wedi anfon llythyrau cyn-gweithredu at URC ac Y11 yn gofyn iddyn nhw oedi eu cynlluniau.
Cadarnhad bod URC am werthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
URC yn trafod gyda pherchnogion y Gweilch am brynu Caerdydd
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Mae URC wedi cynnig torri un o'r pedwar tîm dynion proffesiynol - Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets - i dri.
Mae'r undeb wedi dweud y bydd un drwydded yng Nghaerdydd, un yn y gorllewin ac un yn y dwyrain - gyda disgwyl i'r Scarlets yn Llanelli a'r Dreigiau yng Nghasnewydd i gael y rheiny.
Bydd y Gweilch yn parhau i chwarae yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a chystadlaethau Ewrop y tymor nesaf, ond mae eu dyfodol y tu hwnt i ddiwedd ymgyrch 2026-27 yn edrych hyd yn oed yn fwy ansicr erbyn hyn.
Mae ansicrwydd parhaus wedi bod ynghylch beth fydd yn digwydd gyda datblygiad £5m o Sain Helen yn Abertawe, oedd i fod yn gartref newydd i'r Gweilch o ddechrau'r tymor nesaf.
Dywedodd Cyngor Abertawe, sy'n ariannu'r prosiect, mai nod eu camau cyfreithiol yw diogelu dyfodol rygbi rhanbarthol yn y ddinas.
Yn y llythyr cyfreithiol cyn-gweithredu, dywedodd y cyngor fod y penderfyniad i dorri nifer y rhanbarthau yn "gyfyngiad ar gystadleuaeth ac nid yw wedi'i weithredu mewn ffordd deg, dryloyw nac anwahaniaethol".
Dywedodd hefyd fod perchnogaeth URC ar Gaerdydd wedi creu "gwrthdaro buddiannau clir".
Mae'r cyngor wedi gofyn am ymateb i'r llythyr erbyn 13 Chwefror.
'Methu gwneud sylwadau'
Cadarnhaodd URC eu bod "wedi derbyn llythyr cyn-gweithredu gan Gyngor Abertawe, ynghyd â datganiad cyhoeddus sy'n anghywir o ran cyfeiriad at gyfarfod diweddar y buom ynddo".
"Fel y byddwch yn deall, byddwn yn dilyn ein cyngor ein hunain ac felly ni allwn wneud sylwadau ar hyn ar hyn o bryd.
"Mae bwrdd URC wedi gweithio mewn ewyllys da ers iddo ddod i rym rhyw ddwy flynedd yn ôl, i greu ffordd newydd ymlaen i rygbi Cymru o ystyried y problemau sylweddol yn ariannol ac o ran perfformiad yr ydym i gyd yn eu hwynebu.
"Rydym yn sylweddoli bod y rhain yn faterion anodd i bawb sy'n rhan ohonynt, ond rydym wedi gweithredu gyda llwyddiant hirdymor mewn golwg."

Fe wnaeth y Gweilch guro Caerdydd ar Ddydd Calan ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd y Gweilch: "Fel nodwyd yn flaenorol, mae'r Gweilch yn parhau i weithredu fel clwb proffesiynol ac mae'n canolbwyntio ar gefnogi eu chwaraewyr, staff a chefnogwyr wrth gystadlu yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig o dan gytundebau presennol.
"Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch dyfodol y Gweilch ar ôl tymor 2026-27, ac nid oes unrhyw ddatganiadau wedi'u gwneud gan Lance Bradley nac unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r Gweilch sy'n gwrth-ddweud hynny.
"O ystyried sensitifrwydd y materion hyn a'r ffaith eu bod yn cynnwys sawl parti a thrafodaethau parhaus, byddai'n amhriodol i'r Gweilch wneud sylwadau ar ddehongliadau o gyfarfodydd, cynigion sydd heb eu cwblhau, neu ohebiaeth gyfreithiol.
"Mae'r Gweilch yn parhau i fod wedi ymrwymo i ymgysylltu'n adeiladol â'r holl randdeiliaid, ac fe fyddwn yn cyfathrebu'n uniongyrchol ac yn dryloyw pan fydd gwybodaeth wedi'i gadarnhau i'w rannu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.